Datganiadau i'r Wasg

Cronfa Adfer Amgueddfaol TEFAF ac Amgueddfa Cymru i adnewyddu gwaith amhrisiadwy Manet

Mae'n bleser gan y Sefydliad Celfyddyd Gain Ewropeaidd (TEFAF) gyhoeddi y bydd Amgueddfa Cymru yn derbyn €20,000 gan Gronfa Adfer Amgueddfaol TEFAF. Dyma'r ail gais llwyddiannus eleni am y grant blynyddol a sefydlwyd i gefnogi gwaith hanfodol y gymuned gelf ryngwladol i warchod treftadaeth artistig a diwylliannol.  

Gyda nawdd TEFAF bydd Amgueddfa Cymru yn adfer portread Édouard Manet (1832-1883), Portrait de Monsieur Jules Dejouy (1879), a brynwyd gan yr Amgueddfa yn 2019 ar ôl naw deg mlynedd a mwy mewn casgliad preifat teuluol. Roedd Jules Dejouy (1815-1894) yn gefnder hŷn i Manet, ac yn ffigwr dylanwadol ym mywyd yr artist. Cyfreithiwr llwyddiannus oedd Jules a benodwyd i Lys Ymerodrol Ffrainc ym 1849. Wedi marw tad yr artist ym 1862, fe'i penodwyd yn brif gynghorydd i Manet a'i frodyr, a byddai Manet yn dibynnu arno ar adegau allweddol drwy gydol ei fywyd. Yn ystod gwarchae Paris ym 1870 anfonodd yr artist eiddo gwerthfawr at ei gefnder i'w cadw'n ddiogel. Penododd Manet ei gefnder yn ysgutor ei ewyllys hefyd, ac roedd yn rhan o'r pwyllgor a drefnodd arddangosfa 1884 yn dilyn marwolaeth Manet, ar y cyd ag Emile Zola, artistiaid fel Fantin-Latour, a gwerthwyr fel Durand-Ruel a Georges Petit. Roedd y portread hwn yn rhan o'r arddangosfa honno.

 

Jules Dejouy oedd y perchennog gwreiddiol, ac mae'r gwaith olew ar gynfas yn parhau mewn cyflwr bron heb ei gyffwrdd, sy'n anarferol am waith o'r cyfnod. Bydd y project yn cynnwys gwaith astudio technegol cyffrous a chadwraeth, gan arwain at ddealltwriaeth well o'r portread a galluogi iddo gael ei arddangos yn well. Bydd nawdd TEFAF hefyd yn cefnogi gwaith ymchwil hanesyddol gan Amgueddfa Cymru er mwyn gosod Portrait de Monsieur Jules Dejouy yn ei gyd-destun celfyddydol hanesyddol priodol, yn enwedig gan fod tri o weithiau eraill Manet yng nghasgliad yr Amgueddfa: Effaith Eira yn Petit Montrouge (1870-71), Argenteuil, Cwch (1874), a Y Gwningen (1881).

 

"Bydd y grant hael hwn gan y Sefydliad Celfyddyd Gain Ewropeaidd (TEFAF) gyn galluogi i Amgueddfa Cymru adfer ac ailgyflwyno Portrait de Monsieur Jules Dejouy i'r cyhoedd ar ôl 90 a mwy o flynyddoedd. Fel elusen gofrestredig, rydym yn hynod ddiolchgar i TEFAF am eu cefnogaeth, a hoffem ddiolch hefyd i Gyfeillion yr Amgueddfa a Sefydliad Finnis Scott am eu cyfraniadau." meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru. "Mae Amgueddfa Cymru yn gartref i un o gasgliadau gorau'r byd o gelf Ffrainc troad yr 20fed ganrif, diolch i gymynroddion hael y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies. Bydd portread Manet o Jules Dejouy yn cael cartref da yma."

 

"Mae'r paentiad ar hyn o bryd dan haen o faw a farnais wedi pylu. Bydd tynnu'r haenau yma gobeithio'n datgelu cynildeb y paentio a lliw cyfoethog y ddelwedd er mwyn adfer ymdeimlad o ddyfnder." meddai Adam Webster, Prif Gadwraethydd Celf, Hanes Natur a Chadwraeth Ataliol Amgueddfa Cymru. "Elfen bwysig arall o'r project yw'r archwiliad technegol gyda golau uwchfioled, golau goleddf, adlewyrchograffeg isgoch ac x-radiograffeg. Dylai'r rhain roi golwg ffres i ni ar dechnegau Manet, er enghraifft wrth newid cydosodiad y llun a'r broses baentio. Bydd defnyddio microsgopeg i astudio'r pigment a strwythur yr haenau hefyd yn cyfrannu at hyn, ac ein dealltwriaeth bresennol o dechneg Manet." 

 

"Braint a phleser yw cydweithio ag Amgueddfa Cymru ar y project hwn o ddarganfod, dysgu a chadwraeth," meddai Ashok Roy, cyn Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth a Chasgliadau yr Oriel Genedlaethol yn Llundain ac Aelod o Bwyllgor Cronfa Adfer AmgueddfaolTEFAF. "Mae'n fraint gan Gronfa Adfer AmgueddfaolTEFAF i helpu gyda chadwraeth gwaith pwysig, ond cymharol anadnabyddus, gan artist sy'n annwyl i nifer ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

 

Manylyn o wyneb o waith Édouard Manet, Portrait de Monsieur Jules Dejouy (1879). Bydd yr astudiaeth dechnegol, gydag adlewyrchograffeg isgoch ac x-radiograffeg, yn dadansoddi'r deunyddiau a'r technegau a ddefnyddiodd yr artist.

