Datganiadau i'r Wasg
Datgelu ffotograffau rhagorol wrth i arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn gyrraedd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Dyddiad:
2022-05-26Bydd arddangosfa fyd-enwog Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn, ar fenthyg o'r Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain, yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Gwener 27 Mai gan roi llwyfan i luniau rhagorol sy’n dal ymddygiad diddorol anifeiliaid ac amrywiaeth rhyfeddol byd natur.
Noddir yr arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn hael iawn gan Gefnogwr Teithio Rheilffyrdd Cymru, Great Western Railway, a dyma’r unig amgueddfa yn y DU y tu allan i Lundain i ddangos y 100 ffotograff rhagorol wedi’u hôl-oleuo. O eirth gwyn yr Arctig a gorgimychiaid dŵr dwfn egsotig a phryfed pitw, mae'r ffotograffau arddangos amrywiaeth a breuder rhyfeddol bywyd gwyllt ein planed.
Ffotograffydd Bwyd Gwyllt y Flwyddyn yw’r digwyddiad ffotograffig pwysicaf o’i fath, ac mae wedi rhoi llwyfan i luniau o olygfeydd mwyaf rhyfeddol a dirdynnol byd natur ers dros 55 mlynedd. Lansiwyd y gystadleuaeth ym 1965 gan ddenu 361 o geisiadau. Erbyn heddiw mae'n denu dros 50,000 o gynigion o bob cwr o'r byd, sy'n brawf o'i apêl parhaus. Bydd y delweddau gwobrwyog eleni yn mynd ar daith ryngwladol sy'n golygu y byddant yn cael eu gweld gan ymhell dros filiwn o bobl.
Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru, "Mae'n bleser croesawu arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn yn ôl i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae trafod ein gofal o fyd natur yn bwysicach nac erioed ac mae'n wych gwneud y cysylltiad rhwng hyn a chasgliadau gwyddonol yr Amgueddfa.
Gobeithio y bydd ymwelwyr yn mwynhau'r arddangosfa ac yn cael eu hysbrydoli i ddarganfod a diogelu byd natur eu milltir sgwar."
Nid tasg hawdd oedd hi i feirniaid Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn 57 i ddewis enillydd o'r record o gynigion o 95 gwlad. Beirniadwyd y delweddau am eu creadigrwydd, eu crefft a'u rhagoriaeth dechnegol gan banel rhyngwladol o arbenigwyr yn y maes.
Dywedodd Dr Doug Gurr, Cyfarwyddwr yr Amgueddfa Hanes Natur, "Mae'r delweddau rhyfeddol hyn yn dangos amrywiaeth cyfoethog bywyd ar y ddaear ac yn tanio rhyfeddod a chwilfrydedd. Wrth adrodd hanes planed dan fygythiad, mae Ffotograffydd Bwyd Gwyllt y Flwyddyn yn dangos yr heriau dybryd sy'n ein hwynebu a'r camau sy'n rhaid i ni gyd eu cymryd. Bydd arddangosfa eleni yn cyffwrdd, ysbrydoli a grymuso cynulleidfaoedd i frwydr odos fyd natur."
Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 29 Awst, ac mae’r Amgueddfa wedi cyhoeddi rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ysbrydoli a diddanu ymwelwyr o bob oed dros yr haf. Yn eu plith mae:
- 2 Gorffennaf 2022: Diwrnod Cenedlaethol y Ddôl
- 28 Gorffennaf 2022: Ffilm a Thaith drwy'r Arddangosfa
- 4 Awst 2022: Sgwrs gyda...
- 13-14 Awst 2022: Amgueddfa Dros Nos: Byd Natur Gartref
Mae'r prisiau mynediad a gostyngiadau i Aelodau yn amrywio. Cost mynediad i’r arddangosfa yw £10, gyda gostyngiadau yn £7 a mynediad am ddim i blant dan 16 ac Aelodau Amgueddfa Cymru. Am ragor o wybdoaeth, i archebu tocynnau ir arddangosfa a’r digwyddiadau, neu i ddod yn Aelod, ewch i dudalen yr arddangosfa ar ein gwefan.
Gall ymwelwyr â'r Amgueddfa hefyd brynu nwyddau swyddogol yr arddangosfa o'r Siop. Mae'r rhain yn cynnwys: Bag gyda logo Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn a dau lyfr:
- Portffolio 31 - y casgliad bythgofiadwy diweddaraf o bob llun buddugol ac sydd wedi derbyn clod o gystadleuaeth eleni.
- Wildlife Photographer of the Year Highlights Volume 7 - uchafbwyntiau cofiadwy'r gystadleuaeth, gyda golygfeydd o fywyd gwyllt a ffotograffiaeth amgylcheddol o bob math, o'r byd tanddwr i'r trefi. Wedi'u cynnwys hefyd mae dau ddeg pump ffotograff trawiadol a ddewiswyd gan y cyhoedd.