Datganiadau i'r Wasg
Canfod Trysor ym Mhowys a De Cymru
Dyddiad:
2023-02-07Mae chwe chanfyddiad, gan gynnwys celc ceiniogau arian Rhufeinig, broetsys arian canoloesol a modrwy aur, wedi eu datgan yn drysor ar ddydd Mawrth 7 Chwefror 2023 gan Patricia Morgan, Crwner Canol De Cymru.
Canfuwyd celc ceiniogau arian Rhufeinig (Achos Trysor 20.21) yng Nghymuned Llanelwedd, Powys rhwng Medi 2020 a Mai 2021, gan Darren Jessett, Justin Thomas a Mark Hewer wrth ddefnyddio datgelydd metel. Mae'r celc yn cynnwys 29 denarii arian o deyrnasiad Vespasian (OC 69-79) i deyrnasiad Antonius Pius (OC 138-161). Mae’n debyg iddo gael ei gladdu, er diogelwch neu fel offrwm efallai, rywbryd rhwng AD 145 a'r AD 160au. Ar y pryd, byddai'r celc yn werth mis o dâl llengfilwr, cyn treuliau. Daw’r ceiniogau a'r person a'u claddodd o bosib o gaer ategol Rufeinig gyfagos Castell Colwyn.
Mae Amgueddfa Sir Faesyfed wedi dangos diddordeb caffael y fodrwy, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor.
Dywedodd Dr Lorna Steel, Curadur Amgueddfa Sir Faesyfed:
"Rydyn ni'n llawn cyffro yn Amgueddfa Sir Faesyfed i glywed bod celc o geiniogau arian Rhufeinig wedi eu canfod gyda datgelyddwyr metel ger Llanelwedd. Y bwriad yw arddangos y ceiniogau gyda'n canfyddiadau Rhufeinig eraill. Wyddon ni ddim pwy gladdodd nhw, na pham, ond gall ymwelwyr â'r amgueddfa weld y casgliad gwych a dysgu rhagor am y Rhufeiniaid yn y Canolbarth.
Canfuwyd broetsh arian canoloesol (Achos Trysor 21.03) yn Chwefror 2021 gan Mr Michael Turner wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir pori yng Nghymuned Llywel, Powys. Trawstoriad siâp cylch sydd i'r ffrâm arian, ac ar un wyneb mae addurn o rigolau gyda nielo du wedi'i fewnosod am yn ail.
Dywedodd Dr Mark Redknap, Amgueddfa Cymru:
"Dyma esiampl o froets canoloesol, o'r 13eg neu'r 14eg ganrif, gydag addurn nielo tywyll. Defnyddiwyd y dechneg addurno dros gyfnod maith, ond roedd yn hynod boblogaidd ar emwaith canoloesol yn y 12fed a'r 13eg ganrif. Mae'r canfyddiad newydd yn ehangu ein dealltwriaeth o'r dechneg yng Nghymru."
Mae y Gaer, Amgueddfa ac Oriel Gelf Aberhonddu, wedi dangos diddordeb caffael y broets, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor.
Canfuwyd modrwy arian (Achos Trysor 21.22) ym mis Mehefin 2021 gan Mr Steve Rolls wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir pori yng Nghymuned Honddu Isaf, Powys. Mae'r fodrwy aur addurnol yn rhannol gau, gyda befel siâp trapezoid â saffir glas bach heb ei dorri (cabochon) wedi mewnosod. Roedd modrwyau o'r fath yn ffasiynol yn y 13eg a'r 14eg ganrif.
Dywedodd Dr Mark Redknap, Amgueddfa Cymru:
"Mae esiamplau tebyg o fodrwyau cau wedi eu canfod yng Nghymru yng Nghymuned Penfro ac ar Benrhyn Angle yn Sir Benfro, ac mae'r canfyddiad newydd hwn yn dangos eu bod i'w gweld yn y mewndir hefyd, ar gyfnod ffurfiannol yn hanes Cymru."
Mae y Gaer, Amgueddfa ac Oriel Gelf A Llyfrgell Aberhonddu, wedi dangos diddordeb caffael y fodrwy, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor.
Dywedodd Kate Riddington, Uwch Guradur y Gaer – Amgueddfa, Oriel Gelf a Llyfrgell Aberhonddu:
“Mae hwn yn ganfyddiad cyffrous i Sir Frycheiniog, a bydd yn ychwanegiad sylweddol i gasgliad yr amgueddfa gan nad oes gennym lawer o fodrwyon canoloesol. Mae'n rhoi cipolwg ar y gorffennol ac yn enghraifft ddiddorol o'r addurniadau roedd pobl y sir yn eu gwisgo. Pe bai Amgueddfa Brycheiniog yn ei chaffael, gallai’r tlws canoloesol gael ei arddangos ochr yn ochr â gwrthrychau eraill o’r cyfnod yn Oriel Brycheiniog.”
Gwrthrychau eraill a ddatganwyd eu bod yn drysorau:
⚫ Canfuwyd modrwy bwysi gilt arian o'r 17eg ganrif (Achos Trysor 19.45) gan Dr Peter Anning wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir pori yng Nghymuned Llanilltud Fawr, Rhondda Cynon Taf ar 6 Tachwedd 2019.
⚫ Canfuwyd modrwy ffyddlondeb aur o'r 17eg ganrif (Achos Trysor 21.02) gan Mr Michael Graham wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir pori yng Nghymuned Penllyn, Bro Morgannwg ar 14 Ionawr 2021. Mae gan Amgueddfa Cymru ddiddordeb mewn caffael yr eitem hon.
⚫ Canfuwyd modrwy gylchog arian ganoloesol (Achos Trysor 21.38) gan Mr Valentinas Avdejevas wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir pori yng Nghymuned Sain Nicolas a Tresimwn, Bro Morgannwg ym mis Gorffennaf 2021. Mae gan Amgueddfa Cymru ddiddordeb mewn caffael yr eitem hon.
DIWEDD
Am ragor o wybodaeth neu ddelweddau, cysylltwch â cyfathrebu@amgueddfacymru.ac.uk
NODIADAU I OLYGYDDION
1. © Amgueddfa Cymru – National Museum Wales yw hawlfraint pob delwedd.
2. Mae Cynllun Henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru) yn raglen sy’n ein galluogi i gofnodi a chyhoeddi canfyddiadau archaeolegol gan aelodau’r cyhoedd. Mae wedi profi’n ffordd hynod effeithiol o gael gwybodaeth archaeolegol hanfodol yn ogystal â denu cynulleidfaoedd a chymunedau nad ydynt yn ymweld ag amgueddfeydd fel arfer.
3. Bob blwyddyn, caiff rhwng 50 a 80 o achosion trysor eu hadrodd yng Nghymru, fel canfyddiadau wedi eu gwneud gan aelodau o'r cyhoedd, pobl gyda'u datgelyddion metel fel arfer. Ers 1997, mae dros 600 o ganfyddiadau trysor wedi cael eu gwneud yng Nghymru, gyda swm y canfyddiadau trysor yn cynyddu'n raddol dros amser, gyda 58 o achosion trysor wedi eu cofnodi yn 2021. Mae'r canfyddiadau hyn yn ychwanegu gwybodaeth a dealltwriaeth newydd pwysig am ein gorffennol, adnodd diwylliannol sy'n gynyddol bwysig i Gymru.
4. Mae'n rhaid i eitemau trysor gael eu hadrodd yn gyfreithiol a'u trosglwyddo i staff PAS Cymru ac Amgueddfa Cymru, fel y prif sefydliad treftadaeth sy'n rheoli gwaith trysor yng Nghymru. Mae curaduron Amgueddfa Cymru yn casglu gwybodaeth fanwl gywir ac yn adrodd ar ganfyddiadau trysor, gan wneud argymhellion i'r crwneriaid, y swyddogion sy'n gwneud penderfyniadau cyfreithiol annibynnol ar drysor a pherchnogaeth.
5. Nodiadau ar gyfer Amgueddfa Sir Faesyfed:
Amgueddfa Sir Faesyfed, Temple Street, Llandrindod, Powys, LD1 5DL
Ar agor: Mercher - Sadwrn
01597 824513
Facebook: chwiliwch am 'Radnorshire Museum'