 

Manylyn llaw o waith Édouard Manet, Portrait de Monsieur Jules Dejouy (1879). Bydd y project yn astudio'r cracio yn y portread o gwmpas y llaw a'r cravat, allai ddangos newid cydosodiad. 

 

CRONFA ADFER AMGUEDDFAOLTEFAF

Sefydlwyd Cronfa Adfer AmgueddfaolTEFAF yn 2012 er mwyn cefnogi a hyrwyddo gwaith adfer proffesiynol ac ymchwil ysgolhaig perthnasol ar weithiau celf pwysig mewn amgueddfeydd. Mae'r fenter yn cefnogi pob math o gelf, ac yn gwahodd ceisiadau am grantiau gan amgueddfeydd o bob cwr o'r byd, ar gyfer gweithiau o bob oed. Bob blwyddyn, caiff uchafswm o €50,000 ei glustnodi ar gyfer projectau. Bydd y Pwyllgor o arbenigwyr annibynnol fel arfer yn dewis dau enillydd fydd yn derbyn uchafswm o €25,000 i gefnogi eu project cadwraeth.

 

Yr ail ymgeisydd llwyddiannus eleni i Gronfa Adfer AmgueddfaolTEFAF yw Project Gwydr Beirut, menter ar y cyd rhwng y British Museum a Phrifysgol Americanaidd Beirut. Bydd Cronfa Adfer AmgueddfaolTEFAF yn dathlu ei degfed pen-blwydd ym Maastricht yn 2022. Ers ei sefydlu, mae bron i 20 o brojectau amgueddfa wedi cael eu cefnogi. Mae rhagor o wybodaeth am gyn-brojectau ar TEFAF Stories.

 

TEFAF Talks y Financial Times
Wyth potel wydr hynafol a ddifrodwyd yn ddifrifol gan y ffrwydrad yn harbwr Beirut yn Libanus, a phaentiad gan Manet sy'n rhan o un o'r casgliadau argraffiadol gorau y tu allan i Ffrainc. Dyma enillwyr Cronfa Adfer AmgueddfaolTEFAF 2021. Rhwng 7-8pm CET ar 10 Medi, bydd curaduron a chadwraethwyr yn cynnal sgwrs fyw am y projectau heriol, a'r gwaith adfer yn ystod TEFAF Online 2021. Ymhlith y siaradwyr bydd Nadine Panayot Haroun (Amgueddfa Archaeolegol, Prifysgol Americanaidd Beirut), James Fraser (British Museum), ac Adam Webster (Amgueddfa Cymru) a'r cyfan dan ofal Jan Dalley (y Financial Times). Cofrestrwch ar gyfer TEFAF Online ar www.tefaf.com.

 

NODIADAU I OLYGYDDION

 

TEFAF

Sefydlwyd TEFAF (Y Sefydliad Celfyddyd Gain Ewropeaidd) ym 1988 ym Maastricht, yn yr Iseldiroedd. Mae'n sefydliad nid-er-elw sy'n hyrwyddo arbenigedd, ysgolheictod, ac amrywiaeth yn y gymuned gelfyddydol fyd-eang, ac mae ganddo enw da am safonau archwilio trylwyr. Cynhelir ffeiriau TEFAF blynyddol ym Maastricht ac Efrog Newydd. Mae'r enwau sy'n cael eu dewis i arddangos yn ei ffeiriau yn brawf bod TEFAF yn ganllaw arbenigol i gasglwyr preifat a sefydliadau, ac yn ysbrydoli pobl sy'n caru ac am brynu celf ledled y byd. Llywodraethir TEFAF gan Fwrdd Ymddiriedolwyr 20 aelod o'r gymuned gelf a hynafolion. Mae mwyafrif aelodau'r Bwrdd yn arddangoswyr TEFAF, a'r cyfan yn cael ei lywio gan Bwyllgor Gweithredol o saith a benodir gan y Bwrdd.

 

AMGUEDDFA CYMRU 

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i'r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Enillodd un o amgueddfeydd ein teulu, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, sy'n gartref i hanes a diwylliant Cymru wobr Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019.

Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru'n gwerthfawrogi pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People's Postcode Lottery. 

 

SWYDDFA’R WASG TEFAF

Byd-eang

TEFAF Netherlands, press@tefaf.com, + 31 20 303 6400

JP Verhagen, jp.verhagen@tefaf.com, +31 6 42 56 77 25

DU

Lucy Barry, lucy@culturalcomms.co.uk, +44 07912 627 876

Oliver Pickford, oliver@culturalcomms.co.uk

 

SWYDDFA’R WASG, AMGUEDDFA CYMRU

Lleucu Cooke

Rheolwr Cyfathrebu

Amgueddfa Cymru 

 

Ffon symudol / Mobile: 07961223567

Ebost / Email: lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk