Datganiadau i'r Wasg

Ail-fframio Picton: Gweithiau newydd i'w dangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ochr yn ochr â phortread o Thomas Picton

Heddiw (1 Awst) mae Ail-fframio Picton, arddangosfa dan arweiniad cymunedol, yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae'r arddangosfa yn cynnwys dau waith comisiwn newydd, fydd yn dod yn rhan o gasgliad cenedlaethol Cymru. Mae'r ddau waith comisiwn yn cynnwys gosodwaith ymdrwythol o gerfluniau, gwrthrychau o gasgliadau Amgueddfa Cymru, ffotograffau trawiadol a ffilm. Bydd y gweithiau hyn yn helpu i ail-fframio hanes yr Is-gadfridog Syr Thomas Picton (1758-1815) gan roi llais i'r bobl gafodd eu heffeithio fwyaf gan ei weithredoedd a'r bobl sy'n byw gyda'r waddol hyn heddiw.

Yn ogystal â'r gweithiau comisiwn, bydd portread yr Is-gadfridog Syr Thomas Picton yn dychwelyd i waliau'r oriel mewn ffrâm gludo, ar ôl bod yn absennol ers Tachwedd 2021. Mae'r portread gan Syr Martin Archer Shee wedi bod yn rhan o gasgliadau Amgueddfa Cymru ers ei sefydlu ym 1907.

Gwnaed y penderfyniad i ail-ddehongli'r portread fel rhan o Ail-fframio Picton – rhaglen dan arweiniad pobl ifanc o Rwydwaith Arweiniad Ieuenctid y Panel Cynghori Is Sahara (SSAP) a Chynhyrchwyr Amgueddfa Cymru. Gweithiodd tîm y project gyda churaduron yr Amgueddfa i ddarparu rhagor o wybodaeth a chyd-destun o hanes Picton fel llywodraethwr Trinidad ar droad y 19eg ganrif. Mae hyn yn cynnwys ei driniaeth giaidd o bobl Trinidad, gan gynnwys arteithio Lusia Calderon, merch 14 oed – gwybodaeth oedd ddim yn rhan o ddehongliad gwreiddiol yr Amgueddfa o'r portread.

Edrychodd tîm y project ar amrywiaeth o wrthrychau o gasgliadau Amgueddfa Cymru er mwyn ail-ddehongli naratif Picton. Ymhlith y gwrthrychau hyn mae trawsgrifiad newydd o achos llys Picton ym 1806; medalau gwrthgaethwasiaeth a gynhyrchwyd i gefnogi'r mudiad ym Mhrydain Fawr yn niwedd y 18fed ganrif; a medal o Eisteddfod Caerfyrddin 1819 am farwnad i Thomas Picton. Bu tîm y project yn ymgynghori â Culture&, elusen celfyddydau ac addysg annibynnol, ar wahanol ffyrdd o fynd ati i ail-ddehongli’r portread.

Dywedodd tîm Ail-fframio Picton:

"Am genedlaethau, hyd heddiw hyd yn oed, mae dweud 'mae Bywydau Du o Bwys' wedi bod yn ddadleuol. Wrth weithio ar y project hwn fe wnaethon ni bwynt i ddatgelu – nid dileu – hanes, ac roedd hi'n hollbwysig cael cyfraniad uniongyrchol pobl sy'n gysylltiedig â Thrinidad ble enillodd Picton enw am greulondeb yn ystod ei gyfnod fel Llywodraethwr.

"Un o amcanion yr arddangosfa oedd creu lle cydwybodol, nid lle i bregethu. Lle i agor trafodaeth rhwng amgueddfeydd, llywodraethau sy'n eu hariannu, a'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu. Creu dulliau llesol o wynebu trawma. gobeithiwn y bydd yr arddangosfa yn annog ymwelwyr o bob cefndir i wrando a dysgu o'r gorffennol, ac i arfer eu gwybodaeth newydd o ddydd i ddydd."

