Datganiadau i'r Wasg

Dathlu GŴYl Y Gwlana Yn Yr Amgueddfa WlÂN Genedlaethol

Mis Gwlana yw Mehefin yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol Dre-fach Felindre, wrth i'r amgueddfa ddathlu un o hen draddodiadau Cymru, gyda chyfres o ddigwyddiadau ar gyfer y teulu cyfan.

Roedd gwlana neu hel gwlân yn ddigwyddiad pwysig yn y calendr cefn gwlad. Byddai'r merched yn dilyn y Porthmyn neu'r Cneifwyr ar hyd eu llwybrau traddodiadol gan gasglu tameidiau o wlân o'r caeau a'r cloddiau. Yna, roeddent yn ei olchi a'i nyddu â llaw a'i ddefnyddio i wau sanau, capiau neu garthenni. