Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn Caffael Dau Baentiad Ffrengig Pwysig o'r 19eg Ganrif

Pleser Amgueddfa Cymru yw cyhoeddi ein bod wedi caffael dau baentiad Ffrengig o bwys o’r 19eg ganrif. Mae un o bortreadau diweddar mwyaf arwyddocaol Edouard Manet a thirlun diweddar gan Corot wedi eu clustnodi i’r Amgueddfa ar ôl cael eu derbyn yn lle treth.

Jean-Baptiste-Camille Corot (1796 – 1875)
La Route aux Boucherons, Arleux-du-Nord, 1871

Edouard Manet, 1832-1883 
Portread o Monsieur Jules Dejouy, 1879

Cafodd y Portread o Monsieur Jules Dejouy ei baentio gan Edouard Manet ym 1879 ac mae’n ychwanegiad pwysig i’r casgliad bychan o bortreadau Manet yng nghasgliadau cyhoeddus Prydain. Mae ei ‘ailymddangosiad’ wedi naw deg mlynedd a mwy mewn casgliad teuluol preifat yn foment gyffrous i holl garedigion celf Ffrengig yr 19eg ganrif.

Roedd Jules Dejouy (1815-1894) yn gyfreithiwr llwyddiannus, wedi ei benodi i’r Llys Ymerodrol yn Ffrainc ym 1849 ac yn aelod o’r Conseil de l'Ordre. Roedd hefyd yn gefnder hŷn i Manet ac yn ffigwr pwysig ym mywyd yr artist. Yn y portread hwn, mae gwaith brwsh llac, digymell Manet yn mynegi ei hoffter o Dejouy, ac yn dangos bywiogrwydd, deallusrwydd a haelioni cymeriad yr eisteddwr. Yn ei ddillad cyfreithiwr gyda bwndel o bapurai dan un fraich, ymddengys fod Dejouy wedi ei ddal ynghanol diwrnod prysur yn y llysoedd.

Paentiwyd La Route aux Boucherons, Arleux-du-Nord gan Corot ym 1871 ac mae’n dra gwahanol i’r chwe thirlun arall gan Corot yng nghasgliad yr Amgueddfa.  Cymynrodd gan y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies ym 1951 ac 1963 oedd 5 o’r paentiadau hyn, ond yn y paentiad diweddaraf gwelir agwedd wahanol ar gelf Corot. Mae’r wedd hon ar fywyd pentrefol yn perthyn i gyfres a baentiwyd gan Corot yn ystod ei arhosiad yn ngogledd-ddwyrain Ffrainc yng ngwanwyn a haf 1871, ac yn adlewyrchu ei gariad oesol tuag at dirlun.

Dywedodd Andrew Renton, Ceidwad Celf Amgueddfa Cymru, ‘Mae’r rhain yn gaffaeliaid cyffrous iawn i Amgueddfa Cymru, a wnaed yn bosib drwy’r system Derbyn yn Gyfnewid sydd wedi gwneud gymaint i gyfoethogi casgliadau’r Amgueddfa hon ac amgueddfeydd eraill ar draws y DU.

“Mae’n ffaith hysbys fod Amgueddfa Cymru yn gartref i un o gasgliadau gorau’r byd o gelf Ffrengig y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, diolch i haelioni cymynryddion y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies, felly bydd portread Manet o Jules Dejouy yn gartrefol iawn yma. Rwy’n siŵr y bydd ymwelwyr â’r Amgueddfa wrth eu bodd yn ei weld, ac rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar i’w hongian ar y wal drws nesaf i baentiadau eraill gan Manet a’i gyfoedion.’

“Bydd ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gyfarwydd â thurluniau Corot o gasgliad y chwiorydd Davies, ond ni fyddant yn gyfarwydd â’r gwedd ar waith Corot a welir yn y paentiad hwn. Yn ystod pandemig Covid-19, mae nifer ohonom wedi mwynhau’r cysur a’r pleser o dawel fwynhau natur, ac felly rwy’n credu y gallwn uniaethu â’r gwaith hwn mewn cyfnod anodd. Mae’n enghraifft hyfryd arall o’r modd y mae’r system Derbyn yn Gyfnewid yn parhau i alluogi pobl Cymru i brofi gweithiau celf gwych fel rhan o’u casgliad cenedlaethol.”

Dywedodd Edward Harley OBE, Cadeirydd y Panel Derbyn yn Gyfnewid, “Rwyf ar ben fy nigon fod Amgueddfa Cymru wedi caffael y paentiadau ysblennydd hyn gan Manet a Corot drwy’r Cynllun Derbyn yn Gyfnewid. Mae portread Manet o’i gefnder a’i ffrind o ddiddordeb arbennig gan ei fod yn darlunio ffigwr pwysig ym mywyd yr artist. Bydd tirlun hyfryd Corot yn ymuno â gweithiau eraill ganddo yng nghasgliad yr Amgueddfa, sy’n parhau’n un o ystordai blaenaf celf Ffrengig y 19eg a’r 20fed ganrif. Rwy’n mawr obeithio y bydd yn esiampl sy’n annog eraill i ddefnyddio’r cynllun i gyfoethogi ein casgliadau cyhoeddus.”

Mae Amgueddfa Cymru yn ddiolchgar i Sotheby's a Christie's am y rôl a chwaraeon nhw wrth wneud dyrannu'r gweithiau - portread Manet a thirwedd Corot yn y drefn honno - i'r casgliad.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas, "Mae'n bleser derbyn y gweithiau pwysig hyn i'r genedl ac rwy'n falch iawn y byddant yn gwella ymhellach y casgliadau rhagorol sy'n bodoli eisoes yn Amgueddfa Cymru. Mae'r Cynllun Derbyn yn Gyfnewid wedi bod o fudd sylweddol i bobl Cymru. Mae amrywiaeth eang o gasgliadau, gwrthrychau ac archifau wedi'u caffael yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan Amgueddfa Cymru a bydd yr eitemau hyn yn cael eu cadw a'u mwynhau ar gyfer posterity gan bawb."

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau. Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Cymru. Gyda’n gilydd, dyma gartref casgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, a fydd yn parhau i dyfu fel eu bod yn gallu cael eu defnyddio a’u mwynhau gan genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Enillodd un o’i hamgueddfeydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, sy’n archwilio hanes a diwylliant Cymru, wobr Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019. 

Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru yn ddiolchgar am bob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen digwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.


DIWEDD