Datganiadau i'r Wasg
Beth oedd swm a sylwedd llechi i'n cyndeidiau?
Dyddiad:
2005-05-03Cynhelir y sgyrsiau bob Dydd Mawrth o10 Mai ymlaen, yn y Gymraeg am 1yp ac yn Saesneg o 2yp, fel a ganlyn:
Llechi a'r Môr gan Dr David Jenkins, Uwch Guradur, Adran Ddiwydiant, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ar 10 Mai. Bydd Dr Jenkins yn disgrifio'r effaith a gafodd cludo'r llechi ar y môr ar fywydau'r bobl a oedd ynglhwm wrth y gwaith.
Gweithdai Peirianyddol Chwarel Dinorwig gan Haydn Lewis, Prif Dechnegydd, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ar 17 Mai. Bydd Mr Lewis yn datgelu rhai o gyfrinachau a dyfeisgarwch cyn-genedlaethau o beirianwyr ynghyd â'u peiriannau rhyfeddol.
Yr Injeni Stêm a'u Gyrwyr gan Dr Dafydd Roberts, Ceidwad, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ar 24 Mai. Bydd Dr Roberts yn treiddio i gymeriad a chefndir y rhai oedd yn gyrru'r trenau llechi.
Gerddi Fron Haul gan Owain Tudur Jones, Swyddog Dogfennaeth, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, ar 31 Mai. Bydd Mr Jones yn datguddio cynlluniau'r Amgueddfa i ail-greu gerddi tai'r chwarelwyr yn null y cyfnodau gwreiddiol ym 1861, 1901 a 1969.
Gwahoddir ymwelwyr sydd am gymryd rhan i ymgynull o flaen Ystafell Padarn yn yr Amgueddfa ar bob achlysur. Bydd sesiynau Dr Jenkins a Dr Roberts yn cymryd lle yn narlithfa Ystafell Padarn sydd â seddi ar gyfer rhyw 50 o bobl. Bydd gofyn i gynulleidfaoedd y ddwy sesiwn arall gerdded o'r man cyfarfod i'w safleodd priodol yn yr Amgueddfa. Bydd y sgyrsiau yn parhau am tua 45 munud gyda 15 munud o ofyn ac ateb cwestiynau. Ni fydd codi tâl am gymryd rhan.
Trefnwyd y sgyrsiau arbennig i gydfynd â Mis yr Amgueddfeydd ac Orielau, ymgyrch flynyddol i hybu a chodi ymwybyddiaeth.
Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn rhan o Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC). Mae gan AOCC chwe safle ar draws Cymru: y Pwll Mawr, Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Blaenafon; yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd; Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan; Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Caerllion; yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe'n agor yn haf 2005 gan adrodd stori diwydiant a blaengaredd yng Nghymru.
Mae mynediad i holl safleoedd AOCC am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â John Kendall, Amgueddfa Lechi Cymru, ar 01286 873707.
Nodiadau ar gyfer golygyddion
1. Saif Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri, perfeddwlad o brydferthwch digymar a chraigwyneb ysblennydd anhygoel. Mae'r safle, sef hen weithdai cynnal a gofal Cwmni Chwarel Dinorwig gynt, yn allwedd i gyfnod sylweddol o orffennol peirianyddol Cymru ynghyd â thrysorfa o hanes cymdeithasol a diwylliannol y wlad. O fewn muriau trawiadol adeiladau'r Amgueddfa ceir cyfle i weld cyflwyniad ffilm 3D, arddangosiadau crefft chwareli, olwyn ddŵr fwyaf ar dir mawr Prydain, rhes o dai a ddengys sut roedd chwarelwyr a'u teuluoedd yn byw drwy'r oesoedd a rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau addysgol.