Datganiadau i'r Wasg

Codi gwallt eich pen — Salon o'r 1950au yn Symud i Sain Ffagan

Yr wythnos nesaf bydd y gwaith o symud salon trin gwallt pinc a glas a'r siop farbwr y drws nesaf o Aberdâr yn ne Cymru i Amgueddfa Werin Cymru yn cychwyn. Yn ddarlun cryno o fywyd merched, eu steil a'u hannibyniaeth cynyddol ar ddechrau'r 1960au, bu'r salon yn wag ers degawdau ar stryd a fu unwaith yn llawn ffrwst; bellach caiff ei chadw a'i hail-godi ochr yn ochr ag adeiladau byd-enwog Sain Ffagan.

Dechreuwyd y cwmni trin gwallt teuluol gan Mr John Lewis o Gwmdâr yn y 1930au. Yn ŵr ifanc mentrus, yn 17 oed symudodd John Lewis y gwaith i'r Gadlys, Aberdâr a chynyddodd ei fusnes wrth i'w blant Thomas, Margaret, Olive a Sarah Mary (Mari) ymserchu yn y siswrn. Rhedai'r tad a'r mab y siop farbwr tra bo Mari ac Olive, gyda chymorth 2 brentis, yn rhedeg y siop drin gwallt. Daeth diwedd i'r torri gwallt pan fu farw Thomas yn sydyn yn 1990. Trist yw cofnodi marwolaeth yr olaf o'r ddwy chwaer yn ddiweddar.

Meddai Gerallt Nash, Pennaeth Adeiladau Hanesyddol, Amgueddfa Werin Cymru, wrth drafod arwyddocâd symud cynnwys y salon drin gwallt i'r Amgueddfa.

"Mae hwn yn gaffaeliad gwych a rydym yn hynod ddiolchgar i'r teulu am eu rhodd i'r casgliad cenedlaethol. Mae'r rhan fwyaf o'n hadeiladau yn adrodd straeon gwrywaidd iawn a chrefftau megis gwaith y barcer, y melinydd a'r gof ond bydd y salon hon yn gyfle i ni gael cipolwg ar dwf annibyniaeth merched a'u bywyd gwaith. Ceir lluniau clir o arddulliau eiconaidd y 1950au a'r 1960au cynnar yn y salon tra bo siop y barbwr yn awgrymu testosterone, Brylcreem a rhywbeth bach ar gyfer y penwythnos!

"Rydym yn cadw llygad barcud ar adeiladau addas i'w hychwanegu at y rhai sydd eisoes yn yr Amgueddfa, er bod gennym feini prawf cadarn iawn ynglŷn â'r hyn a gaiff ei dderbyn, ei symud a'i ail-godi yn Sain Ffagan. Bydd y salon drin gwallt hon yn ychwanegiad arbennig i'n casgliad. Nawr, mae arnom angen teras bach o siopau yn gwmni i'r salon, ynghyd â rhai o'r adeiladau eraill sydd gennym mewn stôr, fel y caffi Eidalaidd."

Mae Amgueddfa Werin Cymru yn un o chwe safle Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ar hyd a lled y wlad. Y safleoedd eraill yw Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol, Blaenafon - sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gulbenkian eleni, Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre fach Felindre, yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd, Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Caerllion ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, sy'n adrodd hanes diwydiant a blaengaredd yng Nghymru yn agor yn Abertawe yn yr hydref.

Mae mynediad i'r Amgueddfa am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.