Comisiynwyd dau waith ar ôl galwad gan Amgueddfa Cymru yn Ionawr 2021 i artistiaid edrych am naratif trefedigaethol gwahanol i'r un gaiff ei gyflwyno gan y portread o'r Is-gadfridog Syr Thomas Picton, naratif sy'n ganolog i brofiad pobl Ddu.

Mae'r gweithiau newydd gan Gesiye a Laku Neg yn trafod cyndeidiau, iachau, gweddnewid a grymuso, ac yn herio'r naratifau trefedigaethol traddodiadol yn orielau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd drwy roi llwyfan i ymwybod, profiadau, a lleisiau Du.

Artist amlddisgyblaethol o Drinidad a Thobago yw Gesiye (ge-si-e). Mae ei gwaith gydag unigolion a chymunedau yn trafod storia, cyswllt ac iachau mewn sawl cyfrwng, ac wedi cael ei ysbrydoli gan gariad a pharch dwfn at y tir. Mae ei chomisiwn, Mae'r Briw yn Borth yn defnyddio catharsis derbyn tatŵ i edrych ar drawma yn ymwneud â'r tir sy'n pontio'r cenedlaethau. Mae ei gosodwaith yn cynnwys cyfres o ffotograffau a ffilm fer. Mae pob tatŵ yn y gwaith hwn sy'n pontio cenedlaethau wedi'u cysylltu drwy animeiddio stop-motion, gan rymuso o'r newydd a dod yn borth i ailgysylltu â'r hunan, gyda'n gilydd, a gyda'r tir.

Dywedodd Gesiye:

Mae'r offrwm iachaol hwn yn borth, yn awdl i'n hynys, i'w phrydferthwch ac i'n perthyn. Mae trawma caethwasiaeth a threfedigaethu yn parhau i effeithio ar berthynas diaspora Affrica â'r tir. Yn Mae'r Briw yn Borth rydw i'n defnyddio dulliau iachau diaspora Affrica i wau mytholeg o dir a phersonoldeb, i ddathlu hunaniaeth bersonol wrth greu gofod i gydnabod ein gwirioneddau a gweddnewid ein poen. Rwy'n gwerthfawrogi'r cyfle i greu'r gwaith hwn ar y cyd â cherddorion, dylunwyr, cynhyrchwyr ffilmiau, ffotograffwyr ac wyth gwirfoddolwr o bob cwr o'r ynys, wnaeth gyfarfod am y tro cyntaf drwy'r profiad.

Cynrychiolir Laku Neg (iard Ddu yn iaith Kwéyòl Haiti) gan bedwar artist – tri o dras Trinidadaidd – sy'n byw ac yn gweithio yn y DU. Mae'r grŵp yn hyrwyddo mynegi gwybodaeth diaspora Affrica drwy'r celfyddydau. Gosodwaith ymdrwythol yw eu comisiwn Spirited – tapestri o atgofion a dealltwriaeth sy'n cynnwys cerflunwaith metel, fframiau bambŵ, papur wedi'i blethu, gwrthrychau wedi'u canfod ac elfennau gweledol. Ysbrydolwyd y gwaith gan draddodiadau, arferion ac estheteg Ol' Mas' Carnifal Trinidad a Thobago. Mae'r comisiwn yn cyflwyno o'r newydd Luisa, thisbe a Present - tair y gwyddom iddyn nhw ddioddef dan deyrnasiad ciaidd Picton yn Nhrinidad.

Dywedodd Laku Neg:

Mae'r gwaith cyndeidiol hwn yn amlygu traddodiadau torredig Affrica yn Nhrinidad sy'n greiddiol i'n diwylliant ynys. Yma rydyn ni'n ail-greu cyfnod lle mae hanes Triniad a Chymru yn gorgyffwrdd. Mae'n gelfyddyd a gludir o'n dychymyg; mae'n cael ei ysgogi gan brofiad a gwybodus gan, nid ymateb i, hanes. Mae'n dwyn olion bysedd cymunedau o gefnogwyr yn Trinidad ac yng Nghymru, a helpodd i wireddu gweledigaeth a darddodd yn ein buarth."

