Datganiadau i'r Wasg

Sgwrs mewn amgueddfa yn cwestiynu rheolau celf

Bydd y gyntaf mewn cyfres newydd o ddigwyddiadau Sgwrs: Amgueddfa Cymru yn cynnwys yr artist cyfoes Bob & Roberta Smith a’r Athro David Nott. Caiff y digwyddiad ar-lein hwn ei gyflwyno gan y newyddiadurwr Wyre Davies, a’i ffrydio’n fyw o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am 6.30pm ar 31 Mawrth 2022.

Bydd y sgwrs yn canolbwyntio ar waith celf trawiadol Bob & Roberta Smith, Cyfweliad David Nott (2014), sydd i’w weld ar hyn o bryd yn arddangosfa Rheolau Celf? yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (tan 16 Ebrill 2023). Mewn cyfweliad syfrdanol a dirdynnol gydag Eddie Mair ar BBC Radio 4 yn 2013, disgrifiodd David Nott ei brofiadau fel meddyg gwirfoddol yn rhyfel Syria. Ysgogwyd Bob & Roberta Smith gan yr hanes i drawsgrifio’r cyfweliad yn waith bron i 5 metr o daldra.

Mae Rheolau Celf? yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn arddangos ystod o gelf hanesyddol, modern a chyfoes o gasgliadau Amgueddfa Cymru. Drwy ddangos gweithiau ochr wrth ochr am y tro cyntaf, mae’r arddangosfa yn pwysleisio’r hyn sy’n gyffredin rhwng artistiaid ar hyd y canrifoedd, wrth iddynt herio pwerau gwleidyddol a chymdeithasol eu cyfnod, ac ail-ddychmygu’r hyn y gall celf fod.

Dywedodd Neil Lebeter, Uwch Guradur Celf Fodern a Chyfoes Amgueddfa Cymru, a churadur Rheolau Celf? “Mae’n bleser mawr i ddod â dau ffigwr mor ysbrydoledig ynghyd ar gyfer y digwyddiad hwn. Mae yna lawer i’w drafod ynghylch rôl celf yn y byd a’r ffordd y mae, yn yr achos hwn, yn rhoi sylw i eiriau person unigryw.”

Mae’r digwyddiad yn cynnwys sesiwn holi ac ateb, lle bydd cyfle i wylwyr gyflwyno cwestiynau i’r panel. Mae’r tocynnau ar gyfer y digwyddiad yn rhai ‘talwch beth allwch chi’ (awgrymir rhodd o £5), ac maent ar gael i’w prynu nawr o wefan yr Amgueddfa: www.amgueddfa.cymru

 

David Nott