Datganiadau i'r Wasg
Amgueddfa Cymru yn caffael paentiadau pwysig o ogledd Cymru
Dyddiad:
2020-09-16Mae grŵp arbennig o baentiadau dyfrlliw o ogledd Cymru o’r 1770au, a helpodd i sefydlu Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr, wedi’i brynu gan Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth gan y Gronfa Gelf, Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol, a rhoddwr preifat.
Mae’r 21 golygfa o ogledd Cymru gan Paul Sandby (1731-1809) yn cynnwys lleoliadau eiconig fel Eryri, cestyll Caernarfon a Harlech, Bala a Llangollen (rhestr gyflawn isod). Maent yn rhoi darlun byw o’r daith arloesol trwy Gymru ym 1771 cyn dyddiau twristiaeth. Paentiodd Sandby y darluniau yn y 1770au cynnar ar ôl teithio’r ardal yng nghwmni’r tirfeddiannwr ifanc a’r noddwr celf, Syr Watkin Williams-Wynn o Wynnstay, Sir Ddinbych (1749-1789).
Mae’r grŵp wedi’i brynu oddi wrth Ystadau Douglas ac Angus trwy gyfrwng Sotheby’s am £240,000, gyda chefnogaeth Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol (£115,000), y Gronfa Gelf (£75,000) a’r gweddill o gymynrodd gan Mary Cashmore.
Mae’r darluniau bach hyn, pob un yn 182 x 260mm, wedi’u paentio mewn gouache – dyfrlliw afloyw – ar bapur neu liain. Maent yn darlunio’r daith yn gyflawn ar ffurf casgliad o olygfeydd lliwgar. Maent yn llawn manylion y dirwedd, y bobl, a’r berthynas rhwng y dosbarthiadau, a rhwng teithwyr a thrigolion. Yn ddiweddarach, cyhoeddodd Sandby brintiau o’r paentiadau hyn, ac fe wnaeth hynny lawer i hybu harddwch Cymru ac annog ymwelwyr.
Mae’r grŵp hwn yn ychwanegiad addas iawn i gasgliad Amgueddfa Cymru: nid yn unig gan ei fod yn tanlinellu pwysigrwydd Syr Watkin fel noddwr i gasgliadau’r Amgueddfa ac i hanes diwylliannol a gwleidyddol Cymru, ond hefyd gan ei fod yn rhan allweddol o sut mae Cymru wedi cael ei phrofi, ei deall a’i chyflwyno ar hyd y canrifoedd.
Dywedodd Andrew Renton, Ceidwad Celf, Amgueddfa Cymru:
“Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i Gronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol, y Gronfa Gelf a Mary Cashmore, a wnaeth y caffaeliad hwn yn bosibl diolch i’w cefnogaeth hael.
“Y caffaeliad hwn yw’r ychwanegiad pwysicaf yn ddiweddar at gasgliad gwych Amgueddfa Cymru o dirluniau Cymreig. Rwy’n siŵr y bydd pobl Cymru yn mwynhau astudio’r gweithiau hyn yn fanwl a gweld sut mae tirwedd gogledd Cymru wedi newid – ac wedi aros yr un fath – dros y 250 mlynedd diwethaf.
“Roedd y golygfeydd hyn yn torri tir newydd o ran poblogeiddio Cymru fel cyrchfan dwristaidd, gan gyflwyno’r wlad fel lle ‘aruchel a phictiwrésg’ gydag economi fywiog, yn hytrach na’r stereoteip rhagfarnllyd o wlad farbaraidd, dlawd.
“Byddai’n wych gweld y paentiadau hyn yn dychwelyd i’r ardaloedd maent yn eu portreadu, a’r gobaith yw gallu eu harddangos mewn orielau yng ngogledd Cymru cyn gynted ag y bydd modd.”
Dywedodd Wendy Phillips, Pennaeth Adran Dreth, Treftadaeth ac Amgueddfeydd y DU Sotheby’s, a Dirprwy Gadeirydd Sotheby’s UK and Ireland:
“Mae’n wych gweld y portffolio cain hwn o ddyfrlliwiau yn dychwelyd i Gymru, 250 mlynedd ar ôl i Sandby eu paentio. Mae tîm Treth, Treftadaeth ac Amgueddfeydd y DU Sotheby’s yn gweithio’n galed i gefnogi a rhoi cyngor i berchnogion ac amgueddfeydd yn y DU, a straeon fel hyn sy’n gwneud ein gwaith yn werth chweil. Llongyfarchiadau i bawb yn Amgueddfa Cymru am y caffaeliad newydd hwn – edrychwn ymlaen yn arw at weld y tirluniau yn eich orielau yn y dyfodol agos.”
Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i’r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’i gilydd, mae’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.
Enillodd un o’r amgueddfeydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru sy’n canolbwyntio ar hanes a diwylliant Cymru, wobr Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019.
Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru’n gwerthfawrogi pob cefnogaeth.
Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.
Mae Amgueddfa Cymru wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus i holi barn pobl Cymru am gyfeiriad y sefydliad dors y 10 mlynedd nesaf, er mwyn gwneud Cymru yn lle gwell i dyfu, i fyw ac i weithio.
Bydd yr ymgynghoriad yn agored tan 30 Medi. Gall pobl gyfrannu drwy sawl dull gwahanol; ar wefan amueddfa.cymru/dweudeichdweud , dros e-bost, drwy gwblhau arolwg neu yn greadigol mewn gweithgareddau i’r teulu. Mae’r arolwg hefyd ar gael fel dogfen hawdd ei darllen ac fel recordiad sain. Bydd cyfle drwy gydol yr ymgynghoriad hefyd i ymateb drwy gyfrifon Facebook, Twitter ac Instagram Amgueddfa Cymru.
DIWEDD