Datganiadau i'r Wasg

Trawsnewid

Arddangosfa newydd sydd â’r nod o ddyrchafu a chanmol y diwylliant cyfoethog sydd gan gymunedau LGBTQ+ Cymru

Poster Trawsnewid

Bydd arddangosfa newydd sydd â’r nod o ddyrchafu a chanmol y diwylliant cyfoethog sydd gan gymunedau LGBTQ+ Cymru, sy’n aml yn cael ei anghofio, yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 12 Mawrth. Yn rhedeg tan 31 Gorffennaf, bydd hanes, diwylliant a gwaith celf LGBTQ+ Cymru yn cael eu dathlu trwy wrthrychau dethol yn ogystal â gweithiau celf newydd a gynhyrchir gan Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, sydd wedi cydlynu prosiect Trawsnewid.

 

Deilliodd yr arddangosfa hon; y syniadau, y cysyniadau a’r gwaith celf o weithdai a gynhaliwyd gan Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru; casgliad o bobl ifanc 16-25 oed o bob rhan o Gymru, i ysbrydoli lleisiau newydd i weithio a chydweithio â staff archifau a threftadaeth yr amgueddfa.

 

 Dywedodd Jake A Griffiths, un o Gynhyrchwyr Ifanc Amgueddfa Cymru:

“Fel rhywun anneuaidd, deurywiol, roeddwn yn cydnabod yr angen am gynrychiolaeth o fewn gofodau amgueddfeydd, a sut y gall celf fod yn gyfrwng ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol. Rwyf wedi bod yn ymwneud ag Amgueddfa Cymru ers sawl blwyddyn bellach, yn gweithio ar brosiectau creadigol ehangach ac yn deall yr angen i’r anweledig gael ei weld. Trwy’r arddangosfa hon rwy’n gobeithio y bydd pobl, ac yn enwedig pobl ifanc, yn gweld bod lle iddynt a bod eu lleisiau a’u syniadau i’w clywed a’u gweld.”

 

Mae Trawsnewid yn brosiect Amgueddfa Cymru sydd wedi’i anelu at bobl ifanc LGBTQ+ 16-25 oed. Mae’r prosiect yn cael ei redeg yn rhannol ar-lein ac yn rhannol wyneb yn wyneb yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe; prosiect sy’n archwilio hanes queer Cymru a phrofiadau pobl LGBTQ+ sy’n byw yng Nghymru heddiw trwy sgyrsiau a gweithdai.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i’r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’n gilydd, mae’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

 

Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru’n gwerthfawrogi pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.