Datganiadau i'r Wasg

Canfod Trysor yn Sir Gaerfyrddin

Ar ddydd Gwener 27 Mai cafodd tri chanfyddiad o gyfnod yr Oes Efydd a'r cyfnod ôl-ganoloesol eu cadarnhau yn drysor gan Ddirprwy Uwch Grwner Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, Mr Paul Bennett. Canfuwyd pob gwrthrych gan ddefnyddwyr datgelyddion metel, ac yn eu plith mae celc o’r Oes Efydd, broetsh arian canoloesol a chrogdlws arian gilt Tuduraidd.

 

Canfuwyd celf o’r Oes Efydd sy'n cynnwys 20 arteffact (Achos Trysor 20.16) gan Richard Trew wrth ddefnyddio datgelydd metel yng Nghymuned Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin ar 14 a 22 Tachwedd 2020. Mae'r celc yn cynnwys un blaen saeth mawr, tri darn gwaywffon bach, darn o freichled, naw bwyell socedog asennog, dwy fwyell socedog blaen, un fwyell ffasedog, dwy ddalen efydd a jet castio. Gall yr arteffactau gael eu dyddio i Ddiwedd Oes yr Efydd, wedi'u claddu gyda'i gilydd fel celc tua 1000-800 CC.

 

Ymchwiliodd archaeolegwyr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ac Amgueddfa Cymru y man lle canfuwyd y celc, gyda nawdd cefnogol gan Cadw. Mae casgliad yr ymchwiliad hwn yn awgrymu i'r arteffactau gael eu claddu gyda'i gilydd mewn twll pwrpasol, ymhell o unrhyw anheddiad o’r Oes Efydd.

 

Dywedodd canfyddwr y celc, Richard Trew, am y foment fawr:

"Roedd e'n teimlo fel taswn i'n camu nôl mewn amser, dyna'r unig ffordd o'i ddisgrifio. Allwn i ddim stopio chwerthin wrth ganfod mwy o wrthrychau. Wna i byth anghofio'r foment, bydd hi gyda fi am byth."

 

Dywedodd Christopher Griffiths, myfyriwr doethurol ym Mhrifysgol Reading ac Amgueddfa Cymru sy'n astudio celciau o'r Oes Efydd yn ne-ddwyrain a gorllewin Cymru:

"Diolch i ymddygiad cyfrifol Mr Trew yn adrodd am y canfyddiad a dogfennu moment y canfod, rydyn ni wedi gallu datgelu mwy o'r hanes tu ôl i gladdu'r celc hwn. Cafodd y blaen saeth efydd mawr (oedd wedi'i daro â gwrthrych pŵl a'i dorri'n hanner cyn ei gladdu) ei osod yn ofalus ar ben y celc. Mae'n bosibl bod torri'r blaen saeth a chladdu'r celc yn rhan o seremoni gan gymuned leol yn Oes yr Efydd, fel offrwm i'r duwiau."

 

Canfuwyd crogdlws arian gilt o gyfnod y Tuduriaid (Trysor 20.17) gan David Edwards wrth ddefnyddio datgelydd metel mewn cae arad yng Nghymuned Llangeler, Sir Gaerfyrddin ar 12 Tachwedd 2020. Mae'r crogdlws ar siâp calon, ac wedi'i addurno ag archoll gwaedlyd i gynrychioli archoll Crist. Mae'r gwrthrych personol, sy'n symbol o ffydd Babyddol, yn dyddio o ganol y 16eg ganrif – cyfnod cythryblus o wrthdaro rhwng yr Eglwys yn Lloegr a'r Eglwys Babyddol.

 

Dywedodd Dr Mark Redknap, Dirprwy Bennaeth Casgliadau ac Ymchwil Archaeoleg Amgueddfa Cymru: 

Er bod y Diwygiad yn cael ei weld yn draddodiadol fel cyfnod o hollti cymdeithas a threfn y canoloesoedd, gyda dryllio delwau a chysegrfeydd a chau mynachlogydd er mwyn eu hysbeilio neu eu troi, mae canfyddiadau archaeolegol fel crogdlws Llangeler yn dyst i barhad ffydd ac ymatebion personol yn ystod y cyfnod hwn. Gwelir naratif tebyg gyda chanfyddiad tebyg o Gymuned Aberdaugleddau ac Wdig, Sir Benfro, allai fod yn symbol o ffydd yn ystod cyfnod Marïaidd y Gwrthddiwygiad ym Mhrydain.”

 

Canfuwyd broetsh cylchog arian canoloesol (Achos Trysor 21.04) gan Rafal Pacholec wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir pori yng Nghymuned Pontyberem, Sir Gaerfyrddin, ym mis Medi 2020. Mae ffrâm y broetsh wedi'i addurno â bandiau niello tenau (aloi o wahanol fetelau a sylffwr), tra bod y pin ar siâp dagr gyda 'gwartholion' nodedig i atal dillad rhag cydio yn y tlws wrth ei wisgo. Drwy ei gymharu ag esiamplau eraill, mae wedi cael ei ddyddio i'r 13eg neu'r 14eg ganrif OC.

 

Dywedodd Gavin Evans, Curadur Amgueddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

"Rydyn ni'n gobeithio'n fawr caffael y tri thrysor newydd o Sir Gaerfyrddin, nid yn unig er mwyn cyfoethogi ein casgliad archaeolegol sy'n parhau i dyfu, ond bydd yn sicrhau y bydd y trysorau yn gallu cael eu gweld a'u mwynhau gan ymwelwyr yn agos i ble cawsant eu canfod. Mae'r celc, gyda'r waywffon fawr a'r bwyelli cyflawn, yn drawiadol iawn, a gallai fod yn ganolbwynt i arddangosiad newydd ar yr Oes Efydd sy'n tynnu ar stori'r canfod a gwaith ymchwil yr archaeolegwyr."

DIWEDD