Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn caffael brasluniau cynnar gan artist pwysig o Gymru

Mae dau baentiad olew prin gan yr artist o Gymru, Thomas Jones (1742-1803), a ganfuwyd yn ddiweddar wedi eu caffael gan Amgueddfa Cymru.

Tirlun Cymreig gyda Mwyngloddiau Plwm
Tua 1775-76
Olew ar banel
Prynwyd, 2020
©Miles Wynn Cato Gallery – Welsh Art

Golygfa o Afon Gwy
Dechrau’r 1770au
Ole war bapur, dros fwrdd artist trwchus o’r 19eg ganrif
Prynwyd, 2020
©Miles Wynn Cato Gallery – Welsh Art

Mae Tirlun Cymreig gyda Mwynfeydd Plwm, a baentiwyd oddeutu 1775-6, yn ddarlun cynnar pwysig o’r Gymru ddiwydiannol - pwnc unigryw yng ngweithiau hysbys Thomas Jones. Mae’r paentiad yn cyffwrdd ar effaith gwawrio’r chwyldro diwydiannol ar dirlun y canolbarth.

Mae Golygfa ar Afon Gwy yn dangos cwch ar afon Gwy, safle o ddiddordeb gwyddonol penodol a enwebwyd unwaith yn ‘afon brydferthaf y genedl’. Roedd yr afon yn gyrchfan boblogaidd i artistiaid, awduron a thwristiaid, yn enwedig fel canolbwynt i deithiau picturesque poblogaidd. Mae’n bosib taw dyma un o astudiaethau hysbys cynharaf Thomas Jones o’r afon.

Heddiw mae Thomas Jones yn adnabyddus fel artist o bwys rhyngwladol o Gymru, ond fe’i anghofiwyd am ganrif a mwy wedi ei farw. Canfuwyd ei waith o’r newydd ddechrau’r 1950au pan gyhoeddwyd ei gofiant bywiog, Memoirs, ac ymddangosodd nifer o’i frasluniau olew ar y farchnad am y tro cyntaf. Mae’n cael ei gydnabod heddiw fel un o artistiaid mwyaf dyfeisgar y 18fed ganrif gyda gweledigaeth bersonol iawn i’w gweld yn ei frasluniau.

Sylfaen ei enw da i raddau helaeth yw ei dirluniau olew bychan o’r Eidal, yn enwedig adeiladau Napoli a baentiodd er ei fwynhad personol yn hytrach nag i’w harddangos. Mae’r gweithiau yma yn hynod ffres a byw hyd heddiw, gydag apêl modern sy’n eu dyrchafu uwchlaw remarkably fresh and vibrant, and have a unique modern appeal which sets them apart from mantirluniau cyffredin y 18fed ganrif.

Mae ei frasluniau olew o’r Eidal wedi denu cryn sylw yn rhyngwladol, ond yma yng Nghymru y magwyd ei gariad at fraslunio’r tirlun mewn olew. Fel ei athro, Richard Wilson, roedd Cymru’n agos iawn i’w galon, a byddai’n aml yn paentio tirlun ei filltir sgwâr yn Sir Faesyfed.

Dywedodd Stephanie Roberts, uwch Guradur Celf Hanesyddol Amgueddfa Cymru:

“Mae’r rhain yn baentiadau hyfryd gan artist oedd â gweledigaeth bersonol o flaen ei amser. Collwyd nifer o’i frasluniau olew cynnar o Gymru am iddynt gael eu cadw mewn seler laith pan symudodd gyntaf i’r Eidal. Mae’r canfyddiadau newydd yma yn ychwanegiad cyffrous i’n casgliad o dirluniau Cymru gan un o hoff artistiaid hanesyddol Cymru.”

Roedd y ddau fraslun olew, Tirlun Cymreig gyda Mwyngloddiau Plwm, a Golygfa o Afon Gwy gynt mewn casgliadau preifat, a dim ond yn ddiweddar y daethant i lygad y cyhoedd. Gwnaed gwaith ymchwil trylwyr gan y gwerthwr celf Miles Wynn Cato, a chadarnhawyd y dyddiad posibl ac enw’r artist gan Greg Smith, awdurdod adnabyddus ar Thomas Jones a chyd-olygydd Thomas Jones (1742-1803): An Artist Rediscovered (2003) a gyhoeddwyd gan Amgueddfa Cymru.

Cawsant eu prynu ar gyfer casgliad Amgueddfa Cymru eleni a’u rhoi yn waddol hael i’r Amgueddfa. Cyrhaeddodd y gweithiau Amgueddfa genedlaethol Caerdydd ychydig cyn y cyfnod clo ac maent wrthi yn cael eu hadfer i’w paratoi i’w harddangos yn y dyfodol.