Datganiadau i'r Wasg

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa: GARTREF!

Digwyddiadau arbennig i ddathlu’r Pasg gyda Amgueddfa Cymru.

27 Mawrth - 11 Ebrill 2021

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa: Gartref 2021

Rydym wedi'n gwirioni am ein cynnig Pasg eleni! Mae HELFA BASG FAWR YR AMGUEDDFA:GARTREF – digwyddiad digidol ar-lein newydd i Amgueddfa Cymru – yn llawn gweithgareddau, crefftau a choginio i’r teulu cyfan!

Mae  cymaint o bethau difyr i’w gwneud yn cynnwys:

- Sut i gynnal helfa Basg adref

- Addurno templedi wŷ Pasg yn barod ar gyfer yr helfa

- Crëu basged Pasg i gasglu eich wyau

- Datrys y cliwiau i ddod o hyd i bob wŷ

- Cracio cyfrinair er mwyn datgloi eich pecyn gweithgaredd Pasg sy’n llawn gweithgareddau crefft gwŷch

- Pobi ac addurno bisgedi Pasg blasus

- Ceisio liwio’r wyau gyda phethau sydd eisoes yn eich cegin

- Dysgu am sut oedd pobl yng Nghymru yn arfer dathlu’r Pasg

Daw'r HELFA BASG FAWR GARTREF ar sodlau digwyddiadau poblogaidd eraill fel y nosweithiau deinosor, hwyrion amgueddfeydd a digwyddiadau digidol eraill y mae'r amgueddfa wedi bod yn eu cynnal drwy'r cyfnodau clo, fel esboniodd rheolwr digwyddiau’r amgueddfa, Mared Maggs:

"Rydym wedi bod wrth ein bodd gyda'r ymateb i'n rhaglen digwyddiadau digidol newydd dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym wedi cyrraedd dros 100,000 o ymwelwyr ar-lein yn fyd-eang drwy brosiectau fel ein digwyddiadau Gwyddoniaeth a Bwyd digidol, dathliadau Diwali, Sgrinwyna ac Amgueddfa Dros Nos: Gartref. Mae darparu cyfleoedd i barhau i ymgysylltu â'n casgliadau tra bod ein drysau wedi cau wedi bod yn flaenoriaeth a gobeithiwn fod ein digwyddiadau ar-lein wedi helpu i gefnogi lles ein cynulleidfaoedd ac wedi ysbrydoli creadigrwydd drwy'r flwyddyn anodd hon."

Mae'r digwyddiad cyfan ar-lein a thocynnau yn £2  i'r teulu cyfan + ffi archebu! Mae llawer wedi gwerthu allan ymhell ymlaen llaw, felly peidiwch ag oedi – archebwch eich tocyn heddiw er mwyn cael ymuno yn yr hwŷl!    

www.amgueddfa.cymru/digwyddiadau/digidol/11287/Helfa-Basg-Fawr-yr-Amgueddfa-GARTREF

Cefnogir rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd Amgueddfa Cymru gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

DIWEDD

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk