Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn arddangos paentiad gan Manet wedi gwaith cadwraeth

Heddiw (17 Ionawr 2023) mae Amgueddfa Cymru yn falch iawn o arddangos paentiad gan Édouard Manet sydd newydd gael ei adfer, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. 

Mae’r paentiad wedi’i adfer gan arbenigwyr yr amgueddfa diolch i gefnogaeth Cronfa Adfer Amgueddfa TEFAF, Sefydliad Finnis Scott, a Chyfeillion Amgueddfa Cymru.

Cafodd Portrait de Monsieur Jules Dejouy (1879) gan Édouard Manet (1832-1883) ei gaffael gan Amgueddfa Cymru yn 2019 wedi dros 90 o flynyddoedd mewn casgliad preifat. Jules Dejouy oedd y perchennog gwreiddiol, ac mae’r gwaith olew ar gynfas yn parhau mewn cyflwr bron heb ei gyffwrdd, sy’n anarferol am waith o’r cyfnod. 

Roedd y portread angen gwaith cadwraeth llawn pan gyrhaeddodd yr Amgueddfa. Roedd haen o faw a farnais wedi pylu yn ei orchuddio.

Fel rhan o waith cadwraeth a wnaed gan Adam Webster, Prif Gadwraethydd (Celf, y Gwyddorau Naturiol a Chadwraeth Ataliol) Amgueddfa Cymru, mae’r paentiad wedi cael ei lanhau, y farnais wedi ei dynnu, a stribedi wedi’u hychwanegu i’r leinin. Mae hyn wedi gwneud y paentiad yn llawer mwy eglur a sefydlog.

Gwnaed astudiaeth dechnegol o’r paentiad, gydag adlewyrchograffeg isgoch, x-radiograffeg, ac archwiliad o’r paent mewn trawstoriad, er mwyn dadansoddi’r deunyddiau a’r technegau a ddefnyddiodd yr artist. Mae hyn yn ategu dealltwriaeth gyffredinol yr Amgueddfa o waith Manet, gan gynnwys ei ddulliau a’i broses baentio.

Dywedodd Adam Webster, Prif Gadwraethydd (Celf, y Gwyddorau Naturiol a Chadwraeth Ataliol) Amgueddfa Cymru: 

“Gan nad oedd y paentiad hwn wedi cael ei arddangos yn gyhoeddus ers degawdau, roedd y gwaith cadwraeth yn gyfle ardderchog i astudio’r deunyddiau a thechnegau a ddefnyddiwyd gan yr artist fel rhan o’i waith. Roedd yn wych gweld cywreindeb y portread yn dod i’r amlwg wrth ei lanhau. 

“Fel elusen gofrestredig, rydym yn hynod ddiolchgar i TEFAF am eu cefnogaeth, a hoffem ddiolch hefyd i Gyfeillion yr Amgueddfa a Sefydliad Finnis Scott am eu cyfraniadau, sydd wedi ein helpu i warchod y darn pwysig hwn o gelf. Mae’r archwiliad technegol a’r gwaith cadwraeth yn golygu bod gennym well dealltwriaeth o’r portread, ei gyflwyniad, a’i eglurdeb fel gwaith celf.

“Mae’r portread yn ychwanegiad addas i gasgliad Amgueddfa Cymru, sydd â llawer o weithiau eraill Argraffiadol ar Ôl-Argraffiadol pwysig, gan gynnwys tri gwaith arall gan Manet - Effaith Eira yn Petit Montrouge (1870-71), Argenteuil, Cwch (1874), ac Y Gwningen (1881). Rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu ychwanegu paentiad mor deimladwy i gasgliad cenedlaethol Cymru.”

Dywedodd Hidde van Seggelen, Cadeirydd TEFAF: 

“Rydym yn falch dros ben fod Portrait de Monsieur Jules Dejouy gan Édouard Manet yn mynd i gael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn dilyn y project adfer a’r gwaith cadwraeth dwys. Mae sicrhau fod gweithiau celf yn cael eu gwarchod er budd cenedlaethau’r dyfodol yn un o egwyddorion craidd Cronfa Adfer Amgueddfa TEFAF, ac mae’n wych gweld hyn yn cael ei wireddu yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.”

