Datganiadau i'r Wasg

Lansio adnodd digidol Cysur mewn Casglu ar Ddiwrnod Cenedlaethol Celf mewn Cartrefi Gofal

Amgueddfa Cymru yn defnyddio’r casgliadau cenedlaethol i wella lles mewn cartrefi gofal yn ystod y pandemig

Dros y pum mis diwethaf mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i rannu gwrthrychau o’r casgliad cenedlaethol sydd wedi bod yn gysur i bobl mewn cyfnodau o ofid a chaledi. O botel ddŵr poeth a thedi, i flanced a chloc dad-cu, y gobaith oedd rhoi cysur i bobl, codi calonnau, a gwella lles pobl yn ystod pandemig COVID-19.

Nawr, ar Ddiwrnod Cenedlaethol Celf mewn Cartrefi Gofal (24 Medi), mae Amgueddfa Cymru yn lansio tudalen we yn llawn adnoddau digidol newydd am y gwrthrychau, yn benodol i’w defnyddio mewn cartrefi neu grwpiau gofal.

Gellir lawrlwytho taflenni gweithgaredd a rhagor o wybodaeth am y gwrthrychau er mwyn sabrduno sgwrs a dwyn i gof atgofion melys i bobl sydd mewn perygl o brofi unigrywdd cymdeithasol.

Dros yr haf cynhaliodd Amgueddfa Cymru raglen beilot gyda grwpiau amrywiol yn Nhorfaen, Blaenau Gwent a Chaerdydd, gan ddarparu gweithgareddau themtig a chasglu adborth i lywio’r adnodd. Cafwyd cyfraniad i’r cynnyrch terfynol gan ofalwyr proffesiynol gyda blynyddoedd maith o weithio gyda phobl hŷn, pobl ag anableddau dysgu, a phobl â dementia a’u hanwyliaid.

Un gweithgaredd odd yn boblogaidd mewn cartrefi gofal oedd trafod gwyliau a thripiau diwrnod. Sbardunwyd sgyrsiau wrth edrych ar luniau o gyrchfannau gwyliau a gwrthrychau o gasgliadau’r Amgueddfa, ac ar ôl edrych ar wrthrychau wedi’i golchi i’r lan yng Nghartref Nyrsio Pen-y-bont yn Abertyleri fe ganodd y trigolion I Do Want to be Beside the Seaside a mwynhau hufen iâ.

Dywedodd Mandy Reed, Cydlynydd y gweithgaredd: “Mae’n wych gweld casgliadau’r Amgueddfa’n cael eu defnyddio i sbarduno trafodaeth ar themâu y gall ein trigolion uniaethu â nhw, ac rwy’n gwybod y bydd nifer yn mwynhau’r gweithgareddau rhyngweithiol.”

Mae’r project yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, y Gymdeithas Alzheimer, Innovate Trust a Phartneriaeth Lles, Iechyd a Gofal Gwent Fwyaf.

Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd Amgueddfa Cymru gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery. 

Dywedodd Sharon Ford, Rheolwr Addysg ac arweinydd lles Amgueddfa Cymru:

“Gall Amgueddfeydd chwarae rôl allweddol yn gwella ein iechyd meddyliol a chorfforol, trwy ymweld neu raglenni penodol. Yn ein saith amgueddfa rydyn ni’n gweithio gydag ystod o bartneriaid iechyd a lles i ddatblygu gweithgareddau ystyriol ac ysgogol i bobl ag amrywiaeth o anghenion.

“Un esiampl o’n gwaith yw Cysur mewn Casglu. Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni hefyd wedi datblygu menter Men’s Shed a thaith i bobl â dementia yn Big Pit, teithiau ymwybyddiaeth ofalgar yn Sain Ffagan, ac Arddangosfa Gobaith yn Amgueddfa Wlân Cymru - a’r cyfan ar gyfer cynulleidfaoedd ag anghenion gwahanol. 

“Mae nifer wedi profi unigrwydd cymdeithasol yn ystod pandemig COVID-19, a nod Cysur mewn Casglu yw helpu’r bobl yma a dod i ddeall yn well sut gall casgliadau Amgueddfa Cymru gael eu defnyddio i wella iechyd a lles trigolion cartrefi gofal heddiw, ac i’r dyfodol.”

 

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE:

“Mae Cysur mewn Casglu yn ffordd unigryw o gysylltu trigolion cartrefi gofal â chasgliadau Amgueddfa Cymru, ac rwy’n sicr y bydd yr ymgyrch yn tanio nifer o sgyrsiau ac atgofion byw ym mhob cwr o Gymru.

 

“Mae gweithgareddau mewn cartrefi gofal yn hanfodol i helpu gwella safon byw pobl hŷn pan fydd gweithgareddau arferol ddim yn bosib. Byddwn i’n annog cartrefi gofal i ymwneud â’r fenter a defnyddio’r adnoddau ardderchog a ddatblygwyd gan Amgueddfa Cymru.”

 

Mae’r adnoddau newydd i’w gweld yn xxxxxx

Ac mae casgliad Amgueddfa Cymru i’w weld yn amgueddfa.cymru/casgliadau

 

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i’r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’n gilydd, mae’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Enillodd un o’r amgueddfeydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru sy’n trafod hanes a diwylliant Cymru, wobr Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019 .

Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru’n gwerthfawrogi pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery. 

Mae Amgueddfa Cymru wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus i holi barn pobl Cymru am ein cyfeiriad dros y deng mlynedd nesaf er mwyn gwneud Cymru yn lle gwell i fyw, tyfu a gweithio.

Dyddiad cau’r ymgynghoriad yw 30 Medi. Mae amryw o ffyrdd i gyfrannu; drwy fynd i  amgueddfa.cymru/eichllais, dros e-bost, cwblhau arolwg, neu gysylltu mewn gweithgareddau i’r teulu.

Mae dogfen print bras a fersiwn sain o’r ymgynghoriad ar gael hefyd. Bydd cyfle drwy gydol y cyfnod ymgynghori i ymateb drwy gyfrifon Amgueddfa Cymru ar Facebook, Twitter ac Instagram.

 

DIWEDD