Datganiadau i'r Wasg

Gwyliau Rhyfel yn Amgueddfa Werin Cymru

30 Ebrill–2 Mai 2005

Cofio bywyd yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd

PARTÏON STRYD; PRIODAS RHYFEL; JILL DANIELS; CERDDORIAETH A DAWNSIO; BYWYD AR Y FFRYNT CARTREF; DOGNAU BWYD A DILLAD; TANCIAU A JÎPS; BECHGYN BEVIN BRENIN PLESER A BECHGYN Y BISGEDI; GARDDIO HEB WASTRAFF; GWALLT A CHOLUR FFILMIAU'R 40AU; DARLITHOEDD AC ARDDANGOSFEYDD;

Mae'r Ail Ryfel Byd a'i hanes yn perthyn i ni i gyd. Cafodd effaith ddofn ar bob dyn, menyw a phlentyn oedd yn byw ar y Ffrynt Cartref yng Nghymru. Doedd Cymru ddim wedi wynebu cymaint o berygl a chyni ar stepen y drws ers y Rhyfel Cartref.

I gofio bywyd yng Nghymru yn ystod y cyfnod chwyldroadol a thrafferthus yma, a'r newidiadau aruthrol yn ein bywyd gwaith, adloniant, dillad a diet, byddwn ni'n troi Amgueddfa Werin Cymru'n bentref mawr ar y Ffrynt Cartref dros ?yl Fai. Bydd priodas ryfel, partïon stryd, llochesi Anderson, cyrchoedd awyr a digonedd o ffriters sbam!

I ddathlu wythnosau olaf y rhyfel a Diwrnod VE ar 7 Mai, 1945, byddwn ni'n edrych ar y gwrthdaro trwy lygaid y bobl oedd yn byw yng Nghymru. Bydd y dathlu'n troi o gylch yr adeiladau o'r cyfnod a ailgodwyd ar y safle, gan gynnwys Sefydliad Oakdale, Swyddfa Bost Blaenwaun, siop y teiliwr a ffermdy Llwyn yr Eos. Gall ymwelwyr ddysgu rhagor am fywyd fel warden cyrchoedd awyr, faciwî, merch byddin y tir, milwr gartref ar ei wyliau a'r gwarchodlu cartref o gwmpas y safle. Bydd g?yl y banc yn Sain Ffagan yn cynnig cyfle unigryw i ddysgu am ddogni, adloniant, gofal mewn cyrchoedd awyr, gweithio ar y tir a ffasiwn ar rasiwn, yn ogystal â chyfle i jeifio, profi cyrch awyr a chael gwisg de-mob.

Trwy gyfres o ddigwyddiadau ac apelau, mae'r Amgueddfa wedi bod yn cydweithio ac yn siarad â phobl fu fyw drwy'r rhyfel, ac mae'r straeon hyn wedi ein helpu ni'n fawr gyda'n gwaith ymchwil i greu'r peiriant amser arbennig ac amserol hwn.

Ddydd Sul y cyntaf o Fai, byddwn ni'n dathlu dechrau'r haf wrth godi'r Pawl Fai wrth galon parcdir yr Amgueddfa. Brenhines Fai eleni fydd y briodferch a fydd yn priodi ei milwr yng nghapel Pen-rhiw yn ei ffrog sidan parasiwt, ynghyd â chonffeti cartref. Caiff ymhelwyr fwynhau'r briodas gyda brecwast priodas y Ffrynt Cartref a dawns yn Oakdale.

I gofio'r miloedd o bartïon stryd a gafwyd ar hyd a lled Cymru ar Ddiwrnod VE, bydd parti stryd anferth ddydd Llun g?yl y banc gyda bandiau pres traddodiadol, gemau ar sgwâr y pentref (heb ras wy ar lwy - roedd wyau'n rhy werthfawr o lawer am eu bod yn cael eu dogni i un yr wythnos!) a digon o gwrw.

Byddwn ni'n edrych ar y newidiadau mawr mewn diet, dylunio a cherddoriaeth hefyd gydag arddangosfa o ddodrefn ac addurniadau cartref o'r canllawiau Make Do and Mend, dosbarthiadau coginio ar rasiwn a chyfle i wisgo a choluro fel rhywun o'r 40au gyda sanau ffug, penwisgoedd a cholur cartref. Gan ddefnyddio straeon pobl bob dydd a'u profiadau anhygoel adeg y rhyfel, mae'r Amgueddfa Werin yn addo creu un o'i digwyddiadau mwyaf a mwyaf cofiadwy o'r jig-so anferth yma o atgofion, hanes a hiraeth, gan gofio a dathlu 60 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Mae mynediad i'r Amgueddfa am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru