Datganiadau i'r Wasg
Monet — Y Garddwr A'r Artist
Dyddiad:
2005-04-2123 Ebrill 2005
Roedd gan Claude Monet (1840-1926), un o arweinwyr y garfan Argraffiadol, ddiddordeb mawr mewn garddio, fel mae rhai o'i weithiau diweddarach yn dangos. Cafodd ei ardd hardd yn Giverny ei hedmygu gan y rheini sy'n mwynhau celf yn ogystal â garddwyr, a daeth ei luniau ysgafn o lilïau'r dwr yn rhai o'r lluniau enwocaf yn y byd.
Prynodd Monet ei gartref yn Giverny yn 1890, a thair blynedd yn ddiweddarach, prynodd lyn mawr gerllaw, er mwyn creu gardd ddwr. Treuliodd weddill ei oes yma, ac o 1899 ymlaen, cafodd ei swyno gan y llyn, y bont a chan y lilïau dwr a oedd yn tyfu ar y dwr. Mae tri o'r gweithiau o'r ail gyfres o luniau o lilïau'r dwr i'w gweld yn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd, gan greu rhan ganolog o gasgliad trawiadol Gwendoline a Margaret Davies, un o'r casgliadau gorau o waith Argraffiadol ac ôl-Argraffiadol y tu allan i Lundain.
Mae'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yn dathlu Monet, y Garddwr a'r Artist, mewn digwyddiad arbennig, nos Sadwrn 23 Ebrill am 6.30 pm. Bydd Dr Ann Sumner, Curadur Celf Gain a Christopher Taylor, Cadwraethydd Gerddi yn Amgueddfa Werin Cymru, yn sôn am fywyd a gwaith Claude Monet, gan rannu rhai cyfrinachau garddio i'ch helpu i greu eich pwll lili'r dwr eich hun yn eich gardd gefn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn garddio neu gelf, mae'r digwyddiad hwn yn ffordd ardderchog i fwynhau nos Sadwrn gwahanol iawn. Mae'r digwyddiad am ddim ond rhaid bwcio tocynnau ymlaen llaw drwy ffonio 029 2057 3466.
Mae mynediad i'r Amgueddfa am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
-Diwedd-
Nodiadau i Olygyddion
- 1. Ann Sumner yw awdur Goleuni a Lliw, y llyfr cyntaf i'w gyhoeddi ar y casgliad Argraffiadol yng Nghaerdydd ers ugain mlynedd. Bydd y llyfr yn cael ei gyhoeddi yng Ngwyl y Gelli eleni. Bydd modd i ymwelwyr archebu copi o'r llyfr ddydd Sadwrn.
- 2. Mae'r digwyddiad hwn wedi'i drefnu i gyd-fynd ag arddangosfa Trawsnewid a Dylanwad, arddangosfa sy'n cymharu gweithiau Argraffiadol ac ôl-Argraffiadol casgliadau cenedlaethol Cymru a'r Alban. Mae'n canolbwyntio ar y noddwyr hael a adawodd y gweithiau i'r ddau sefydliad ac effaith hyn ar y casgliadau ac ar artistiaid diweddarach. Mae'r arddangosfa hon i'w gweld yn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol tan 26 Mehefin.
- 3. Mae'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yn un o chwe safle Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ar hyd a lled y wlad. Y safleoedd eraill yw Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol, Blaenafon - sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gulbenkian eleni, Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre fach Felindre, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Caerllion ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, sy'n adrodd hanes diwydiant a blaengaredd yng Nghymru yn agor yn Abertawe yn yr hydref.
- 4. Am ragor o wybodaeth am y datganiad hwn cysylltwch â Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, AOCC, 029 2057 3175.