Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn caffael ffotograffau unigryw Bernd a Hilla Becher o strwythurau diwydiannol Cymru

Mae Amgueddfa Cymru wedi prynu darn unigryw o gelf gan Bernd a Hilla Becher, dau o ffotograffwyr pwysicaf yr ugeinfed ganrif, diolch i gymorth y Gronfa Gelf a Sefydliad Henry Moore. Mae’r artistiaid o’r Almaen yn adnabyddus am eu teipolegau - ffotograffau o un math o strwythur diwydiannol, wedi’u gosod mewn grid.

© Ystad Bernd a Hilla Becher, cynrychiolir gan Max Becher

Mae Gweithfeydd Paratoi, 1966-1974, sydd i’w weld nawr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn cynnwys naw ffotograff a dynnwyd gan Bernd a Hilla ar eu hymweliadau â Phrydain rhwng 1966 a 1974. Mae’r lluniau’n cynnwys pedwar pwll glo yn ne Cymru: Penallta, Fernhill, Brittanic a’r Tŵr. Mae’r gwaith hefyd yn cynnwys lluniau o lofeydd yn Chesterfield, Manceinion a Lerpwl yn Lloegr, a Kirkintilloch yn yr Alban.

 

 

Swyddogaeth y gweithfeydd paratoi oedd golchi pridd a cherrig oddi ar y glo ar ôl iddo gael ei gludo o ben y pwll, ei dorri yn ddarnau llai, a’i baratoi i gael ei gludo. Roedd gweithfeydd paratoi yn cynnwys nifer o strwythurau, yn cynnwys tŵr dŵr, byncer glo a phrif adeilad oedd yn gartref i’r peiriannau oedd yn golchi a didoli’r glo. Mae’r teipoleg hwn yn anarferol yng ngwaith Bernd a Hilla Becher am fod y ffotograffau yn dangos nifer o wahanol strwythurau yn hytrach na dim ond un math.

 

Ers y 1960au, bu Bernd a Hilla yn cydweithio ar broject i ddogfennu strwythurau diwydiannol ledled Ewrop ac UDA. Buont yn tynnu lluniau o offer weindio, ffwrneisi chwyth, tyrau oeri, tanciau nwy, codwyr grawn, tyrau dŵr, odynnau calch, tai fframwaith a llawer mwy.

 

Dechreuodd eu project gyda diwydiannau glo a dur y Ruhr a Siegen yn yr Almaen, cyn symud ymlaen i lefydd eraill yn Ewrop ac yn ddiweddarach, Gogledd America. Ym 1965, daeth Bernd a Hilla Becher ar daith i Brydain. Nod y daith oedd canfod safleoedd diwydiannol allweddol ym Mhrydain a oedd yn dirywio. Wedi derbyn grant gan y British Council ym 1966, daeth Bernd a Hilla yn ôl i Brydain am chwe mis, gan dreulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn ymweld â phyllau glo cymoedd y de. Buont yn aros yng Nglyn-nedd, mewn hen garafán VW oedd yn gartref ac yn ystafell dywyll iddynt. Mae’r ffotograffau a dynnwyd ganddynt ym 1966, ac yna ym 1968 a 1974, yn gofebau i fyd a gollwyd; i’r llafur oedd unwaith mor ganolog i fywyd y cymunedau diwydiannol.

 

Ym 2019 cynhaliodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd arddangosfa Bernd a Hilla Becher: Delweddau Diwydiant, oedd yn cynnwys y gwaith hwn. Hon oedd yr arddangosfa olaf i gael ei dewis gan Hilla Becher cyn ei marwolaeth yn 2015. Roedd yr arddangosfa yn cynnwys detholiad helaeth o offer weindio, dewis bwriadol gan fod y gwaith yn cael ei arddangos yng Nghymru. Ar ben hynny, roedd penderfyniad curadurol Hilla yn pwysleisio arwyddocâd canol y 1960au fel moment dyngedfennol yn hanes y pyllau glo, a rôl Cymru yn yr hanes hwnnw.

 

Dywedodd Bronwen Colquhoun, Uwch Guradur Ffotograffiaeth, Amgueddfa Cymru:

 

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Gronfa Gelf a Sefydliad Henry Moore am eu cefnogaeth hael a wnaeth y caffaeliad hwn yn bosibl.

 

“Mae hwn yn ychwanegiad arwyddocaol i gasgliad Amgueddfa Cymru o ran cynrychioli gwaith artistiaid rhyngwladol a ddaeth i Gymru a gweithio yma. Mae Bernd a Hilla Becher yn perthyn i draddodiad hir o artistiaid rhyngwladol yn cael eu hysbrydoli gan hanes diwydiannol y de, ac mae’n bwysig fod Amgueddfa Cymru yn casglu hanes celf weledol yng Nghymru.”

 

“Mae Amgueddfa Cymru mewn safle unigryw i archwilio arwyddocâd y gwaith hwn o sawl gwahanol safbwynt. Wrth gwrs, mae’n hynod o berthnasol i’n casgliadau Ffotograffiaeth a Chelf Fodern a Chyfoes, ond gallwn hefyd ei ystyried o safbwynt ein casgliadau Hanes Diwydiannol a Chymdeithasol.”

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae mynediad i bob un ohonynt yn rhad ac am ddim diolch i gymorth Llywodraeth Cymru.

 

DIWEDD