Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Cyhoeddi arddangosfa eilflwydd gwobr Artes Mundi 9 ym mis Mai
Bellach cyhoeddir enillydd Gwobr £40,000 Artes Mundi 9 – gwobr fwyaf y DU ar gyfer celfyddyd gyfoes ryngwladol – a ddetholir gan banel o reithwyr arbenigol o blith yr artistiaid ar y rhestr fer, Firelei Báez (Y Weriniaeth Ddominicaidd), Dineo Seshee Bopape (De Affrica), Meiro Koizumi (Japan), Beatriz Santiago Muñoz (Puerto Rico), Prabhakar Pachpute (India) a Carrie Mae Weems (UDA), yn ddigidol ym mis Mai pryd y gobaith yw y bydd ymwelwyr yn gallu profi’r arddangosfa yn y cnawd.
Gan ymdrin â rhai o faterion pwysicaf ein hoes drwy’r gweithiau sydd ar ddangos, mae Artes Mundi 9 wedi cael ei hestyn tan ddydd Sul 5 Medi. Ar hyn o bryd wedi’i gosod ar draws Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd, Chapter a g39, mae’r arddangosfa’n barod i agor i’r cyhoedd unwaith i Gymru ddychwelyd i gyfyngiadau Haen 2. Hyd at yr adeg honno, gall cynulleidfaoedd brofi rhagflas o waith pob artist ar-lein drwy fideos tywys byrion a ffotograffiaeth lonydd ar www.artesmundi.org.
Yn ogystal â gosodwaith fideo amlsianel sydd wedi’i ailgyflunio’n bwerus gan Meiro Koizumi, mae Artes Mundi 9 yn dangos am y tro cyntaf yn y byd weithiau newydd o bwys gan gynnwys gosodwaith ffotograffig Carrie Mae Weems The Push, The Call, The Scream, The Dream, ffilm newydd, About Falling, gan Beatriz Santiago Muñoz, a chyfres o baentiadau mawr deinamig gan Firelei Báez. Mae gosodwaith ymdrwythol gan Dineo Seshee Bopape sy’n cynnwys cerfluniaeth, arlunio a sain yn defnyddio pridd a chlai o safleoedd sanctaidd Cymreig wedi’u cyfuno â phridd o leoliadau eraill ym mhedwar ban byd gan gynnwys Île de Gorée, Senegal; afon James, Richmond, Virginia; afon Mississippi, New Orleans; a Choedwig Achimota, Accra, Ghana. Ac mae Prabhakar Pachpute wedi datblygu gosodwaith o baentiadau ar faneri cynfas sy’n parhau â’i ymdriniaeth â’r gweithiwr unigol yng nghyd-destun grymoedd corfforaethol ac economaidd mawr.
Mae rhaglen gyhoeddus rymus wedi’i lansio ar-lein ochr yn ochr â’r arddangosfa ar ffurf cyfres o sgyrsiau, fideos, podlediadau a gweithgareddau a digwyddiadau wedi’u ffrydio’n fyw ac y gellir eu lawrlwytho. Yn dechrau gyda thrafodaethau panel, bydd y rhain yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach o waith, syniadau, testunau a theithi meddwl pob un o’r artistiaid ar y rhestr fer a’i waith.