Datganiadau i'r Wasg
Ôl troed deinosor sy'n taflu goleuni newydd ar gerddediad deinosoriaid yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Dyddiad:
2021-07-21Bydd ôl troed deinosor mewn cyflwr rhagorol yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ôl cael ei ganfod gan ferch 4 oed o'r enw Lily Wilder ym Mae Bendricks ger y Barri yn Ionawr 2021. Bydd arddangosfa Lily’n Ffeindio Ffosil i'w gweld yn y brif neuadd o 21 Gorffennaf. Cefnogir yr arddangosfa gan chwaraewyr y People's Postcode Lottery.
Ar ôl cael ei hysbysu, disgrifiodd Curadur Palaeontoleg Amgueddfa Cymru, Cindy Howells, y ffosil fel y sbesimen gorau gael ei ganfod ar y traeth hwn erioed. Math o ôl troed o'r enw Evazoum yw'r sbesimen, gafodd ei adael 220 miliwn o flynyddoedd yn ôl gan ddeinosor llysysol anhysbys. Mae'n aml yn amhosib i wyddonwyr adnabod rhywogaeth y deinosor, neu ymlusgiad, wnaeth greu olion traed ffosil fel hyn.
Nawr, gall gwyddonwyr astudio'r sbesimen er mwyn dysgu mwy am fioamrywiaeth ac anatomi deinosoriaid ac ymlusgiaid eraill yn ne Cymru ar ddiwedd y Cyfnod Triasig, a sut fydden nhw'n cerdded.
Mae ffosilau yn rhan amlwg o dreftadaeth Cymru, ond mae'n hawdd iawn i bobl eu niweidio wrth eu casglu. Er bod nifer o deuluoedd yn mwynhau hela ffosilau, mae'r Amgueddfa yn atgoffa pawb i wneud hyn yn gyfrifol. Dim ond nifer fechan o ffosilau rhydd, bach ddylai aelodau'r cyhoedd eu cymryd o'r traethau, a dim ond pan fod hawl ganddynt i wneud hynny.
Roedd yn rhaid cael caniatâd gan Cyfoeth Naturiol Cymru i gael hawl cyfreithiol i symud sbesimen ffosil Lily. Traeth preifat yw Bendricks ac mae wedi'i warchod yn gyfreithiol fel Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Nid oes gan y cyhoedd hawl i gasglu cerrig, mwynau na ffosilau o'r safle hwn, a gellir codi dirwyon mawr.
Yr Athrofa Brydeinig Cadwraeth Ddaearegol yw'r tirfeddiannwr, elusen sy'n gofalu am safleoedd a thirweddau daearegol pwysig drwy addysg a chadwraeth cymunedol.
Dywedodd Cindy Howells, Curadur Palaeontoleg, Amgueddfa Cymru;
"Mae’r ôl troed deinosor ffosil hwn o 220 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn un o'r esiamplau gorau o'i fath o unrhywle yn y DU, a bydd yn help mawr i balaeontolegwyr ddysgu mwy am y deinosoriaid cynnar yma a sut fydden nhw'n cerdded."
Dywedodd Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru;
"Rydym yn gallu arddangos yr ôl troed hwn diolch i weithio mewn partneriaeth â'r Athrofa Brydeinig Cadwraeth Ddaearegol, Archaeology Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i symud y ffosil yn ddiogel o Fae Bendricks i Amgueddfa Genedaethol Caerdydd.
"Edrychwn ymlaen i weld ymwelwyr o bob oed yn mwynhau'r canfyddiad cyffrous ac yn cael eu hysbrydoli gan hanes Lily. Mae ein ffosilau a'r deinosoriaid yn oriel Esblygiad Cymru yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr ac rwy'n gobeithio bydd pobl yn cymryd y cyfle hwn i ddysgu mwy am ddeinosoriaid ac esblygiad bywyd yng Nghymru."
Dywedodd Sally Wilder, mam Lily;
Roedden ni wrth ein bodd i ddeall taw ôl troed deinosor go iawn oedd e, a dwi'n hapus ei fod wedi cael ei symud i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd lle bydd yn cael ei fwynhau a'i astudio am genedlaethau."
Gofynnodd teulu Lily i Karl-James Langford o Archaeology Cymru am gyngor. Dywedodd yntau;
"Fel y pumed person yn unig i'w weld, fe wnes i gadarnhau ei fod yn ôl troed deinosor, ac un o bwys rhyngwladol a gyda'r gorau i gael ei ganfod yn y Deyrnas Unedig am 20 mlynedd neu fwy. Roedd hwn yn real iawn. Roedd yn ôl llawer mwy cain nag oeddwn i wedi ei weld erioed, ar ôl blynyddoedd o chwilio'r traeth gyda phlant ysgol ac oedolion."
Dywedodd Christina Byrne, Uwch Swyddog Asesu Amgylcheddol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru;
"Mae'r ôl troed deinosor yn ganfyddiad rhyfeddol ac roedd yn bleser rhoi caniatâd a chydweithio â’r Athrofa Brydeinig Cadwraeth Ddaearegol ac Amgueddfa Cymru i'w symud yn ofalus er mwyn ei gadw fel adnodd gwyddonol ac addysgiadol er lles cenedlaethau'r dyfodol."