Datganiadau i'r Wasg

Darganfyddiadau Archaeolegol O'r Oes Efydd Hyd Yr Ail Ganrif Ar Bymtheg Yn Drysor

Heddiw, mae Crwner Ei Mawrhydi dros Gaerdydd a Bro Morgannwg wedi datgan casgliad o dlysau addurnol ac arteffactau eraill o'r Oes Efydd hyd yr ail ganrif ar bymtheg yn drysor.

Mae'r darnau a ddarganfuwyd gan bobl leol yn chwilio am fetelau ym Mro Morgannwg yn cynnwys celc o fwyeill socedog o ddiwedd yr Oes Efydd, a modrwy aur enamlog ag arni'r geiriau 'Let Liking Last'. Câi modrwyon o'r fath eu rhoi'n anrhegion i bartneriaid, cyfeillion a pherthnasau fel arwydd o gariad.

Bydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru'n ceisio caffael y gelc ar gyfer y casgliad cenedlaethol yn sgil asesiad gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i bawb sy'n ffeindio gwrthrychau sydd dros 300 oed sy'n cynnwys aur ac arian neu grwpiau o ddau neu fwy o geiniogau o fetelau gwerthfawr, yn ogystal â deg neu fwy o geiniogau metel cyffredin a ddarganfuwyd gyda'i gilydd, gofnodi'r ffaith o dan Ddeddf Trysor 1996. Mae casgliadau metel cyffredin cynhanesyddol a ffeindiwyd ar ôl 1 Ionawr 2003 yn Drysor erbyn hyn hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus
Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
Ffôn: 07974 205 849
E-bost: gwenllian.carr@amgueddfacymru.ac.uk