Datganiadau i'r Wasg

Pwll Mawr yn galw ar Fois Bevin i gysylltu

Bydd y Pwll Mawr yn dathlu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE) trwy lansio apêl i Fois Bevin gysylltu â ni. Oeddech chi, neu aelod o'ch teulu'n un o Fois Bevin? Neu efallai i chi gwympo mewn cariad ag un o Fois Bevin? Os felly, byddai'n dda cael clywed gennych chi.

Cafodd 48,000 o ddynion ifanc eu consgriptio i Waith Gwasanaeth Cenedlaethol ym mhyllau glo Prydain rhwng 1943 a 1948. Roedd hyn yn rhan o gynllun Ernest Bevin, Gweinidog Llafur a Gwasanaeth Cenedlaethol Prydain yn ystod y rhyfel, i gadw diwydiant glo Prydain yn mynd. Daeth llawer o'r Bois Bevin hyn i byllau glo'r de, gan newid eu bywydau, a bywydau'r cymunedau lleol, am byth.

Bydd y Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru yn coffáu'r Bois Bevin mewn achlysur arbennig yn yr Amgueddfa, ddydd Sadwrn, 24 Medi. Rydyn ni am glywed eich atgofion a'ch straeon chi am arwyr rhyfel anghofiedig Prydain.

Cafodd cyfraniad Bois Bevin ei anwybyddu am flynyddoedd lawer. Cafodd y dogfennau swyddogol eu dinistrio yn y 1950au, gan ei gwneud hi'n amhosibl i'r Bois Bevin brofi eu gwasanaeth personol oni bai eu bod nhw wedi cadw eu dogfennau u hunain. Cafwyd adluniad cyntaf y Bois Bevin ddiwedd y 1980au, ac mae nifer o ddigwyddiadau wedi cael eu trefnu ers hynny.

Mae'r Pwll Mawr am rannu eich atgofion chi â'r byd. Mae'r aduniad ei hun yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau trwy gydol Medi a Hydref i ddathlu cyfraniad Bois Bevin at hanes diweddar.

Os oeddech chi'n un o Fois Bevin, os oes straeon gennych chi i'w rhannu neu os hoffech chi gymryd rhan yn y dathliad ym mis Medi, ffoniwch Kathryn Stowers yn y Pwll Mawr ar 01495 790 311 neu e-bostiwch Kathryn.stowers@amgueddfacymru.ac.uk.

Mae'r Pwll Mawr yn un o chwe safle Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ledled Cymru. Safleoedd eraill AOCC yw'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd; Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan; Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Caerllion; yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, yn agor yn ddiweddarach eleni, gan adrodd stori diwydiant a blaengaredd yng Nghymru.

Cewch fynd i holl safleoedd AOCC am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.