Datganiadau i'r Wasg

Cloc Aberfan yn cael ei roi i gasgliad cenedlaethol Cymru

Mae gwrthrych pwysig yn ymwneud a thrychineb Aberfan heddiw (Dydd Iau 3 Chwefror 2022) wedi ei roi yn swyddogol i gasgliad Amgueddfa Cymru. Mae’r cloc bach a stopiodd am 9.13am, yr union amser y tarodd y domen y pentref, nawr yn rhan o’r casgliadau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a bydd i’w weld yn oriel ‘Cymru’ o 16 Chwefror 2022.

Ers y drychineb, mae’r cloc wedi bod yng ngofal Mike Flynn. Roedd ei dad, Mike Flynn (yr hynaf) yn bostman ac yn barafeddyg (gyda’r awyrfilwyr) yn y Fyddin Diriogaethol, wnaeth gynorthwyo gyda’r ymdrech achub ar 21 Hydref 1966.

Mae'r cloc nawr wedi cael ei roi i ofal Amgueddfa Cymru i helpu cenhedlaethau’r dyfodol i gofio am un o drychinebau mwyaf Cymru.

Dywedodd Mike Flynn, “Dwi’n hapus iawn fod y cloc yn mynd i ofal Amgueddfa Cymru. Mae’n ddiwrnod pwysig iawn, bydd Sain Ffagan yn gartref parhaol i’r cloc lle bydd cyfle i bawb i’w weld.

Dywedodd Sioned Williams, Prif Guradur Hanes Modern yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Mike am roi’r cloc i gasgliad yr Amgueddfa. Bydd hwn yn ein galluogi i adrodd hanes moment bwysig yn hanes Cymru. O 16 Chwefror bydd y cloc i’w weld yn oriel ‘Cymru’ sy’n adrodd straeon Cymru drwy’r canrifoedd, a bydd ar gael i bawb i’w weld. Rydyn ni yn Sain Ffagan yn edrych ymlaen at weithio ymhellach gyda Mike a chymuned Aberfan i rannu rhan bwysig iawn o hanes Cymru.”

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i’r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’n gilydd, mae’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru’n gwerthfawrogi pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

 

DIWEDD