Datganiadau i'r Wasg

CANFOD TRYSOR YN ABERTAWE

Datgan fod grŵp o geiniogau canoloesol a modrwy aur ôl-ganoloesol yn drysor

Mae dau ganfyddiad o’r cyfnodau canoloesol ac ôl-ganoloesol wedi eu datgan yn drysor heddiw (27 Awst 2021) gan Ddirprwy Grwner Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, Mr Aled Gruffydd.

Cafodd y grŵp o geiniogau canoloesol (yn dyddio i 1248-1265) a’r fodrwy aur fede ôl-ganoloesol (yn dyddio i’r 16eg neu’r 17eg ganrif) eu darganfod gan bobl â datgelyddion metel.

Cafodd 16 ceiniog arian yn dyddio i deyrnasiad Harri III (Trysor 19.19) eu darganfod gan Mr Gary May, tra’r oedd yn defnyddio’i ddatgelydd metel yng Nghymuned Sgeti, Abertawe ar 23 a 24 Chwefror 2019. Dywedodd Alastair Willis, Uwch Guradur Niwmismateg ac Economi Cymru yn Amgueddfa Cymru:

“Gwerth y ceiniogau arian hyn oedd 14 ceiniog a hanner, ac mae’n debyg mai cynnwys pwrs oedden nhw - wedi’i golli yn hytrach na’i guddio o bosib. Mae’r darganfyddiad yn arwydd o’r defnydd cynyddol o geiniogau ar hyd arfordir deheuol Cymru yn ystod y cyfnod hwn.”

Mae Amgueddfa Abertawe yn bwriadu caffael y ceiniogau hyn.

Cafodd modrwy aur addurnol fede (Trysor 19.10) ei darganfod gan Mr Gwyn Thomas, tra’r oedd yn defnyddio datgelydd metel yng Nghymuned Reynoldston, Abertawe ar 17 Medi 2018. Yn ôl Sian Iles, Curadur Archaeoleg yr Oesoedd Canol a Diweddarach yn Amgueddfa Cymru, mae arddull y fodrwy yn dyddio o’r 16eg i’r 17eg ganrif:

“Câi modrwyau fede neu ffyddlondeb eu rhoi fel symbol o gariad neu ddyweddïad, ac yn aml roedd geiriau serchus wedi’u harysgrifio arnynt. Mae’r enghraifft brin hon yn cyfrannu llawer at ein dealltwriaeth o berthynas ac emosiynau pobl yng Nghymru’r cyfnod.”

Mae Amgueddfa Cymru yn bwriadu caffael y fodrwy hon ar gyfer ei chasgliad, yn dilyn prisiad annibynnol drwy’r Pwyllgor Prisio Trysor.

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth neu ddelweddau, cysylltwch â Lleucu Cooke, Rheolwr Cyfathrebu: lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk.

NODIADAU I OLYGYDDION

1. © Amgueddfa Cymru yw hawlfraint pob delwedd

2. Mae Cynllun Henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru) yn raglen sy’n ein galluogi i gofnodi a chyhoeddi canfyddiadau archaeolegol gan aelodau’r cyhoedd. Am ragor o wybodaeth neu ddelweddau, cysylltwch â Victorine Schurdevin, Swyddog Cyfathrebu:

3. Bob blwyddyn, caiff rhwng 20 a 45 o achosion trysor eu hadrodd yng Nghymru, fel canfyddiadau wedi eu gwneud gan aelodau o’r cyhoedd, pobl gyda’u datgelyddion metel fel arfer. Ers 1997, mae dros 550 o ganfyddiadau trysor wedi cael eu gwneud yng Nghymru, gyda swm y canfyddiadau trysor yn cynyddu’n raddol dros amser, gyda 45 o achosion trysor wedi eu cofnodi yn 2019. Mae’r canfyddiadau hyn yn ychwanegu gwybodaeth a dealltwriaeth newydd pwysig am ein gorffennol, adnodd diwylliannol sy’n gynyddol bwysig i Gymru.

4. Mae’n rhaid i eitemau trysor gael eu hadrodd yn gyfreithiol a’u trosglwyddo i staff PAS Cymru ac Amgueddfa Cymru, fel y prif sefydliad treftadaeth sy’n rheoli gwaith trysor yng Nghymru. Mae curaduron Amgueddfa Cymru yn casglu gwybodaeth fanwl gywir ac yn adrodd ar ganfyddiadau trysor, gan wneud argymhellion i’r crwneriaid, y swyddogion sy’n gwneud penderfyniadau cyfreithiol annibynnol ar drysor a pherchnogaeth.