Datganiadau i'r Wasg

Y Pwll Mawr yn ennill y wobr fawr

Heno (26 Mai), mae'r Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru yn dathlu llwyddiant wrth drechu cystadleuaeth gadarn i ennill gwobr fawr Gulbenkian am Amgueddfa'r Flwyddyn — gwobr gwerth £100,000.

Mae Pwll Mawr yn un o chwech o amgueddfeydd a weinyddir gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru. Wrth dderbyn y wobr mewn noson gala arbennig yn Llundain, meddai Ceidwad a Rheolwr y Pwll, Peter Walker:

"Mae hi wedi bod yn dipyn o brofiad cymryd rhan yn y wobr yma, ac rydyn ni wrth ein boddau i fod yma heno fel enillwyr."

"Roedden ni am i'r Pwll Mawr ennill y wobr yma am bob math o resymau. Mae'n profi ein bod ni wedi dod i oedran fel amgueddfa genedlaethol, a'n bod ni'n rhoi profiad gwych i'n hymwelwyr - y mae nifer ohonyn nhw'n dod nôl dro ar ôl tro. Mae'r Pwll Mawr yn lle arbennig, ac rydw i wrth fy modd bod beirniaid eleni yn teimlo'r un ffordd â ni am yr amgueddfa.

"Mae ein harianwyr wedi bod gyda ni bob cam o'r ffordd, ac rydyn ni'n eithriadol o ddiolchgar iddyn nhw am eu cefnogaeth a'u hanogaeth dros y blynyddoedd diwethaf. Mae eu ffydd ynom ni yma wedi talu ar ei ganfed yma heno, gobeithio."

Dywedodd Alun Pugh, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon:

"Mae hon yn gamp aruthrol ac yn un y mae'r Pwll Mawr yn ei llawn haeddu. Mae gwybodaeth ac ymroddiad y staff, ynghyd â'r gwaith ailddatblygu diweddar, wedi gwneud y Pwll Mawr yn atyniad o safon ryngwladol. Ma ennill gwobr Gulbenkian yn gydnabyddiaeth haeddiannol o hynny. Fel mab i löwr, mae diddordeb arbennig gen i yn y Pwll Mawr, felly rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gallu cefnogi'r rhan amhrisiadwy yma o'n treftadaeth ddiwydiannol."

Denodd y Pwll Mawr 141,000 o ymwelwyr i fwynhau'r atyniadau unigryw'r safle yn 2004 — mwy nag erioed o'r blaen — yn sgil gwaith datblygu diweddar gwerth £7 miliwn. Prif arianwyr y gwaith oedd Cronfa Dreftadaeth y Loteri, gydag arian pellach gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Bwrdd Croeso Cymru, yr Ymddiriedolaeth Adfywio Lleol, Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo a nifer o ymddiriedolaethau a chronfeydd preifat.

Meddai Jennifer Stewart, Rheolwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru, sef prif arianwyr project y Pwll Mawr: "Mae'r ffaith fod un o safleoedd treftadaeth pwysicaf Cymru wedi ennill cydnabyddiaeth gyda gwobr mor glodfawr yn newyddion rhagorol. Mae gweld effaith dros £5 miliwn o arian chwaraewyr y Loteri yma — yn nhermau cadwraeth, adfywiad a balchder yn ein treftadaeth lofaol — yn ofnadwy o werth chweil. Mae ein gorffennol diwydiannol yng Nghymru'n rhan annatod o fywydau'r cymunedau lleol ac mae llwyddiannau sy'n torri tir newydd, fel y Pwll Mawr, yn denu ymwelwyr. Rydyn ni'n gobeithio gweld llawer mwy o amgueddfeydd llwyddiannus yn y dyfodol!"

Fel rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, mae'r Pwll Mawr yn allweddol wrth adrodd stori treftadaeth ddiwydiannol y de. Mae'n cydweithio'n agos â HERIAN, y bartneriaeth o awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus a grwpiau gwirfoddol a sefydlwyd i hyrwyddo treftadaeth er budd yr economi a'r gymuned.

Mae safleoedd eraill AOCC yn cynnwys yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion, Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor yn Abertawe yn nes ymlaen eleni, gan adrodd stori pobl, diwydiant a blaengaredd yng Nghymru.

Mae mynediad i holl safleoedd AOCC am ddim, diolch ii gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

-Diwedd-

Nodiadau i Olygyddion

  • I gael rhagor o fanylion am y Pwll Mawr yn ennill gwobr Gulbenkian, cysylltwch â

    Kathryn Stowers,
    Swyddog y Wasg: Pwll Mawr
    07970 017210
    kathryn.stowers@amgueddfacymru.ac.uk

    Gwenllïan Carr
    Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, AOCC
    07974 205 849
    gwenllian.carr@amgueddfacymru.ac.uk

  • Mae panel beirniaid gwobr Gulbenkian 2005 yn cynrychioli amrywiaeth eang o ddiddordebau artistig, gwyddonol ac academaidd:
  • Joan Bakewell CBE, darlledydd ac awdur
  • Syr Neil Chalmers, Warden Coleg Wadham, Rhydychen a chyn-Gyfarwyddwr yr Amgueddfa Hanes Natur
  • Michael Day, Prif Weithredwr, Palasau Brenhinol Hanesyddol
  • Sokari Douglas Camp, cerflunydd
  • Victoria Hislop, newyddiadurwraig a nofelydd
  • Dr Elizabeth Mackenzie, Is-gadeirydd Cymdeithas Cyfeillion Amgueddfeydd Prydain.
  • The Museum Prize, cwmni elusennol a grëwyd gan gynrychiolwyr Treftadaeth Genedlaethol, Cymdeithas yr Amgueddfeydd, Y Gronfa Gasgliadau Celf Genedlaethol a'r Ymgyrch dros Amgueddfeydd sy'n gweinyddu Gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn Gulbenkian. Cytunodd y cyrff yma i gefnu ar eu hen wobrau (gan gynnwys Amgueddfa'r Flwyddyn Treftadaeth Genedlaethol) a chefnogi'r wobr yma. Arglwyddes Cobham yw cadeiryddes Gwobr yr Amgueddfeydd. Mae'r ymddiriedolwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o'r pedwar corff fu'n gyfrifol am sefydlu'r wobr.
  • Sefydliad Calouste Gulbenkian sy'n ariannu Gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn Gulbenkian. Mae Cangen Sefydliad Calouste Gulbenkian yn y DU yn gyfrifol am gymorth grant yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon. Mae'n cynnal rhaglenni cyllid ym maes y celfyddydau, lles cymdeithasol, addysg a chysylltiadau diwylliannol Eingl-Bortwgeaidd.
  • Mae'r Pwll Mawr ar agor saith niwrnod yr wythnos o ganol Chwefror hyd ddiwedd Tachwedd, 9.30am–5pm. Mae'r teithiau danddaear yn rhedeg yn gyson rhwng 10am a 3.30pm.