Datganiadau i'r Wasg

Y Wisg Goch

                                             250+ o grefftwyr, 29 gwlad, 1 wisg.  

Mae gwisg drawiadol wedi'i chreu gan bwythwyr o bob cwr o'r byd yn dod i Gymru am y tro cyntaf, a bydd yn cael ei harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'r mis hwn.

Mae Project y Wisg Goch, a sefydlwyd gan yr artist Kirstie Macleod yn 2009, yn rhoi llwyfan artistig i fenywod o bob cwr o’r byd, nifer ohonynt yn byw ar y cyrion ac mewn tlodi, i adrodd eu straeon trwy frodwaith. 

Dros ddeuddeg mlynedd, o 2009 i 2022, bu rhannau i’r Wisg Goch yn teithio i bob cwr o’r byd, yn cael eu brodio yn ddi-baid. Mae wedi’i gwneud o 73 darn o dwpion sidan lliw gwin, ac wedi’i brodio gan dros 259 o fenywod a 5 dyn, o 29 o wledydd. Yn eu mysg roedd 136 o grefftwyr dan gomisiwn, a dalwyd am eu gwaith. Cafodd gweddill y wisg ei chreu gan 128 o gyfranwyr parod mewn gwahanol ddigwyddiadau.  
 
Ymysg y cyfranwyr mae ffoaduriaid benywaidd o Balestina; dioddefwyr rhyfel yn Kosovo, Rwanda a Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo; menywod tlawd yn Ne Affrica, Mexico a’r Aifft; menywod o Kenya, Japan, Paris, Sweden, Periw, Gweriniaeth Siec, Dubai, Afghanistan, Awstralia, Ariannin, Swistir, Canada, Tobago, UDA, Rwsia, Pacistan, Cymru, Colombia, a’r DU; yn ogystal â stiwdios brodwaith crand yn India a Saudi Arabia.  
 
Cafodd darnau eu creu gan frodwyr profiadol ac amhrofiadol. Cawsant eu hannog i adrodd stori bersonol, mynegi eu hunaniaeth, ac ychwanegu eu profiad diwylliannol a thraddodiadol eu hunain. Dewisodd rhai ddefnyddio arddull o frodwaith oedd yn benodol i’w teulu neu ardal, wedi’u trosglwyddo ar hyd y cenedlaethau.  

 Mae’r Wisg Goch wedi’i harddangos mewn amryw o orielau ac amgueddfeydd ledled y byd, gan gynnwys Gallery Maeght ym Mharis, Art Dubai, Museo Des Arte Popular yn Ninas Mexico, Llyfrgell Genedlaethol Kosovo, digwyddiad yn yr Academi Frenhinol yn Llundain, a gwobr decstilau Premio Valcellina ym Maniago, yr Eidal, lle cafodd y wobr gyntaf yn 2015. 

Bydd i'w gweld am dair wythnos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, o 5 i 26 Mawrth. Bydd pwythwyr o Gymru yn ychwanegu geiriau a lluniau ysbrydoledig mewn gweithdy arbennig i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth.

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i’r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’n gilydd, mae’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru’n gwerthfawrogi pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

DIWEDD