Datganiadau i'r Wasg
Cyhoeddi bod gwrthrychau Canoloesol ac Ôl-ganoloesol o Bowys a Bro Morgannwg yn drysor
Dyddiad:
2021-03-29Mae naw canfyddiad yn dyddio o’r canoloesoedd a’r cyfnod ôl-ganoloesol heddiw (29 Mawrth 2021) wedi eu cyhoeddi’n drysor gan Grwner Cynorthwyol Canol De Cymru, Mr Thomas Atherton. Canfuwyd pob gwrthrych gan ddefnyddwyr datgelyddion metel ac yn eu plith mae celciau ceiniogau aur ac arian, modrwyau ac eitemau personol oedd yn eiddo i gyfoethogion Cymru rhwng y 9fed a’r 17eg ganrif OC.
Y naw canfyddiad:
- Achos Trysor 19.05, modrwy arian gilt o ddiwedd y canoloesoedd a ganfuwyd yng Nghymuned Tregynon, Powys.
- Achos Trysor 19.06, mowntin bar arian canoloesol a ganfuwyd yng Nghymuned Llancarfan, Bro Morgannwg.
- Achos Trysor 19.08, modrwy bwysi aur ôl-ganoloesol a ganfuwyd yng Nghymuned Talgarth, Powys.
- Achos Trysor 19.11, modrwy aur ôl-ganoloesol a ganfuwyd yng Nghymuned Carreghofa, Powys.
- Achos Trysor 19.21, broets cylchog arian canoloesol a ganfuwyd yng Nghymuned Trefaldwyn, Powys.
- Achos Trysor 19.22, celc ceiniogau arian Tuduraidd a ganfuwyd yng Nghymuned Yr Ystog, Powys.
- Achos Trysor 19.23, bachyn clymu dwbl arian o ddechrau’r canoloesoedd a ganfuwyd yng Nghymuned Yr Ystog, Powys
- Achos Trysor 19.25, celc ceiniogau aur o’r 17eg ganrif a ganfuwyd yng Nghymuned Trefeglwys, Powys.
- Achos Trysor 19.44, celc ceiniogau aur canoloesol a ganfuwyd yng Nghymuned Llanwrtyd, Powys.
Canfuwyd tair ceiniog aur ganoloesol (Trysor 19.44) gan Chris Perkins a Shawn Hendry wrth ddefnyddio datgelyddion metel yng Nghymuned Llanwrtyd, Powys yn Ebrill 2019. Ceiniogau ‘nobl’ o deyrnasiad Edward III a Richard II (1327-1399) yw’r rhain, cyfanswm o ryw 20 swllt, cyflog tua 50 diwrnod i grefftwr medrus. Mwy na thebyg iddynt gael eu claddu er diogelwch oddeutu diwedd y 14eg ganrif, ond wnaeth y perchennog byth eu casglu.
Mae Amgueddfa, Oriel Gelf a Llyfrgell Y Gaer, Aberhonddu, yn gobeithio caffael y celc cyffrous hwn ar gyfer ei horielau newydd. Dywedodd yr Uwch Guradur Nigel Blackamore:
“Prin yw’r ceiniogau aur sydd wedi’u canfod yn ne Powys, felly byddem yn croesawu’r cyfle i ychwanegu’r rhain at gasgliad canoloesol newydd yr amgueddfa.”
Canfuwyd grŵp o bum ceiniog arian (Trysor 19.22), yn cynwys 4 grôt a ‘patard dwbl’ o Burgundy, gan Aled Roberts a Graham Wood ym Mai 2019, wrth ddefnyddio datgelyddion metel yng Nghymuned Yr Ystog, Powys. Claddwyd y celc bychan hwn tua 1530 yn ystod teyrnasiad Harri VIII, a’i bortread ef sydd ar dair o’r ceiniogau.
Mae Y Lanfa, Amgueddfa Powysland a Llyfrgell y Trallwng yn gobeithio caffael y celc ar gyfer casgliad yr amgueddfa, sydd ddim eto’n cynnwys esiamplau o geiniogau lleol o’r 16eg ganrif. Dywedodd Rheolwr y Ganolfan, Saffron Price:
“Byddai’n hyfryd cael y ceiniogau yma’n rhan o gasgliad yr amgueddfa a’u harddangos i’r cyhoedd gael eu mwynhau”.
