Datganiadau i'r Wasg

Adref Oddi Cartref: Dinas Noddfa Abertawe

Bydd Arddangosfa Deithiol Dinas Noddfa Abertawe: Adref Oddi Cartref yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe o ddydd Sadwrn 18 Mehefin tan ddydd Sul 17 Gorffennaf 2022.

Abertawe Dinas Noddfa

Daeth Abertawe yn Ddinas Noddfa gyntaf Cymru, a'r ail yn y DU, yn 2010.

 

Mae'r arddangosfa hon yn ddathliad o'r holl bobl a sefydliadau sydd wedi bod yn rhan o wneud Abertawe'n Ddinas Noddfa ers dros ddeng mlynedd.

 

Darganfyddwch straeon y rhai sydd wedi ceisio noddfa yn Abertawe a sut maen nhw wedi helpu i siapio'r ddinas i ddod yn ofod mwy croesawgar.

 

Dywedodd Steph Mastoris, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau:

 

“Mae Abertawe’n ddinas groesawgar, fywiog, amrywiol a diwylliannol gyda’r cymunedau wrth ei chalon. Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn falch o fod yn cynnal arddangosfa deithiol Gartref i Ffwrdd o’r Cartref, i ddathlu’r bobl a’r sefydliadau sy’n gwneud Abertawe’n ddinas mor groesawgar.”

 

Cafodd yr arddangosfa dderbyniad da yn ystod y sioe beilot yn The Grand Multicultural Hub ym mis Mawrth. Wedi'i datblygu gyda chefnogaeth gan Amgueddfa Abertawe, Prifysgol Abertawe, a'r prosiect Covid Chronicles from the Margins, mae'r arddangosfa yn wirioneddol enghraifft mai Dinas Noddfa Abertawe yw'r hyn y mae ein cefnogwyr yn ei wneud.

 

Dywedodd Dinas Noddfa Abertawe:

 

“Bydd Adref Oddi Cartref yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ystod Wythnos Ffoaduriaid 2022, amser i ddathlu cyfraniadau, creadigrwydd a gwydnwch ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio noddfa. Rydym hefyd yn falch iawn o gael ein Harddangosfa i fyny yn ystod cyfnod lle mae Un Byd: Celf o Benalun hefyd ymlaen, yn Oriel Wal Wen yr Amgueddfa.”

 

Mae digwyddiadau amrywiol yn cael eu cynnal yn ystod amser ein harddangosfa, gan gynnwys digwyddiad Dathlu Ysgolion Noddfa, cyfarfod i adfer Rhwydwaith Celfyddydau Dinas Noddfa Abertawe, a gweithdai celf ychwanegol gydag ysgolion lleol. Cysylltwch â Dinas Noddfa Abertawe yn uniongyrchol os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o'r digwyddiadau hyn: swansea@cityofsanctuary.org

 

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd i gyd yn rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’i gilydd, mae’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, a fydd yn parhau i dyfu fel bod cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yn gallu eu defnyddio a’u mwynhau.

 

Enillodd un o’i hamgueddfeydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, sy’n archwilio hanes a diwylliant Cymru, Amgueddfa’r Flwyddyn 2019 y Gronfa Gelf.