Datganiadau i'r Wasg
Mae diwylliant yn perthyn i ni gyd
Dyddiad:
2021-08-19Mae pandemig COVID-19 wedi newid Cymru, y byd, a’n ffordd ni o fyw. Mae ein gwerthoedd yn cael eu cwestiynu’n ddwys a’u hail-siapio ym mhob agwedd o fywyd cyhoeddus. Mae COVID-19 wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau, ac wedi’u gwaethygu. Pobl fwyaf bregus ein cymdeithas sydd wedi’u taro galetaf – boed yn bobl anabl; yn bobl sy’n dioddef tlodi ariannol neu gymdeithasol; neu’n gymunedau amrywiol sydd wedi’u tangynrychioli.
Mae gan sefydliadau diwylliannol sy’n derbyn nawdd cyhoeddus fel Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru rôl allweddol i’w chwarae, a chyfrifoldeb sylfaenol, i ateb yr heriau sy’n wynebu Cymru heddiw a sicrhau bod diwylliant yn agored i bawb.
Dylai democratiaeth ddiwylliannol – yr hawl i bawb gymryd rhan ym mywyd diwylliannol eu cymuned, sydd wedi’i gynnwys yn Natganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig – fod wrth galon popeth a wnawn. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu symud oddi wrth ffyrdd traddodiadol o weithredu, sy’n anwybyddu neu’n cau allan llawer o’r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.
Boed yn amgueddfa neu’n oriel, yn theatr neu neuadd gyngerdd, cwmnïau cenedlaethol neu sefydliadau celf cymunedol, rydym yn cydnabod fod gormod o bobl yn teimlo wedi’u heithrio neu wedi’u datgysylltu o’r adnoddau diwylliannol hyn, neu’n cael yr argraff nad yw eu diddordebau ac anghenion yn bwysig.
Nid yw’n dderbyniol bod mynediad at ddiwylliant sydd wedi’i ariannu’n gyhoeddus yn cael ei rannu mor anghyfartal. Rydym yn gweithio i sicrhau fod cymunedau ar draws Cymru yn dod yn rhan fwy ystyrlon o siapio ein gwaith, a’r mentrau yr ydym yn eu datblygu a’u cyflawni.
Ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod pawb yn gallu profi diwylliant yn eu ffordd eu hunain – boed hynny yn y cnawd neu’n ddigidol, mewn amgueddfeydd a lleoliadau eraill neu yn eu cymunedau.
Roedd Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn barod yn cydweithio ar wella cyrhaeddiad gweithgareddau diwylliannol yng Nghymru cyn y pandemig. Ond daeth yn amlwg yn ystod yr argyfwng nad oedden ni’n symud yn ddigon sydyn, a bod angen gweithredu ar fwy o frys.
Yn yr un cyfnod, bu’n rhaid i ni wynebu ambell wirionedd anodd a phwysig mewn ymateb i fudiad Mae Bywydau Du o Bwys, ac ystyried ein rôl wrth daclo hiliaeth. O ganlyniad i hyn, rydym wedi dechrau datblygu gwell dealltwriaeth o’r rôl y gall Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ei chwarae wrth gyflawni cydraddoldeb hiliol yng Nghymru ac o fewn ein sefydliadau ein hunain.
Yn yr un modd, mae’r mudiad We Shall Not Be Removed wedi herio ein hymatebion i wella mynediad a chyfleoedd ar gyfer pobl anabl.
Ar ddiwedd mis Mehefin 2020, fe wnaethom hysbysebu tendr i gynnal cyfres o sgyrsiau ymchwil dwys gyda chymunedau ledled Cymru yr ydym yn methu yn gyson â'u cynnwys yn ein gwaith. Yn dilyn proses ddethol fanwl a chyfweliadau penderfynwyd penodi tri sefydliad i gynnal tair astudiaeth wahanol iawn.
Y tri sefydliad oedd: Re:cognition a ganolbwyntiodd ar ardal led-wledig o dlodi; Richie Turner Associates, a luniodd dîm i ganolbwyntio ar bobl fyddar ac anabl; a Wales Arts Anti-Racist Union a ganolbwyntiodd ar amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig.
