Datganiadau i'r Wasg
Y Pwll Mawr yn y pedwar olaf am wobr fawr yr Amgueddfeydd
Dyddiad:
2005-03-21Rydyn ni wrth ein bodd i gyhoeddi bod y Pwll Mawr wedi llwyddo i gyrraedd pedwar olaf Gwobr Gulbenkian am Amgueddfa'r Flwyddyn. Cewch glywed y cyhoeddiad ar raglen Front Row Radio 4 am 7.00pm heno. Cewch weld y sylw yn y wasg a'r cyfryngau ddydd Mawrth hefyd, gobeithio. Ni fyddwn ni'n gwneud unrhyw sylw tan ar ôl y cyhoeddiad. Wedyn bydd y datganiad i'r wasg yn ymddangos ar wefan AOCC.
Diolch i bawb sydd wedi cefnogi cais y Pwll Mawr dros y misoedd diwethaf. Bydd y cyhoeddiad terfynol yn digwydd ddiwedd Mai.