Datganiadau i'r Wasg

Bwyd Lleol – Arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe yn edrych ar effaith prynu'n lleol.

Gall ‘prynu’n lleol’ olygu pethau gwahanol i wahanol bobl. Beth mae'n ei olygu i'r cyhoedd?

Winston Howard’s Travelling Stores

Yn rhedeg o 2 Ebrill – 18 Medi 2022, mae “Bwyd Lleol” yn arddangosfa newydd sbon yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe sy’n edrych ar yr effaith y mae prynu’n lleol yn ei chael ar gynhyrchwyr, a sut mae arian sy’n cael ei wario’n lleol o fudd i gymunedau.

 

Ond sut mae pobl yn diffinio lleol?

 

Bydd yr arddangosfa’n archwilio’r diffiniad o “lleol”, gan godi cwestiynau am olion traed carbon bwyd sy’n cael ei dyfu’n lleol neu’n cael ei fewnforio o wledydd eraill.

 

Darganfyddwch rai o gerbydau dosbarthu bwyd anhygoel Amgueddfa Cymru o’r gorffennol, gan gynnwys Fan Howard’s Travelling Stores, sef y siop symudol modur gyntaf yng Nghymru.

 

Pwy oedd Antonio Forgione? Pa gyfraniad a wnaeth William Lewis?

Sut gwnaeth cymunedau addasu yn ystod y cyfnod cloi pandemig covid cyntaf yn 2020?

 

Dysgwch am rai o'r bobl, busnesau a phrosiectau sy'n gysylltiedig â siopa'n lleol yn y gorffennol ac yn y presennol.

 

Dywedodd Jacqueline Roach, Swyddog Arddangosfeydd a Rhaglenni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau:

 

“Rydym yn gyffrous iawn i gael cerbydau hynod ddiddorol ac amrywiol o gasgliad Amgueddfa Cymru yn cael eu harddangos yma yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau fel rhan o’r arddangosfa. Mae bwyd a chynnyrch wedi bod wrth galon bywyd cymunedol ers canrifoedd. Dewch i ddarganfod sut mae ‘cadw’n lleol’ wedi bod o fudd i’n cymunedau mewn sawl ffordd ac wedi gwneud hynny.”

 

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i’r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’n gilydd, mae’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru’n gwerthfawrogi pob cefnogaeth.