Datganiadau i'r Wasg
Artes Mundi 9 yn Cyhoeddi Agoriad Rhithwir ym Mis Mawrth Ynghyd â Rhaglen Helaeth o Sgyrsiau a Digwyddiadau
Dyddiad:
2021-02-01Oherwydd yr heriau parhaus a achosir gan COVID-19, bydd gwobr gelfyddyd gyfoes ryngwladol fwyaf y DU Artes Mundi 9 bellach yn agor yn rhithwir Ddydd Llun 15 Mawrth 2021.
Bydd cynulleidfaoedd yn gallu mwynhau’r arddangosfa i ddechrau drwy deithiau tywys fideo o gyflwyniad pob artist ynghyd â dogfennau ffotograffig llonydd o fewn amgylchedd oriel. Er nad yw’r dyddiad agor yn hysbys ar hyn o bryd ac yn ddibynnol ar lawer o amgylchiadau allanol, bydd enillydd Gwobr Artes Mundi 9 yn cael ei gyhoeddi yn ddigidol ddydd Iau 15 Ebrill 2021. Bydd arddangosfa Artes Mundi 9 yn agor i'r cyhoedd pan fydd Cymru'n dychwelyd i gyfyngiadau Haen 2 ac ymweliadau personol yn bosibl.
Fel rhan o arlwy digidol newydd Artes Mundi, bydd rhaglen gyhoeddus gadarn yn lansio ar-lein law yn llaw â'r arddangosfa, wedi'i strwythuro ar ffurf cyfres o sgyrsiau, podlediadau, gweithgareddau a digwyddiadau ffrydio byw ac y gellir eu lawrlwytho. Gan ddechrau gyda thrafodaethau panel, bydd y rhain yn rhoi cipolwg fwy treiddgar ar arfer, syniadau, myfyrdodau a meddylfryd pob un o'r artistiaid ar y rhestr fer a'u gwaith.
Cynhelir y sgyrsiau ddwywaith y mis ar Zoom a'u cyflwyno mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, a bydd y trafodaethau'n rhad ac am ddim i bawb gyda'r cyntaf yn cael ei lansio ddydd Iau 11 Mawrth am 8pm GMT. Dan gadeiryddiaeth beirniad Artes Mundi 9 Rachel Kent, Prif Guradur Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes Awstralia, bydd yn cynnwys yr artist ar y rhestr fer Firelei Báez mewn sgwrs â Dr Francesca Sobande, darlithydd Astudiaethau Cyfryngau Digidol ym Mhrifysgol Caerdydd gyda ffocws arbennig ar ddiwylliant digidol, hunaniaeth ddu a diaspora, ffeministiaeth, a diwylliant poblogaidd, ac artist ac ymchwilydd o Gaerdydd, a aned yn Trinidad, Dr Adéọlá Dewis. Bydd y sgyrsiau'n cael eu cynnal yn fyw, ac yna ar gael fel podlediadau drwy wefan Artes Mundi.
Ochr yn ochr ag artistiaid eraill ar y rhestr fer, bydd cyfranwyr i drafodaethau dilynol yn cynnwys ffigurau sy'n adnabyddus yn rhyngwladol megis: Sonia Boyce, a fydd yn cynrychioli'r DU yn Biennale Fenis yn 2021; Marie Hélène Pereira (Cyfarwyddwr Rhaglenni, RAW Material Company, Senegal); Elvira Dyangani-Ose (Beirniad AM9 a Chyfarwyddwr, The Showroom, Llundain); a Zoe Butt (Cyfarwyddwr Artistig, Factory Contemporary Arts Centre, Dinas Ho Chi Minh, Fietnam). Byddant yn ymuno ag artistiaid, curaduron a meddylwyr o'r DU a Chymru gan gynnwys Evie Manning (Cyd-Gyfarwyddwr Common Wealth Theatre yng Nghaerdydd a Bradford); Francis McKee (Cyfarwyddwr CCA Glasgow); ac Yvonne Connikie (Artist a Sylfaenydd Black Film Festival Wales), ymhlith llawer o bobl eraill.
Fel rhan o agoriad rhithwir Artes Mundi 9 ar 15 Mawrth, bydd ymwelwyr hefyd yn cael cyfle i weld premiere byd-eang gwaith newydd mawr gan lawer o'r artistiaid ar y rhestr fer, gan gynnwys y gosodiad ffotograffig The Push, The Call, The Scream, The Dream gan Carrie Mae Weems, ffilm newydd, About Falling gan Beatriz Santiago Muñoz, a cherflun, lluniadau a sain gan Dineo Seshee Bopape sy'n cynnwys pridd a chlai o safleoedd sanctaidd Cymru ynghyd â deunyddiau cyffelyb o leoliadau arwyddocaol fel Île de Gorée, Senegal; afon James River, Richmond, Virginia; Afon Mississippi, New Orleans; a Choedwig Achimota, Accra, Ghana.
Ochr yn ochr â'r arddangosfa bob dwy flynedd, mae gan Artes Mundi brosiectau allgymorth cyd-greadigol hirsefydlog a pharhaus, yn enwedig drwy weithio gyda'r Aurora Trinity Collective a'r gymuned ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd. Gan ddatblygu gwaith a gwerthoedd o'r fath ymhellach, mae Artes Mundi yn gweithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac arweinydd y prosiect, Umulkhayr Mohamed, i gyflwyno Pitch Black Lates, comisiynau gan bedwar artist, Omikemi, June Campbell-Davies, Yvonne Connikie a Gabin Kongolo yn ymateb i rannau o gasgliad Amgueddfa Genedlaethol Cymru a gwaith gan artistiaid yn Artes Mundi 9. Bydd cyflwyniadau cyhoeddus o'r gwaith a ddatblygwyd yn digwydd yn ystod rhediad Artes Mundi 9 gyda chyfranwyr ychwanegol o Jukebox Collective ac eraill. Bydd gweithdai, perfformiadau a chomisiynau corfforol/digidol hybrid hefyd gan bobl fel Aurora Trinity Collective, Tina Pasotra, Nicole Ready a Jo Fong yn ogystal â digwyddiadau teuluol wedi'u curadu fel sesiynau adrodd straeon gydag Awduron Preswyl Plant Artes Mundi Hanan Issa a Yousuf Lleu Shah yn gweithio gyda Where I'm Coming From a Llenyddiaeth Cymru.
Cyhoeddir rhagor o fanylion am y rhain a'r amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau rhaglenni cyhoeddus eraill ar-lein ac sy'n cael eu ffrydio'n fyw yn ystod yr wythnosau nesaf.