Datganiadau i'r Wasg
Placardiau BLM Cymru i gael eu harddangos yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Dyddiad:
2022-03-07Mae casgliad o blacardiau a ddefnyddiwyd mewn protestiadau Mae Bywydau Du o Bwys ledled Cymru nawr i’w gweld yn oriel Cymru... yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Cafodd y casgliad ei roi i Amgueddfa Cymru yn dilyn y protestiadau yn haf 2020.
Ym mis Mai 2020, cafodd George Floyd ei ladd gan heddwas yn Minneapolis, gan sbarduno protestiadau gwrth-hiliaeth dros y byd. Cynhaliwyd gorymdeithiau a ralïau yng Nghaerdydd, Abertawe, Aberystwyth a llefydd eraill ar draws Cymru.
Mae’r arddangosiad newydd hefyd yn cynnwys lluniau a hanesion gan ymgyrchwyr fu’n rhan o’r protestiadau.
Dywedodd Sioned Hughes, Pennaeth Hanes ac Archaeoleg Amgueddfa Cymru:
“Mae casglu deunydd cyfoes yn rhan bwysig o waith Amgueddfa Cymru, er mwyn sicrhau bod y casgliad cenedlaethol yn cynrychioli profiadau amrywiol trigolion Cymru ddoe a heddiw.”
“Mae'n bwysig i arddangos y placardiau hyn yn oriel Cymru... er mwyn adrodd stori'r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yng Nghymru a’i effaith ar gymunedau.”
Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i’r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’n gilydd, mae’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.
Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru’n gwerthfawrogi pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.
DIWEDD