Datganiadau i'r Wasg

Galwad agored am geisiadau — Cynfas, Rhifyn 4: Golwg Queer

Rydym bellach yn croesawu ceisiadau ar gyfer pedwerydd rhifyn Cynfas, cylchgrawn digidol Amgueddfa Cymru. Y thema yw QUEER LOOKING | GOLWG QUEER ac rydyn ni am glywed gan leisiau queer a trans o bob cwr o Gymru, yn Gymraeg, Saesneg neu ddwyieithog.

Dylai cyfranwyr ddefnyddio un o weithiau celf neu wrthrychau’r Amgueddfa fel man cychwyn, a’i ysgrifennu mewn unrhyw fesur – erthygl, traethawd personol, cerdd, gwaith beirniadol neu ysgolhaig. Rydym hefyd yn awyddus i dderbyn ceisiadau am weithgareddau creadigol all gael eu cyflwyno ar-lein. Mae croeso i ymgeiswyr bori ein Casgliadau Ar-lein am ysbrydoliaeth, ac mae gweithiau yn y casgliad o bwysigrwydd arbennig i gymunedau a hanes LGBTQ+ a'u hanes wedi'u casglu yma.

 

Dyddiad cau'r ceisiadau 200 gair yw dydd Llun 8 Chwefror – gweler yr holl wybodaeth ar sut i wneud cais ar waelod y dudalen. Ni ddylai’r cyfraniadau terfynol fod yn fwy na 2,000 o eiriau, ac yn cynnwys delweddau a chyfryngau wedi mewnblannu all gael eu cyflwyno ar blatfform ar-lein. Y golygydd gwadd yw Dylan Huw, awdur a gweithiwr celf dwyieithog yn byw yng Nghaerdydd.

 

Yn y rhifyn hwn o Cynfas rydym am drafod rhai o’r cwestiynau canlynol, ond rydym yn croesawu ceisiadau sy’n trafod unrhyw agwedd ar y ‘golwg’ queer neu trans a’i berthynas at newid cymdeithasol yng Nghymru ddoe a heddiw.

 

  • Beth yw cyfyngiadau’r golwg queer? Ar y llw arall, sut all golwg queer ein rhyddhau?
  • Sut mae queer yn edrych?
  • Fel person queer / trans, sut fyddwch chi’n teimlo wrth edrych ar waith celf neu wrthrychau queer hanesyddol o Gymru? Yw ‘eiconau queer’ diwylliant Cymru, fel Menywod Llangollen, yn bwysig i chi heddiw?
  • Ai rhyddid yw cynrychiolaeth? Os na, beth yw diben ‘rhyddid queer’?
  • Sut allwn ni ddefnyddio neu feddwl am gelf a gwrthrychau queer hanesyddol i adrodd hanes ‘Cymru’ yn wahanol?
  • Sut fyddech chi’n mynd ati i gasglu gwrthrychau queer Cymru heddiw fel amgueddfa?

 

Fel gyda phob rhifyn o Cynfas, rydyn ni’n chwilio am gynnwys dewr a deniadol sydd heb ei gyhoeddi’n flaenorol, ac sy’n amlygu ac yn adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth celf Cymru ddoe a heddiw, gan gyfeirio’n benodol at waith yng nghasgliad Amgueddfa Cymru.

 

Does dim angen profiad ysgrifennu proffesiynol neu addysg greadigol i ymgeisio. Rydym am glywed lleisiau sy’n edrych ar gelf o berspectif gwahanol, ac yn eiddgar i glywed ymatebion parchus i ymgyrchu BLM a We Shall Not Be Removed. Mae rhifynau blaenorol Cynfas wedi trafod Mae Bywydau Du o Bwys (gol. Umulkhayr Mohamed), Celfyddyd mewn Iechyd (gol. Angela Maddock) a Bwyd a Chynaliadwyedd (ar y gweill, gol. Selena Caemawr).

 

Y broses gyflwyno:

  • Cyflwyno crynodeb 200 gair o’r erthygl neu’r project i lara.davies@amgueddfacymru.ac.uk
  • Enw, cyfeiriad, manylion cyswllt a pharagraff byr yn cyflwyno eich hun
  • Bydd panel cymysg yn adolygu’r crynodebau o fewn 10 diwrnod ac yn penderfynu pa rai i’w datblygu
  • Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn tâl (£250) am eu cyfraniad

 

Os ydych chi’n ystyried cyfrannu ac am wybod rhagor, cysylltwch â dylanaberystwyth@gmail.com.