Roedd Jules Dejouy (1815-1894) yn gefnder hŷn i Manet, ac yn ffigwr dylanwadol ym mywyd yr artist. Roedd yn gyfreithiwr llwyddiannus, a benodwyd i Lys Ymerodrol Ffrainc ym 1849. Wedi marw tad yr artist ym 1862, penodwyd Dejouy yn brif gynghorydd i Manet a’i frodyr, a byddai Manet yn dibynnu arno ar adegau allweddol drwy gydol ei fywyd. Yn ystod gwarchae Paris ym 1870 anfonodd yr artist eiddo gwerthfawr at ei gefnder i’w cadw’n ddiogel. Penododd Manet ei gefnder yn ysgutor ei ewyllys hefyd, ac roedd yn rhan o’r pwyllgor a drefnodd arddangosfa 1884 yn dilyn marwolaeth Manet, ar y cyd ag Emile Zola, paentwyr fel Fantin-Latour, a gwerthwyr fel Durand-Ruel a Georges Petit. Roedd y portread hwn yn rhan o’r arddangosfa honno. 

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol. 

Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac rydym yma i bawb o bob cymuned. 

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu. 

www.amgueddfa.cymru

 

DIWEDD

 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â cyfathrebu@amgueddfacymru.ac.uk 

 

 

NODIADAU I OLYGYDDION

CRONFA ADFER AMGUEDDFA TEFAF

Sefydlwyd Cronfa Adfer Amgueddfa TEFAF yn 2012 er mwyn cefnogi a hyrwyddo gwaith adfer proffesiynol ac ymchwil ysgolheigaidd perthnasol ar weithiau celf pwysig mewn amgueddfeydd. Mae’r fenter yn cefnogi pob math o gelf, ac yn gwahodd ceisiadau am grantiau gan amgueddfeydd o bob cwr o’r byd, ar gyfer gweithiau o bob oed. Bob blwyddyn, caiff uchafswm o €50,000 ei glustnodi ar gyfer projectau. Bydd y pwyllgor o arbenigwyr annibynnol fel arfer yn dewis dau enillydd fydd yn derbyn uchafswm o €25,000 i gefnogi eu project cadwraeth.

 

TEFAF

Mae TEFAF yn sefydliad nid-er-elw sy’n hyrwyddo arbenigedd, ac amrywiaeth yn y gymuned gelfyddydol fyd-eang. Tystiolaeth o hyn yw’r amrediad o arddangoswyr a ddewisir ar gyfer ei ddwy ffair flynyddol yn Maastricht ac Efrog Newydd. Mae TEFAF yn cynnig canllaw arbenigol i gasglwyr preifat a sefydliadau, ac yn ysbrydoli pobl sy’n caru ac yn prynu celf ledled y byd.

 

Caiff TEFAF Maastricht ei gynnal yn yr MECC Maastricht o 11-19 Mawrth 2023. Mawrth 9 a 10 trwy wahoddiad yn unig.

 

Caiff TEFAF Efrog Newydd ei gynnal yn Park Avenue Armory o 12-16 Mai 2023. Mai 11 trwy wahoddiad yn unig.

 

TEFAF MAASTRICHT 

TEFAF Maastricht yw prif ffair y byd ar gyfer celf gain, hynafolion a dylunio - 7,000 mlynedd o hanes celf dan yr un to. Gyda dros 260 o werthwyr o ryw 20 o wledydd, mae TEFAF Maastricht yn gyfle i arddangos y gweithiau celf gain orau ar y farchnad. Ynghyd â’r meysydd traddodiadol - yr hen feistri, hynafolion, clasuron - mae’r ffair hefyd yn cynnwys celf fodern a chyfoes, ffotograffiaeth, gemwaith, dylunio’r 20fed ganrif, a gweithiau ar bapur.

 

TEFAF EFROG NEWYDD

Sefydlwyd TEFAF Efrog Newydd yn 2016, fel dwy ffair gelf flynyddol yn y Park Avenue Armory, Efrog Newydd. Erbyn heddiw, mae’n un ffair fawr flynyddol sy’n cynnwys celf fodern a chyfoes, gemwaith, hynafolion a dylunio gan tua 90 o arddangoswyr o bob cwr o’r byd. Tom Postma Design, sy’n gweithio gydag amgueddfeydd, orielau a ffeiriau celf mawr, sy’n gyfrifol am waith dylunio blaengar y ffair, sydd wedi ail-ddychmygu gofod trawiadol y Park Avenue Armory, gan roi teimlad mwy cyfoes iddo.

 

ARCHWILIO CEFNDIR

Mae TEFAF yn falch o’i waith archwilio cefndir trylwyr, a’i ymroddiad i gynnal safon uchel. Fel un o’r prif resymau am lwyddiant TEFAF, mae’n creu’r amgylchedd perffaith i gasglwyr brynu gwaith celf o’r safon uchaf. Am ragor o wybodaeth am safonau archwilio TEFAF, ewch i TEFAF.com/about/vetting.

SWYDDFA’R WASG TEFAF 

Bydeang

Magda Grigorian, magda.grigorian@tefaf.com

DU

Cyfathrebu Diwylliannol, tefaf@culturalcomms.co.uk