Canfuwyd y bachyn clymu dwbl arian o ddechrau’r canoloesoedd (Achos Trysor 19.23) gan Stuart Fletcher yng Nghymuned Yr Ystog, Powys. Mae arddull y motiffau milffurf yn dangos ei fod yn ddarn Eingl-Sacsonaidd yn dyddio o’r 9fed ganrif, a byddai mwy na thebyg yn cael ei ddefnyddio fel gemwaith dillad ymarferol i glymu dilledyn allannol.
Mae Amgueddfa Cymru yn gobeithio caffael yr arteffact hwn ar gyfer y casgliad cenedlaethol. Dywedodd Dr Mark Redknap, Dirprwy Bennaeth Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru:
“Y gwrthrych anghyffredin hwn yw’r bachyn clymu dwbl cyntaf o arddull Eingl-Sacsonaidd i gael ei ganfod yng Nghymru. Mae’n arwydd o statws y perchennog gwreiddiol ac yn dystiolaeth o bresenoldeb arddulliau Eingl-Sacsonaidd yn nheyrnasoedd y Gymru gynnar, a’r crochan o arddulliau a dylanwadau a ddatblygodd yn hunaniaeth Gymreig.”
Canfuwyd y fodrwy aur o Gymuned Carreghofa, Powys (Achos Trysor 19.11) gan David Balfour. Modrwy memento mori yw hon gyda chantel gwastad, wedi’i engrafu â phenglog Marwolaeth gydag olion brithwaith enamel gwyn, ac o’i amgylch yr arysgrif: + Memento Mori, mewn llythrennau italig taclus. Mae’r arysgrif, ffurf y fodrwy, arddull y penglog a’r ysgrifen daclus yn dynodi ei bod yn dyddio o tua 1550 i 1650.
Mae Amgueddfa Cymru yn gobeithio caffael yr arteffact hwn ar gyfer y casgliad cenedlaethol. Dywedodd Dr Mark Redknap, Dirprwy Bennaeth Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru:
“Dyma esiampl brin o fodrwy memento mori, o oes y Tuduriaid neu’r Stiwartiaid cynnar, o darddiad Cymreig clir. Mae’n atgof o farwoldeb uchel y cyfnod a’r motiff a’r arysgrif yn cydnabod byrhoedledd ac oferedd bywyd. Mae’r canfyddiad yn cynyddu ein dealltwriaeth o’r berthynas â marwolaeth yn y Gymru fodern gynnar.”
DIWEDD
NODIADAU I’R GOLYGYDD
1. Pob delwedd i nodi hawlfraint © Amgueddfa Cymru – National Museum Wales
2. Mae Cynllun Henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru) yn fframwaith i gofnodi a chyhoeddi canfyddiadau archaeolegol gan aelodau’r cyhoedd. Mae wedi bod yn ddull hynod effeithiol o casglu gwybodaeth archaeolegol hanfodol, ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd a chymunedau newydd i’r amgueddfa.
3. Bob blwyddyn mae rhwng 20 a 45 Achos Trysor yn cael eu datgan yng Nghymru fel canfyddiadau gan aelodau’r cyhoedd (defnyddwyr datgelyddion metel fel arfer). Ers 1997 mae dros 550 o drysorau wedi cael eu canfod yng Nghymru, ac mae’r nifer yn cynyddu gydag amser – yn 2019 cyhoeddwyd 45 Achos Trysor. Mae’r canfyddiadau yma’n ychwanegiadau pwysig at ein gwybodaeth o’r gorffennol a’n dealltwiraeth ohono, ac yn adnodd diwylliannol o bwys cynyddol i Gymru.
4. Yn ôl y gyfraith, rhaid i ganfyddiadau Trysor gael eu datgan a’u trosglwyddo i staff PAS Cymru ac Amgueddfa Cymru, fel y prif sefydliad treftadaeth sy’n rheoli canfyddiadau Trysor yng Nghymru. Bydd curaduron Amgueddfa Cymru yn casglu gwybodaeth fanwl gywir ac yn adrodd ar ganfyddiadau Trysor, yn gwneud argymhellion i’r crwner, y swyddog sy’n gwneud arfarniadau cyfreithiol annibynnol ar Drysorau a’u perchnogaeth.