Datganiadau i'r Wasg

Pwll Mawr yn Cyrraedd y pedwar olaf

Mae'r Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru wedi cyrraedd pedwar olaf Gwobr Gulbenkian am Amgueddfa'r Flwyddyn. Dywedodd Peter Walker, Ceidwad a Rheolwr y Pwll Mawr:

"Rydyn ni wrth ein bodd ar y newyddion ardderchog yma. Mae'r Pwll Mawr yn cynrychioli pawb sy'n gysylltiedig â'r diwydiant glo yng Nghymru, ac mae cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth bwysig hon yn deyrnged iddyn nhw i gyd.

"Rydyn ni wrth ein bodd ar y newyddion ardderchog yma. Mae'r Pwll Mawr yn cynrychioli pawb sy'n gysylltiedig â'r diwydiant glo yng Nghymru, ac mae cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth bwysig hon yn deyrnged iddyn nhw i gyd.

"Sicrhaodd y gwaith ailddatblygu yn y Pwll Mawr bod ein dyfodol ni fel Amgueddfa Lofaol Genedlaethol yn ddiogel, a gyda mwy o ymwelwyr nag erioed o'r blaen yn y Pwll Mawr yn 2004, mae cyrraedd y pedwar olaf yn y gystadleuaeth hon yn ffordd wych o ddathlu ein llwyddiant."

Mae'r Pwll Mawr yn un o chwech amgueddfa sydd dan adain Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC) sy'n ymgynghori ar ei Weledigaeth ar gyfer y dyfodol trwy ei wefan, www.amgueddfa-cymru.org. Caiff ymwelwyr ddweud eu dweud ar gyfeiriad y sefydliad yn y dyfodol hefyd mewn ciosgau rhyngrwyd arbennig ym mhob un o'r safleoedd ledled Cymru, neu drwy lenwi holiadur ar bapur.

Mae'r cyhoeddiad yma heddiw wedi cael croeso cynnes gan Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, Alun Pugh. Dywedodd:

"Trodd y gwaith ailddatblygu helaeth y llynedd y Pwll Mawr yn atyniad o safon fyd-eang. Mae'n enghraifft wych o sut gall amgueddfeydd lwyddo i ddod â'r gorffennol yn fyw. Yn siarad fel mab i löwr, rwy'n falch iawn o waith caled ac ymroddiad holl staff y Pwll mawr, a hoffwn estyn fy llongyfarchiadau cynhesaf iddyn nhw."

Dywedodd Jennifer Stewart, Rheolwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru, sef prif arianwyr project y Pwll Mawr: "Dyma un o safleoedd treftadaeth pwysicaf Cymru ac mae'n galonogol iawn gweld yr effaith gadarnhaol y mae dros £5 miliwn o arian Loteri wedi ei gael yma, yn nhermau cadwraeth, adfywio a balchder yn ein treftadaeth ym maes glo."

Mae'r Pwll Mawr yn safle allweddol wrth adrodd stori treftadaeth ddiwydiannol y de, ac mae'n cydweithio'n agos â HERIAN, sef partneriaeth o awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus a grwpiau gwirfoddol sy'n hyrwyddo treftadaeth fel ffynhonnell manteision economaidd a chymunedol.

Mae Jeff Pride, Cyfarwyddwr HERIAN, yn llongyfarch y Pwll Mawr yn wresog ar ei lwyddiant yn y gystadleuaeth bwysig hon hyd yn hyn. Meddai: "Mae hanes cloddio am lo yn y de yn ddifyr iawn, ac mae'r Pwll Mawr yn adrodd y stori mewn ffordd rymus sy'n dal dychymyg pobl ac yn rhoi ymdeimlad o falchder iddyn nhw yn eu gorffennol."

Cafodd ailddatblygiad y Pwll Mawr ei gwblhau ar ddechrau 2004. Cafodd ei ariannu'n bennaf gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, gydag arian ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Bwrdd Croeso Cymru, y Gronfa Adfywio Leol, Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo a nifer o ymddiriedolaethau a chronfeydd preifat.

Mae AOCC yn gweithredu ar chwe safle ledled Cymru ar hyn o bryd, Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Blaenafon; yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd; Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan; Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Caerllion; yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor yn Abertawe yn nes ymlaen eleni, gan adrodd stori diwydiant a blaengaredd yng Nghymru.

Mae mynediad i holl safleoedd AOCC am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.