Datganiadau i'r Wasg

Canfod Trysor yng Nghanolbarth a De Cymru

Canfod gwrthrychau Oes Efydd, canoloesol ac ôl-ganoloesol yn Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a Phowys.

Mae pump canfyddiad o gyfnodau’r Oes Efydd, canoloesol ac ôl-ganoloesol wedi cael eu cadarnhau yn drysor heddiw (dydd Llun 10 Ionawr) gan Ddirprwy Grwner Canol De Cymru, Rachel Knight. Cafodd yr holl wrthrychau eu darganfod gan ddefnyddwyr datgelyddion metel, ac maent yn cynnwys eitemau o fedd Oes Efydd, celc o’r Oes Efydd, a gwrthrychau personol ac addurniadau canoloesol ac ôl-ganoloesol.

 

Cafodd celc o wrthrychau efydd (Achos Trysor 19.07) o ddiwedd yr Oes Efydd ei ganfod gan Andrew Cooney wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel ar dir garw yng Nghymuned Pontypridd, Rhondda Cynon Taf ar 9 Ionawr 2019. Yn y celc mae cyllell socedog efydd, tair bwyell socedog efydd gydag addurnwaith asennog, darn o lafn o fwyell socedog denau, darn o gyllell palstaf, ac ingot copr. Cafodd y gwrthrychau eu claddu mewn cors bron i 3,000 o flynyddoedd yn ôl, rhywbeth oedd yn digwydd ar draws gogledd-orllewin Ewrop yn ystod yr Oes Efydd. Mae’n bosibl i’r gwrthrychau gael eu claddu fel rhodd i’r duwiau oedd yn byw yn y gwlypdiroedd hyn.

 

Mae Amgueddfa Pontypridd yn gobeithio caffael y celc hwn, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Davies, Cadeirydd Pwyllgor Amgueddfeydd ac Adfywio Cyngor Tref Pontypridd:

Mae’r caffaeliad posibl hwn yn gyfle cyffrous iawn i Amgueddfa Pontypridd. Dyma fyddai’r tro cyntaf i’r Amgueddfa allu caffael trysor a’r ychwanegiad cyntaf o ddeunydd archaeolegol cyn-1756 o’r ardal yn ein casgliad. Bydd yr eitemau yn bwrw goleuni ar gyfnod yn hanes yr ardal sydd wedi bod ar goll o’n casgliad a’n hymchwil hyd yn hyn. Mae’n gyfle cyffrous i adrodd hanes y dref cyn oes diwydiant, ac archwilio bywydau’r bobl oedd yn byw yma filoedd o flynyddoedd yn ôl.”

 

Cafodd grŵp o arteffactau ger bedd o’r Oes Efydd (Achos Trysor 16.35) ei ganfod gan Tom Haines wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel mewn cae yng Nghymuned Tal-y-bont ar Wysg, Powys ar 26 Hydref 2016. Mae’r arteffactau yn cynnwys cyllell efydd, mynawyd efydd, cyllell fflint ac wrn geramig a ddefnyddiwyd i ddal llwch amlosgiad. Pan ddaeth ar draws y gyllell a’r olion esgyrn dynol, aeth Tom Haines ati yn gyfrifol i adrodd y darganfyddiad i’r Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru). Gwnaeth staff o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys archwiliad o’r safle ym mis Tachwedd 2016, gyda chymorth Mr Haines. Daeth yr archwiliad hwn ar draws olion amlosgiad yn yr wrn, oedd yn dal wedi’i chladdu, yn ogystal â’r mynawyd efydd a’r gyllell fflint. Mae’r arteffactau wedi’u hadnabod fel rhai o ddechrau’r Oes Efydd, ac mae’r olion - oedolyn gwrywaidd - wedi’u dyddio â radiocarbon i tua 1700 CC, neu 3,700 o flynyddoedd yn ôl. Yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor, mae Amgueddfa’r Gaer, Aberhonddu yn gobeithio caffael y trysor hwn ar gyfer ei chasgliad cyhoeddus.

