Datganiadau i'r Wasg
Darganfod ffosilau newydd yng Nghanolbarth Cymru – o bosib y rhywogaethau cyntaf o'u bath yn Ewrop
Dyddiad:
2022-11-16Mae’n bosib taw dau ffosil a ganfuwyd ger Llandrindod yw'r cyntaf o'u bath i gael eu canfod tu allan i Ogledd America. Cafodd y ffosilau eu canfod gan ymchwilwyr Amgueddfa Cymru mewn creigiau a ddyddodwyd dan y môr dros 460 miliwn o flynyddoedd yn ôl, pan oedd canolbarth Cymru dan ddŵr. Credir taw dyma'r rhywogaeth opabinid cyntaf i gael ei ganfod yn Ewrop.
Credir naill ai taw dyma’r rhywogaethau opabinid cyntaf i gael eu canfod yn Ewrop, neu taw dyma grŵp gwahanol o anifeiliaid sy’n allweddol i ddeall esblygiad arthropodau (anifeiliaid cragengorff gyda choesau cymalog, fel crancod a phryfed).
Mewn erthygl a gyhoeddwyd heddiw yng nghyfnodolyn Nature Communications, mae'r ddau sbesimen newydd wedi'u disgrifio o gasgliad o ffosilau yn cofnodi bywyd yn y cyfnod Ordoficaidd, 40 miliwn o flynyddoedd ar ôl y Ffrwydrad Cambriaidd (pan ddiflannodd pob grŵp mawr o anifeiliaid o’r cofnod ffosilau dros amser daearegol cymharol fyr). Canfuwyd y ffosilau yn ystod y cyfnod clo mewn cae defaid gan yr ymchwilwyr annibynnol o Landrindod, Dr Joseph Botting a Dr Lucy Muir, sy'n gymrodyr ymchwil anrhydeddus yn Amgueddfa Cymru.
Ffosilau o anifeiliaid bach iawn, meddalgorff yw’r rhain, sy'n debyg i greadur rhyfedd o'r enw Opabinia oedd yn byw yng Nghanada dros 40 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Disgrifiwyd anifail tebyg o'r enw Utaurora mewn creigiau o oed tebyg yn UDA.
Anifeiliaid morol oedd Opabiniidau. Roedd ganddyn nhw gyrff meddal gyda bongorff tenau gyda rhes o fflapiau ar y ddwy ochr (ar gyfer nofio mae'n bosib) a phâr o goesau trionglog cwta oddi tanynt. Ar un pen i'r bongorff roedd cynffon fel gwyntyll.
Ar y pen arall roedd eu nodwedd amlycaf – proboscis (duryn neu drwnc) hir yn ymestyn o'r pen, fel rhyw fath o sugnydd llwch. Yn wahanol i'r Opabiniidau Cambriaidd, mae rhes o bigau bach ar broboscis y rhywogaeth o Gymru. Y gred yw bod y proboscis yn hyblyg, ac efallai'n cael ei ddefnyddio i gasglu bwyd o wely'r môr a'i symud at y geg, oedd y tu ôl i'r proboscis ar ochr waelod y pen.
Mae'r mwyaf o'r ddau ffosil yn 13mm o hyd, gan gynnwys y proboscis 3mm. Mae'r lleiaf yn 3mm o hyd, gyda'r proboscis bron i draean o'i holl hyd.
Yr enw gwyddonol a ddewiswyd ar gyfer un o'r anifeiliaid ffosil yw Mieridduryn bonniae. Mae gan bob rhywogaeth, boed yn fyw neu wedi marw allan, enw gwyddonol dwy ran – enw genws ac enw rhywogaeth. Enwyd y rhywogaeth ar ôl Bonnie, nyth perchnogion y tir lle canfuwyd y ffosilau, i ddiolch i'r teulu am eu cefnogaeth a'u brwdfrydedd yn ystod y gwaith ymchwil. Daw enw'r genws drwy gyfuno'r geiriau Cymraeg mieri a duryn (proboscis). Ysbrydolwyd hyn gan y rhes o bigau, tebyg i fieri, ar hyd proboscis yr anifail.
Dywedodd Dr Lucy McCobb, Uwch Guradur: Palaeontoleg (Arthropodau) Amgueddfa Cymru;
"Mae hwn yn ganfyddiad gwych gan ein ymchwilwyr. Mae Joe a Lucy yn cydweithio gyda phalaeontolegwyr o bob cwr o'r byd i astudio ffosilau a dehongli'r hyn allan nhw ei ddatgelu am fywyd ym moroedd Cymru dros 460 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
"Wyddon ni ddim os yw'r ffosilau o Gymru yn perthyn i'r un teulu o anifeiliaid a ganfuwyd yng Ngogledd America, ond maen nhw'n sicr yn dangos fod anifeiliaid rhyfedd, tebyg i opabiniidau yn byw yn y moroedd yn llawer hirach nag oedden ni'n ei gredu, a dros ardal ddaerayddol fwy. Rydyn ni'n edrych ymlaen at ddysgu rhagor am y rhyfeddodau Cymreig hyn."