Datganiadau i'r Wasg
Canfod Trysor yng Ngogledd-Orllewin Cymru
Dyddiad:
2022-06-30
Mae tri chasgliad o geiniogau, yn dyddio o’r cyfnod Rhufeinig i’r cyfnod ôl-ganoloesol, wedi eu dyfarnu’n drysor ar ddydd Mercher 29 Mehefin gan Ms Katie Sutherland, Uwch Grwner Gweithredol Gogledd-orllewin Cymru.
Cafodd grŵp o 19 ceiniog aloi copr Rhufeinig (Achos Trysor 19.04) ei ddarganfod gan James Rowlands wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel ar dir fferm yng Nghymuned Bryngwran, Ynys Môn ar 13 Ionawr 2019. Cafodd y ceiniogau rheiddiol eu bathu rhwng OC 260 a 274. Yn y cyfnod hwn roedd Prydain, Gâl a Sbaen wedi torri’n rhydd o’r Ymerodraeth Rufeinig i ffurfio Ymerodraeth Galaidd annibynnol. Mae’r grŵp o geiniogau yn cynnwys dau gopi answyddogol, neu ‘geiniogau rheiddiol barbaraidd’, gafodd eu gwneud mae’n debyg tua OC 275-285. Maent yn awgrymu bod y ceiniogau wedi’u claddu tua’r adeg hon.
Mae Oriel Môn yn gobeithio caffael y ceiniogau ar gyfer eu casgliad, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Cafodd grŵp o 26 ceiniog arian ganoloesol (Achos Trysor 20.10) ei ddarganfod gan Levi Hussey a Chris Jones wrth iddynt ddefnyddio datgelydd metel ar dir fferm yng Nghymuned Tref Alaw, Ynys Môn ar 20 Mehefin 2020. Mae’r grŵp yn cynnwys 21 ceiniog arian a 5 dimau arian o Harri III o Loegr (1216-1272) ac Alecsandr III o’r Alban (1249-1286). Cafodd y ceiniogau eu bathu rhwng OC 1247 a 1280 ond mae’n debyg bod y rhain wedi’u colli mewn pwrs o gwmpas OC 1258-1279.
Dywedodd Alistair Willis, Uwch Guradur Niwmismateg a’r Economi Gymreig:
“Câi ceiniogau Albanaidd eu gwneud yr un maint a phwysau â cheiniogau Saesnig, ac roedd eu dyluniad yn debyg. O ganlyniad, maent yn cael eu canfod ledled Prydain, ac mewn celciau.”
Mae Oriel Môn yn gobeithio caffael y ceiniogau ar gyfer eu casgliad, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Dywedodd Ian Jones, Rheolwr Adeiladau a Chasgliadau yn Oriel Môn:
“Mae Oriel Môn yn edrych ymlaen i gaffael y darganfyddiadau hanesyddol bwysig hyn ar gyfer casgliad yr amgueddfa. Bydd y darnau arian hynafol yn ein helpu i ddysgu mwy am orffennol Ynys Môn. Edrychwn ymlaen at ddatblygu cysylltiadau cadarnhaol gyda’r darganfyddwyr a’r tirfeddianwyr ac rydym yn awyddus i weithio gyda nhw pan fyddwn yn datblygu ein cynlluniau i arddangos a chyflwyno’r darganfyddiadau hyn.”
Cafodd pedair ceiniog arian o gyfnod Elisabeth a’r Stiwartiaid (Achos Trysor 20.14) eu darganfod gan Ashley Hill tra’r oedd yn defnyddio datgelydd metel ar dir fferm yng Nghymuned Llanbedr, Gwynedd ar 12 Hydref 2020. Yn y casgliad mae darn hanner grôt arian o Elisabeth I (1558-1603), dau swllt arian a darn chwecheiniog arian o Siarl I (1625-1649). Mae’r ceiniogau wedi gwisgo’n ddrwg, sy’n awgrymu eu bod wedi bod mewn cylchrediad nes canol i ddiwedd y 17eg ganrif. Mae’n debyg eu bod wedi’u colli mewn pwrs tua’r cyfnod hwn, neu wedi’u claddu’n fwriadol fel celc bychan iawn.
Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Storiel ym Mangor yn gobeithio caffael y ceiniogau ar gyfer eu casgliad, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
DIWEDD