Mae eu hadroddiadau heriol wedi eu cyflwyno a’u cyhoeddi ar wefannau Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru er mwyn cael ymatebion a thrafodaeth ehangach. Bydd y ddau sefydliad yn cymryd camau brys i ymateb i’r argymhellion a wneir yn yr adroddiadau.
Rydym yn ddau sefydliad gwahanol iawn. Ar adegau arferol, mae Amgueddfa Cymru yn elusen sy’n croesawu bron i 2 filiwn o bobl i’w saith amgueddfa genedlaethol bob blwyddyn, ac yn datblygu gwasanaethau tu hwnt i’w safleoedd mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol ar hyd a lled Cymru.
Ar y llaw arall, mae’r Cyngor Celfyddydau yn ariannu ac yn datblygu’r celfyddydau, gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol i gefnogi gweithgareddau ar draws y wlad – ar hyn o bryd mae 67 sefydliad yn derbyn arian refeniw ac mae llawer mwy o grwpiau ac unigolion yn elwa ar gefnogaeth y Loteri Genedlaethol.
Ond mae her democratiaeth ddiwylliannol yn berthnasol i’r ddau sefydliad, ac mae’r themâu a’r materion yn yr adroddiadau hyn yn mynnu ateb gan y ddau sefydliad.
Mae’n amlwg o’r adroddiadau fod ymgysylltu gwell gyda chymunedau yn hanfodol. Nid rhannu nwyddau diwylliannol o safle breintiedig sydd gennym dan sylw. Ydi, mae’n bwysig cysylltu pobl â gweithiau, gwrthrychau, syniadau neu berfformiadau arbennig. Ond mae’n rhaid i ni wrando a dysgu, gwerthfawrogi’r hyn sy’n werthfawr yn barod i bobl, a bod o ddifri ynghylch y pethau sy’n rhwystro pobl rhag cymryd rhan.
Fyddwn ni ddim yn gwneud y gwaith hwn ar ein pen ein hunain. Mae fframwaith a gweledigaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn grymuso Cymru i ddod yn gymdeithas llawer mwy cydweithredol – un enghraifft yn unig yw ein partneriaeth ni.
Mae gennym gyfleoedd gwych mewn ysgolion drwy wasanaethau arloesol Amgueddfa Cymru – ar-lein ac yn yr amgueddfeydd – i dros 200,000 o blant ysgol a phobl ifanc bob blwyddyn, a thrwy bartneriaeth Cyngor Celfyddydau Cymru gyda Llywodraeth Cymru, Dysgu’n Greadigol drwy’r Celfyddydau, sy’n gosod artistiaid mewn dosbarthiadau ar draws y cwricwlwm.
Bydd partneriaethau eraill sy’n llwyddiannus yn barod yn rhoi cyfleoedd eraill i ehangu ymgysylltiad – er enghraifft, mae’r Cyngor Celfyddydau yn gweithio’n agos gyda Chonffederasiwn GIG Cymru yn y saith bwrdd iechyd, ac yn yr amgylchedd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae Amgueddfa Cymru wedi mynd â chelf i ysbytai COVID, a delweddau o wrthrychau i gartrefi gofal. Rydym yn barod wedi ymrwymo i ddatblygu gweithgareddau celfyddydol drwy’r partneriaethau hyn, mewn ffyrdd sy’n symud ein cyllid i gymunedau ar wahanol lwybrau.
Ond mae gennym ffordd bell i fynd, i ymateb i’r anghydraddoldebau annerbyniol hyn o ran mynediad at gyfleoedd diwylliannol. Mae Cymru ar ei cholled oherwydd y rhwystrau hyn, yn gwastraffu talent a photensial y rhai sy’n cael eu cau allan waethaf. Yn syml, nid yw’n deg bod mynediad wedi’i rannu mor anghyfartal.
Mae gweithgareddau a phrofiadau diwylliannol ar gyfer pawb, nid ar gyfer lleiafrif. Dyna ydyn ni’n ei ddweud, ac mae’n bryd i ni ddangos ein bod yn ei olygu.
Phil George, Cadeirydd, Cyngor Celfyddydau Cymru a Roger Lewis, Llywydd, Amgueddfa Cymru