Datganiadau i'r Wasg

Argraffiadaeth ac Ôl-Argraffiadaeth yng Nghymru a'r Alban: Trawsnewid a Dylanwad

16 Ebrill-26 Mehefin 2005 — Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd

Mae'r casgliad o gelf Argraffiadol yn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd, yn un o'r casgliadau gorau ym Mhrydain y tu allan i Lundain. Mae'r arddangosfa hon yn cymharu gweithiau Argraffiadol ac ôl-Argraffiadol casgliadau cenedlaethol Cymru a'r Alban. Mae'n canolbwyntio ar y noddwyr hael a adawodd y gweithiau i'r ddau sefydliad ac effaith hyn ar y casgliadau ac ar artistiaid diweddarach.

Prynodd y ddwy chwaer, Gwendoline Margaret Davies eu gweithiau Argraffiadol cyntaf yn 1912, a gadawodd y ddwy grwpiau hynod o waith i'r Amgueddfa Genedlaethol ym 1952 1 1963. Yn y cyfamser yn yr Alban, dechreuodd Syr Alexander Maitland a'i wraig, Rosalind, hel eu casgliad mawreddog. Rhoddwyd hwn i Oriel Genedlaethol yr Alban ym 1960 a 1965.

Gyda chefnogaeth hael y noddwyr, trawsnewidiwyd y casgliadau cenedlaethol yng Nghymru a'r Alban, nes eu bod yn cymharu â chasgliadau rhyngwladol eraill. Dyma'r tro cyntaf i'r ddau gasgliad gael eu cymharu ac i Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru gydweithio gydag Oriel Genedlaethol yr Alban.

Mae'r tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng y ddau gasgliad i'w gweld yn amlwg yn y gweithiau sydd ar fenthyg. Mae'r rhain yn cynnwys gweithiau enwog fel Tri Tahitiad gan Paul Gaugin, a brynwyd gan y Maitlands yn y 1930au a Grŵp o Ddawnswyr gan Degas. Doedd Casgliad y Chwiorydd Davies ddim yn cynnwys gweithiau fel y rhain. Bu Casgliad y Chwiorydd Davies a'r Maitlands yn cael eu harddangos am flynyddoedd yn eu cartrefi yng nghanolbarth Cymru a Chaeredin, lle roedd grwpiau bach o bobl yn eu hedmygu a'u mwynhau.

Unwaith y cafodd y lluniau yma eu harddangos, cawsant effaith pellgyrhaeddol ar waith artistiaid eraill. Mae'r arddangosfa hefyd yn edrych ar hyn gyda gweithiau o gasgliad yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol gan Ceri Richards, Frank Auerbach, Leon Kossoff, Terry Frost ac ymateb uniongyrchol gan Carol Robertson i'r darlun, Glaw - Auvers, gan Van Gogh, sy'n rhan o'r casgliad yng Nghaerdydd.

Mae'r cyfnewid hwn â'r Alban yn cyd-fynd â chyhoeddiad y llyfr cyntaf ar gasgliad gweithiau Argraffiadol Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ers dros ugain mlynedd. Caiff Goleuni a Lliw ei lawnsio yng Ngwyl y Gelli ym mis Mehefin 2005. Trefnwyd nifer o weithgareddau i gyd-fynd â'r dathliad.

Cynhelir lawnsiad i'r wasg ar gyfer yr arddangosfa hon yn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd am 9.30 am, ddydd Gwener, 15 Ebrill. Bydd Dr Ann Sumner, Curadur Celf Gain, yn cyflwyno'r arddangosfa, a bydd hefyd wrth law i ymateb i unrhyw gwestiynau.

Mae'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yn un o chwe safle Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ar hyd a lled y wlad. Y safleoedd eraill yw Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol, Blaenafon - sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gulbenkian eleni, Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre fach Felindre, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Caerllion ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, sy'n adrodd hanes diwydiant a blaengaredd yng Nghymru yn agor yn Abertawe yn yr hydref.

Mae mynediad i bod un o'r amgueddfeydd cenedlaethol yn rhad ac am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.