Dywedodd Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru:

Mae'r project yn ffrwyth partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Rhwydwaith Arweiniad Ieuenctid y Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP), a Chynhyrchwyr Amgueddfa Cymru. Mae'n dyst i bwysigrwydd a chanlyniadau positif cydweithio a gwrando ar ein gilydd.

Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i bobl ifanc Rhwydwaith Ieuenctid SSAP am roi o'u hamser i gydweithio â ni yn y r Amgueddfa, ac rydyn ni'n falch iawn o'r gweithiau sydd bellach yn rhan o'r casgliad cenedlaethol. Diolch i'r artistiaid am weithio drwy bandemig ac ar draws ffiniau rhyngwladol. Gobeithio bydd y gweithiau yn sbarduno sgyrsiau am gynrychiolaeth, a niferus hanesion Cymru mewn amgueddfa fodern.

Dywedodd Fadhili Maghiya, Cyfarwyddwr y Panel Cynghori Is-Sahara:

"Am flynyddoedd lawer mae Picton wedi cael ei ddyrchafu yng Nghymru. Nawr, am y tro cyntaf, mae gan gymunedau a gafodd eu hecsploetio a'u cam-drin gan Picton a'i debyg gyfle i ddathlu.

"Ein straeon ni, wedi'u hadrodd drwy gyfrwng gweithiau celf prydferth a positif, yn dathlu ein dycnwch ac yn cofio ein treftadaeth a'n hanes – ein hochr ni o'r stori.

"Mae'n bosib bydd camddealltwriaeth bod Amgueddfa Cymru a Rhwydwaith Arweiniad Ieuenctid y Panel Cynghori Is-Sahara yn ceisio ail-ysgrifennu hanes. Ond mae hyn yn bell o'r gwir. Nod Ail-fframio Picton yw ail-ysgrifennu'r dyfodol, drwy herio sut fyddwn ni'n trafod hanes. Mae'r project yn ein galluogi i daflu goleuni ehangach ar hanes sydd wedi cuddio tywyllwch Picton ers blynyddoedd, a dangos ei gyd-destun gwir, cyflawn. Mae Rhwydwaith Ieuenctid SSAP ac Amgueddfa Cymru wedi chwarae rôl allweddol yn llywio sgyrsiau pwysig am ein Cenedl a'r gorffennol. Gobeithio taw dyma ddechrau darganfod a rhoi llwyfan i'r niferus leisiau cudd sydd wedi gwneud Cymru yn genedl lwyddiannus, gyda chyfrifoldeb rhyngwladol sy'n dod a chymunedau ynghyd i ffynnu."

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

"Rydyn ni wedi ei gwneud hi'n glir ein bod ni wedi ymrwymo i greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Ond er mwyn cyflawni'r amcan hwnnw, mae'n rhaid i ni i gyd feddwl am bwy yr ydyn ni’n ei goffáu a’r ffordd yr ydyn ni’n gwneud hynny.

Mae Amgueddfa Cymru wedi gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i ddiweddaru ei dehongliad o Picton. Mae prosiectau fel hyn, yn dangos pa mor bwysig yw deall ein gorffennol. Dyw hyn ddim yn ymwneud ag ail-ysgrifennu hanes, mae'n ymwneud â thynnu sylw at y cyd-destun, a chymryd golwg fwy cyfannol ar ein gorffennol.

Rydyn ni’n gwybod mai dim ond dechrau’r daith yw hyn, a bod angen help ein cymunedau i greu'r Cymru Wrth-hiliol yr ydyn ni i gyd eisiau byw ynddi, a ffynnu ynddi. Os gwnawn ni hyn yn iawn, byddwn ni'n creu cymdeithas lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi am bwy ydyn nhw a'r cyfraniad y maen nhw'n ei wneud."

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol. 

Rydym yn croesawu pawb o bob cymuned am ddim, diolch i nawdd Llywodraeth Cymru. 

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu. 

www.amgueddfa.cymru  

Mae projectau ieuenctid ar draws Amgueddfa Cymru yn rhan o gynllun Dwylo ar Dreftadaeth, sy'n bosibl diolch i Grant Tynnu'r Llwch Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.