Datganiadau i'r Wasg

Sgwariau Gweu i Sêr y Sgwâr

Bydd siwmper, gafodd ei gweu gan weithdy crefftau Twin Made a'i chyflwyno'n arbennig i un o sêr WWE, Drew McIntyre, yn nigwyddiad Clash at The Castle yn Stadiwm Principality, Caerdydd ar 3 Medi, i'w gweld yn Amgueddfa Wlân Cymru tan 3 Tachwedd 2022. 

Sgwariau Gweu i Sêr y Sgwâr

Sgwariau Gweu i Sêr y Sgwâr

Sgwariau Gweu i Sêr y Sgwâr

Sgwariau Gweu i Sêr y Sgwâr

Sgwariau Gweu i Sêr y Sgwâr

Mae'r siwmper unigryw wedi ei gweu yn gyfangwbl o wlân defaid lleol ac yn plethu motiffau enwog Cymru fel y llwy garu a'r ddraig goch â motiffau WWE fel y sgwâr, y belt, a logo Clash at the Castle wedi ei wnïo’n fedrus ar y cefn. Gweithiodd 11 o grefftwyr Twin Made am gyfanswm o 69 awr i weu'r siwper ryfeddol. 

 

Cafodd dwy elfen eu gweu i ddathlu diwylliant Cymru ar achlysur gorsnest Clash at the Castle – digwyddiad mawr cyntaf WWE mewn stadiwm yn y DU ers dros 30 mlynedd. Gwelwyd rhai o sêr mwyaf WWE yn perfformio, gan gynnwys Drew McIntyre, Roman Reigns, Liv Morgan, Bianca Belair, Rey Mysterio, Edge a Seth Rollins.

 

Dywedodd Charlotte Peacock, sylfaenydd Twin Made: 

 

"Roedd hwn yn broject perffaith i fi a phawb aeth ati i weu. Fe gawson ni gymaint o hwyl yn dylunio, meddwl am syniadau, a chreu rhywbeth sy'n plethu traddodiadau Cymru a'r digwyddiad hanesyddol hwn."

 

Gall ffans reslo nawr weld y siwmper yn Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre, Llandysul rhwng 12 Medi a 3 Tachwedd 2022. Gall un ffan WWE lwcus hefyd ennill y siwmper drwy ddilyn cyfri Instagram @wweuk. 

 

 

Dywedodd Ann Whittall, Pennaeth Amgueddfa Wlân Cymru: 

 

"Doeddwn i byth yn meddwl bydden i'n siarad am wlân Cymru a reslo yn yr un frawddeg. Mae'n bleser gallu arddangos y siwmper wlân unigryw hon yn yr Amgueddfa, a gobeithio y bydd ffans WWE yn mwynhau ymweld i weld yr eitem hon o hanes reslo eu hunain."

 

 

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. 

 

Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol. 

 

Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac rydyn ni'n croesawu pobl o bob cymuned.

 

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu. 

www.amgueddfa.cymru