Datganiadau i'r Wasg

Cefnogaeth I'r Amgueddfa Gan Brif Weinidog Cymru

Ar ymweliad ag Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, heddiw (27 Mai 2005), soniodd y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, am ei falchder wrth glywed am lwyddiant Pwll Mawr

Wrth groesawu'r newyddion bod Pwll Mawr wedi ennill y gystadleuaeth, dywedodd:

"Rwy'n hynod falch bod Pwll Mawr wedi llwyddo yn y gystadleuaeth aruchel hon eleni. Mae'n hwb mawr i waith yr Amgueddfeydd ac i Gymru yn gyffredinol. Mae'n arwydd pendant bod y gwaith a wnaethpwyd i godi proffil y casgliadau diwydiannol dros y blynyddoedd diwethaf wedi dwyn ffrwyth. Mae hon yn gystadleuaeth hynod bwysig i'r sector amgueddfaol, ac rwy'n arbennig o falch o ddathlu llwyddiant Pwll Mawr yn un arall o'r amgueddfeydd diwydiannol yma yn Llanberis."

Roedd ymweliad y Prif Weinidog hefyd yn gyfle iddo daro golwg ar y gwaith sydd wedi'i wneud yn y Llofft Batrwm, gwaith a fu'n bosibl diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Meddai Dafydd Roberts, Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru:

"Mae'r grant a ddaeth i AOCC gan Lywodraeth Cynulliad Cymru y llynedd wedi ein galluogi i weithio ar ein Llofft Batrwm. Bydd y rhaglen o welliannau i'r Llofft yn debyg o gymryd cryn dipyn o amser ond disgwylir y bydd y rhan yma o'r safle yn agor yn swyddogol i'r cyhoedd cyn diwedd y flwyddyn. Mae'n bleser cael croesawu'r Prif Weinidog yma heddiw i weld y gwaith."

Mae'r ymweliad heddiw hefyd yn gyfle i'r Prif Weinidog gael gweld llwyddiant y polisi mynediad am ddim, a gychwynwyd yn 2001. Ers hynny, mae'r Amgueddfa Lechi wedi llwyddo i ddenu mwy o ymwelwyr nag erioed o'r blaen.

Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn un o chwe safle Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru. Mae safleoedd eraill AOCC yn cynnwys yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion, Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nre-fach Felindre a Phwll Mawr ym Mlaenafon. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor yn Abertawe yn nes ymlaen eleni, gan adrodd stori pobl, diwydiant a blaengaredd yng Nghymru.

Mae mynediad i holl safleoedd AOCC am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.