Datganiadau i'r Wasg

Gwahoddiad i Gymru for yn rhan o weledigaeth newydd

Bydd modd i bobl Cymru fod yn rhan o Weledigaeth Amgueddfeydd Cenedlaethol yng Nghymru, wrth i'r sefydliad gychwyn ar broses o ymgynghori cyhoeddus ar eu gwaith au hamcanion ar gyfer y dyfodol.

Bwriad yr ymgynghoriad yw rhoi cyfle i bawb sydd â diddordeb yn yr amgueddfa a'i gwaith i ddweud eu dweud am gynlluniau'r sefydliad dros y blynyddoedd nesaf.

Meddai Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfeydd Cenedlaethol yng Nghymru:

"Mae'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn rhai cyffrous ac uchelgeisiol, a rydym yn ffyddiog y byddan nhw'n apelio at bobl o bob oed a chefndir sy'n byw yng Nghymru, yn ogystal â'r rheini sy'n ymweld â'r wlad. Rydym yn benderfynol o sicrhau ein bod yn defnyddio ein gorffennol er mwyn creu amgueddfa ar gyfer y dyfodol."

"Ymhen deng mlynedd, bydd mynd i unrhyw un o'n hamgueddfeydd ar hyd a lled Cymru yn brofiad gwahanol iawn. Byddwn yn taclo pynciau mwy dadleuol a chyfredol mewn ffordd heriol a newydd.

"Rydym yn annog pobl i fod yn rhan o'r Weledigaeth, drwy fynd i www.amgueddfa-cymru.org a dweud eu dweud. Neu mae modd galw draw yn unrhyw un o'n hamgueddfeydd a chrwydro'r wefan yn un o'n blychau rhyngrwyd arbennig.. Hefyd gellir cymryd rhan drwy lenwi holiadur fydd ar gael drwy gysylltu ag unrhyw un o'r amgueddfeydd.

"Mae ennyn ymateb yn bwysig i ni. Mae'r Amgueddfeydd yn gyfrifol am ofalu am drysorau'r genedl ar ran pobl Cymru. Nid Gweledigaeth yr Amgueddfeydd yn unig yw hon, ond ein Gweledigaeth ni oll."

Mae'r cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd nesaf yn canolbwyntio ar dair amgueddfa, Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan ac Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion. Un o'r cynlluniau a drafodir yn y Weledigaeth yw'r syniad o ddatblygu'r Amgueddfa Werin i adrodd hanes pobl Cymru yn eu cyfanrwydd. Mae pedair prif thema i'r Weledigaeth, perthyn, y dyfodol, gwreiddiau a chreadigrwydd.

Ychwanegodd Peter Walker, Ceidwad Pwll Mawr:

"Yn ddi-os mae hwn yn gyfnod cyffrous i'r amgueddfeydd cenedlaethol, a rydym ni ym Mhwll Mawr yn edrych ymlaen i wireddu amcanion y Weledigaeth. Cafodd Pwll Mawr ei ail-ddatblygu'n helaeth dros y blynyddoedd diwethaf, ac rwy'n hyderus iawn bod cynnwys y Weledigaeth yn gyfle arbennig i ni adeiladu ar lwyddiant y gwaith hwn."

"Mae croeso i unrhyw un sy'n byw yn yr ardal i alw draw i'r amgueddfa i grwydro gwefan y Weledigaeth yn ystod eu hymweliad. Mae gennym flwch rhyngrwyd arbennig ar gyfer ymwelwyr. Byddwn hefyd yn dosbarthu holiaduron ar y Weledigaeth, felly beth am ymlacio wrth lenwi holiadur yn ein cantîn yn yr amgueddfa?

Dywedodd Dafydd Roberts, Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru:

"Yn ddi-os mae hwn yn gyfnod cyffrous i'r amgueddfeydd cenedlaethol, a rydym ni yn Amgueddfa Lechi Cymru yn edrych ymlaen i wireddu amcanion y Weledigaeth. Mae'r amgueddfa hon yn rhan bwysig o deulu Amgueddfeydd Cenedlaethol yng Nghymru, ac wedi dod yn arbennig o boblogaidd yn dilyn cyflwyno mynediad am ddim rai blynyddoedd yn ôl. Rwy'n hyderus iawn bod cynnwys y Weledigaeth yn gyfle arbennig i ni adeiladu ar ein llwyddiant yn y gorffennol.

"Mae croeso i unrhyw un sy'n byw yn yr ardal i alw draw i'r amgueddfa i grwydro gwefan y Weledigaeth yn ystod eu hymweliad. Mae gennym flwch rhyngrwyd arbennig ar gyfer ymwelwyr. Byddwn hefyd yn dosbarthu holiaduron ar y Weledigaeth, felly beth am ymlacio wrth lenwi holiadur yn ein caffi croesawgar yn yr amgueddfa?

Ychwanegodd Sally Moss, Rheolwr yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol:

"Yn ddi-os mae hwn yn gyfnod cyffrous i'r amgueddfeydd cenedlaethol, a rydym ni yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn edrych ymlaen i wireddu amcanion y Weledigaeth. Cafodd yr Amgueddfa Wlân ei hail-ddatblygu'n helaeth dros y blynyddoedd diwethaf, ac rwy'n hyderus iawn bod cynnwys y Weledigaeth yn gyfle arbennig i ni adeiladu ar lwyddiant y gwaith hwn."

"Mae croeso i unrhyw un sy'n byw yn yr ardal i alw draw i'r amgueddfa i grwydro gwefan y Weledigaeth yn ystod eu hymweliad. Mae gennym flwch rhyngrwyd arbennig ar gyfer ymwelwyr. Byddwn hefyd yn dosbarthu holiaduron ar y Weledigaeth, felly beth am ymlacio wrth lenwi holiadur yn ein caffi croesawgar yn yr amgueddfa?

Ychwanegodd Rheolwr Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Bethan Lewis:

"Yn ddi-os mae hwn yn gyfnod cyffrous i'r amgueddfeydd cenedlaethol, a rydym ni yn Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yn edrych ymlaen i wireddu amcanion y Weledigaeth. Rydym yn falch iawn bod ein hamgueddfa ni yn un o'r dair sy'n cael sylw arbennig a rydym yn hyderus y bydd y blynyddoedd nesaf yn gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r ffordd rydym yn cyflwyno hanes diddorol y Rhufeiniaid yn y rhan yma o Gymru.

"Mae croeso i unrhyw un sy'n byw yn yr ardal i alw draw i'r amgueddfa i grwydro gwefan y Weledigaeth yn ystod eu hymweliad. Mae gennym flwch rhyngrwyd arbennig ar gyfer ymwelwyr. Gall unrhyw un gysylltu â ni hefyd am gopi caled o holiadur sy'n cynnwys manylion am gefndir y Weledigaeth. Rydym yn galw ar bobl leol i'n cefnogi ac i roi barn ar y cynlluniau ar gyfer Amgueddfa'r Lleng Rufeinig."

Mae Amgueddfeydd Cenedlaethol yng Nghymru yn gyfrifol am chwe amgueddfa ar hyd a lled Cymru, yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre, Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor yn Abertawe yn nes ymlaen eleni, yn adrodd hanes diwydiant a blaengaredd yng Nghymru.

Mae mynediad i bob un o'r amgueddfeydd yn rhad ac am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.