Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Bydd ein hail rifyn yn canolbwyntio ar Ddiwylliant Gweledol a Iechyd.
Galwad am gyfranwyr
Bydd Amgueddfa Cymru yn lansio cylchgrawn celf rhyngweithiol, ar-lein o’r ewn Cynfas yn Hydref 2020. Y nod yw rhoi llwyfan i leisiau amrywiol siarad am y casgliad celf cenedlaethol yn Amgueddfa Cymru, ac annog trafodaeth gyfoethog am ddiwylliant gweledol yng Nghymru. Bydd yn llwyfan i drafodaeth a sgwrs fydd yn llywio datblygiad profiad ar-lein Amgueddfa Cymru, yn ogystal â’r rhaglen arddangosfeydd.
Bydd rhifynnau misol y cylchgrawn yn cynnwys erthyglau neu brojectau celf ar-lein gan bobl o bob cwr o Gymru mewn amryw gyfryngau digidol. Ymhlith y cyfranwyr bydd artistiaid, pobl ifanc, addysgwyr, academyddion, awduron a sefydliadau partner.
Cyfrannu
Rydym yn gwahodd pobl o bob cwr o Gymru i gyfrannu erthyglau (hyd at 2000 o eiriau), projectau celf ar-lein, neu ymyrriadau celfyddydol ar gyfer ein rhifynnau thematig misol. Croesewir cyfraniadau mewn unrhyw gyfrwng i’w cyhoeddi ar y platfform ar-lein, gan gynnwys fideo, sain a chyfryngau wedi’u mewnblannu.
Rydym yn chwilio am gyfraniadau yn cynnwys elfennau o’r canlynol:
1) Deunydd dewr a deniadol yn adlewyrchu hanes ac arferion cyfoethog y diwylliant gweledol yng Nghymru
2) Ymateb i waith yng nghasgliad Amgueddfa Cymru
3) Rôl celf ac artistiaid yn sbarduno newid
4) Profiadau personol
5) Awgrymiadau ar sut y gall addysg adlewyrchu ac ymdrin â’r drafodaeth hon
6) Sut y gellir ailddychmygu’r dyfodol.
Mae croeso i chi gyfeirio at weithiau ar Casgliadau Arlein Amgueddfa Cymru, neu gelf weledol arall y mae gennych hawl i’w atgynhyrchu.
Does dim rhaid bod yn feirniad celf. Rydym am glywed gwahanol leisiau sy’n edrych ar ddiwylliant o safbwynt gwahanol – safbwynt pobl anabl, cyfiawnder cymdeithasol, iechyd ac ati. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg.
Mae dyddiad cau ceisiadau bellach wedi ei ymestyn i 25 Medi 2020.
Sylwer – Rhaid cyflwyno gwaith gwreiddiol sydd heb ei gyhoeddi o’r blaen.
Y broses ymgeisio
Os ydych chi’n ystyried cyfrannu ac am wybod rhagor, cysylltwch â angela.maddock@mac.com.