Datganiadau i'r Wasg

Dyfarnu bod eitemau pellach yn gysylltiedig a cherbyd Rhyfel Sir Benfro yn Drysor

Mae casgliad o eitemau claddu o'r Oes Haearn sy'n ymwneud â'r cerbyd rhyfel a ddadorchuddiwyd gan archaeolegwyr yn 2019, heddiw ( 23 Mehefin 2022) wedi ei dyfarnu’n drysor gan Mr Paul Bennett, Uwch Grwner Gweithredol Sir Benfro.

Cafodd casgliad o ffitiadau cerbyd rhyfel a nwyddau claddu, a ganfuwyd yn ystod gwaith datgloddio archaeolegol mawr y cerbyd rhyfel o'r Oes Haearn, eu canfod ar fferm yn ne Sir Benfro ym mis Mawrth 2019 (Achos Trysor 19.15). Mike Smith wnaeth y canfyddiad cychwynnol, a adroddodd ei fod wedi canfod grŵp o ffitiadau cerbyd rhyfel efydd, addurnedig yn yr ardal gyda datgelydd metel a gafodd eu tagan yn drysor yn Ionawr 2019.

 

Ymhlith yr eitemau mae:

 

  • Teiars haearn a ffitiadau both olwyn haearn ac efydd sy'n perthyn i'r cerbyd rhyfel dwy olwyn a gafodd ei gladdu'n gyflawn yn y bedd.
  • Darnau o ffitiadau ffrwyn a harnais lledr fyddai'n llywio'r pâr o geffylau fyddai'n tynnu'r cerbyd, a darnau coll o'r harnais a ganfuwyd ym 2018.
  • Cleddyf haearn cyflawn a darnau o ddwy neu dair gwaywffon.  Er nad oes esgyrn dynol o'r bedd wedi goroesi ym mhridd asidig, carregog Sir Benfro, mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod y corff wedi cael ei osod ar blatfform ymladd y cerbyd. Gyda'r corff roedd cleddyf haearn cyflawn a darnau o ddwy neu dair gwaywffon, sy'n awgrymu taw rhyfelwr oedd hwn, a rhywun o statws yn y gymuned.

Roedd y bedd yn ganolbwynt i gofeb gron, gyda thwmpath o bridd wedi'i godi drosto. Codwyd y gofeb ger caer bentir o'r Oes Haearn oedd gynt yn anhysbys, ac a ganfuwyd yn ystod y gwaith ymchwil archaeolegol, yma ac yn y cyffiniau.

 

Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes Amgueddfa Cymru ac aelod o dîm project y cerbyd rhyfel:

 

'Dyma ganfyddiad oesol – y gladdedigaeth gyntaf gyda cherbyd rhyfel i gael ei chanfod yng Nghymru a de Prydain. Mae'n dyddio o ail hanner y ganrif gyntaf OC; ddwy fil o flynyddoedd yn ôl pan oedd cymunedau Oes Haearn gorllewin Prydain yn brwydro yn erbyn byddin Rhufain. Mae'n gipolwg rhyfeddol ar fywyd pobl y Demetae, llwyth o'r Oes Haearn dydyn ni ddim yn gwybod llawer amdanynt, ond oedd yn byw yn yr ardal hon ar y pryd. Rydyn ni'n dal i ddyfalu corff pwy a gladdwyd yn y bedd. Mae'r tîm ymchwil nawr yn ystyried taw un o henadurion y gymuned oedd y person, neu ryfelwr mawr a pherson o statws ym mywyd y fryngaer gyfagos. Mae ein gwaith yn dadorchuddio'r hanes archaeolegol diddorol hwn yn parhau, wrth i ni baratoi i archwilio'r gwrthrychau bregus ymhellach a dilyn mesurau cadwraeth er mwyn eu cadw a'u cyflwyno i bobl Cymru at y dyfodol.'

 

Gwnaed gwaith arolygu a datgloddio archaeolegol y bedd a'r cerbyd rhyfel gan dîm o staff a gwirfoddolwyr dan arweiniad Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a chadwraethwyr Amgueddfa Cymru er mwyn sicrhau bod yr arteffactau bregus yn cael eu codi'n ofalus a'u cludo i'r Amgueddfa. Amgueddfa Cymru sy'n arwain y project treftadaeth mawr, parhaus hwn ond mae nifer o sefydliadau partner yn cyfrannu – Cadw, PLANED a Choleg Penfro – a derbyniwyd nawdd gan Gronfa Dreftadaeth Cymru y Loteri Genedlaethol yn 2019-20 a gan Ymddiriedolaeth Hadley.

Bwriad Amgueddfa Cymru yw caffael y casgliad arteffactau ar gyfer y casgliad cenedlaethol, wedi iddynt gael eu prisio yn annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor. Rydyn ni wrthi'n paratoi i ganfod nawdd i hwyluso rhaglen ymchwil a chadwraeth y cerbyd rhyfel a'r gwrthrychau bedd, er mwyn gallu cyhoeddi'r lleoliad a'i gyflwyno i'r cyhoedd yng Ngorllewin Cymru mewn blynyddoedd i ddod.

 

Mae gan Amgueddfa Arberth ddiddordeb mewn caffael y gwrthrychau hyn ar gyfer eu casgliad, wedi iddynt gael eu prisio yn annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor.

 

DIWEDD