Datganiadau i'r Wasg

£55,000 wedi’i ddyfarnu i Amgueddfa Cymru i helpu ei darpariaeth addysg ar draws Cymru yn ystod COVID-19

Sefydliad y Fonesig Vivien Duffield yn rhoi £2.5m i ddiogelu addysg ddiwylliannol mewn 66 sefydliad ledled y DU 

Bydd Amgueddfa Cymru yn derbyn cymorth o becyn gwerth £2,551,371 gan Sefydliad Clore Duffield, gaiff ei gadeirio gan y Fonesig Vivien Duffield. Mae’r Sefydliad yn cefnogi 66 sefydliad diwylliannol ar draws y DU, gan gynnwys Amgueddfa Cymru, i barhau i ddatblygu eu gwaith addysg a chymunedol yn ystod y pandemig. 

 

Cafodd Canolfan Addysg Clore yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Gofod Gweithgaredd Clore yn Gweithdy, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, eu cefnogi gan Sefydliad y Fonesig Vivien Duffield. Golygai hyn bod Amgueddfa Cymru yn gymwys am y wobr hon o £55,000. 

 

Amgueddfa Cymru yw darparwr mwyaf addysg tu allan i’r ystafell ddosbarth yng Nghymru. Er gwaethaf gorfod cau amgueddfeydd dros y 7 mis diwethaf, mae darpariaeth addysg Amgueddfa Cymru wedi parhau gydag ysgolion ac oedolion o bob cwr o Gymru yn defnyddio’r adnoddau addysg rhithiol. 

  

Mae’r Amgueddfa wedi datblygu ei gweithdai mwyaf poblogaidd yn brofiadau rhithiol a bydd y cyllid newydd hwn yn galluogi’r Amgueddfa i ehangu’r ddarpariaeth a chyrraedd mwy fyth o ddisgyblion ysgol, oedolion, a grwpiau cymunedol ledled Cymru. 

 

Yn ystod y pandemig, mae Amgueddfa Cymru hefyd wedi bod yn cysylltu â chymunedau drwy gynlluniau fel Cysur mewn Casglu. Mae’r Amgueddfa wedi bod yn rhannu ar ei chyfryngau cymdeithasol wrthrychau o’r casgliadau cenedlaethol sydd wedi bod yn gysur i bobl yn y gorffennol mewn cyfnodau caled. O botel dŵr poeth a blanced i dedi bêr a chloc taid, y gobaith oedd y byddent yn dod â chysur a mwynhad i eraill yn ystod COVID-19. 

 

Y bwriad nawr yw gweithio gyda chartrefi gofal a grwpiau eraill ar draws y wlad, gan rannu adnoddau digidol ar y gwrthrychau hyn ac eraill. 

 

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru: 

 

“Mae cau ein hamgueddfeydd, sydd fel arfer yn llawn plant ysgol, teuluoedd a grwpiau cymunedol, yn ogystal ag ymwelwyr eraill, wedi bod yn brofiad anodd ac emosiynol. 

 

“Fodd bynnag, rydyn ni eisiau parhau i ysbrydoli cynulleidfaoedd, hen a newydd, trwy ein gwaith, gan roi sicrwydd i bwy bynnag sydd ei angen, ac ysbrydoli unrhyw un sy’n chwilio am rywbeth newydd. 

 

“Hoffwn ddiolch yn bersonol i’r Fonesig Vivien Duffield am ei rhodd hael fydd yn ein galluogi i barhau i weithio gyda’n partneriaid i gefnogi a gwasanaethu cymunedau ledled Cymru yn y cyfnod heriol hwn, gan ganolbwyntio yn benodol ar bobl sy’n wynebu’r anfanteision mwyaf.” 

 

Mae amgueddfeydd, orielau, theatrau, canolfannau celf, dawns, cerddoriaeth a sefydliadau treftadaeth ym mhob un o bedair gwlad y DU yn elwa o’r pecyn cymorth hwn. Yn eu mysg mae Amgueddfa Cymru, Birmingham Royal Ballet, Bristol Old Vic, Amgueddfa Foundling, Amgueddfa Garden, Castell Hillsborough Castle, Kettle’s Yard, Leach Pottery, Oriel Gelf Manceinion, Oriel Genedlaethol yr Alban, The Roundhouse, Royal Academy of Arts, RIBA, RSC, Sage Gateshead, Tate, Turner Contemporary, Unicorn Theatre, a’r V&A.  

 

Dywedodd y Fonesig Vivien Duffield:  

 

“Dros y blynyddoedd rwyf wedi sylweddoli bod angen i amgueddfeydd, orielau a llefydd diwylliannol eraill ymgysylltu â phlant ac oedolion trwy eu rhaglenni addysg. Rydym felly wedi ariannu dros 60 o ofodau addysg Clore mewn lleoliadau mawr a bach ledled y DU. Rydym yn rhoi arian i’w sefydlu, nid i’w cynnal. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod cloi roedd pob un ar gau, ac wrth i’r sefydliadau ailagor yn raddol, sylwom mai ychydig iawn o’r gofodau addysg oedd wedi gallu ailagor. Bydd y rhodd hon yn helpu’r sefydliadau, lle bo’n bosibl, i gychwyn eu rhaglenni addysg ar y safleoedd pan fydd yr amser yn iawn, a phan fydd hynny’n ddiogel – wrth gwrs, y bwriad arall yw helpu i gefnogi gwaith y timau addysg sy’n arwain y ddarpariaeth.” 

 

DIWEDD