 

Dywedodd Mr Nigel Blackamore, Uwch Guradur Amgueddfa’r Gaer:

“Mae hwn yn fedd dyn hŷn sydd wedi cadw’n arbennig o dda, gyda nifer o wahanol eitemau fydd yn ychwanegu llawer at ein dealltwriaeth o fywyd a marwolaeth ym Mhowys ar ddechrau’r Oes Efydd. Rydym yn falch iawn o allu caffael y casgliad hwn, fydd ar gael i ymwelwyr a’r gymuned leol wrth i ni ei arddangos a’i ddehongli yn y Gaer.

 

Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes Amgueddfa Cymru:

“Mae darganfod y gyllell efydd a’r mynawyd cynhanesyddol, a oedd wedi’u claddu gyda’i gilydd, yn ddigon i sicrhau bod y grŵp hwn yn drysor. Fodd bynnag, rydym wedi darganfod cymaint mwy, gan ein bod wedi gallu adfer yr amlosgiad bron yn gyfan o fewn wrn colerog. Roedd y mynawyd, gwrthrych bach a bregus, wedi’i ddewis yn arbennig ar gyfer y gladdedigaeth, ac mae’n bosibl iddo gael ei ddefnyddio i roi tatŵs - oedd yn beth cyffredin ar y pryd. Diolch i’r darganfyddwr am fod mor gyfrifol ag adrodd y darganfyddiad a gadael llonydd iddo, roedd modd i archaeolegwyr wedyn ddadorchuddio a datgelu stori lawn y gladdedigaeth.”

 

Cafodd pâr o fachau gwisg gild arian eu darganfod mewn dau gae gan Jeff Nicholas (Achos Trysor 19.37) a Brian Reynolds (Achos Trysor 19.31) yn ystod rali datgelyddion metel yng Nghymuned Llanharan, Rhondda Cynon Taf ar 5 Mai 2019. Mae gan yr eitemau bychan hyn batrwm tri phetal cywrain, gyda thair pelen wedi’u haddurno, bob un â bachyn wedi’i sodro ar y cefn. Mae Amgueddfa Cymru yn gobeithio caffael y trysor hwn, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor.

 

Dywedodd Dr Mark Redknap, Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru:

“Ers cyflwyno Deddf Trysor 1996 mae mwy a mwy o addurniadau gwisg Tuduraidd fel y bachau gild arian hyn o Lanharan (achosion 19.31 a 19.37) wedi eu darganfod yng Nghymru. Câi addurniadau fel y pâr hwn eu defnyddio i glymu blaen ffrogiau hir oedd yn boblogaidd yn y 16eg ganrif. Maen nhw’n arwyddocaol gan fod eitemau o’r fath yn tueddu i gael eu canfod ar ben eu hunain, megis yn Llandŵ, Bro Morgannwg a Llanhenog, Sir Fynwy. Mae bachau gwisg Llanharan, a adroddwyd mor brydlon gan eu darganfyddwyr, wedi ychwanegu tystiolaeth newydd o’r ffordd y câi hunaniaeth ei mynegi drwy wisgoedd ffasiynol yng Nghymru Oes y Tuduriaid.”

 

Cafodd tlws modrwyol arian canoloesol ei ganfod gan Keith Thomas ar 22 Mehefin 2019 wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel mewn cae yng Nghymuned Penllyn, Bro Morgannwg (Achos Trysor 19.40). Mae’r tlws bychan crwn, gyda phin addurnedig, yn dyddio i’r 13eg neu 14eg ganrif. Câi eitemau fel hyn eu defnyddio i glymu dillad, ac mae enghreifftiau tebyg o bob cwr o Gymru wedi’u datgan yn drysor dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gobeithio caffael y tlws hwn, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor.

 

 

DIWEDD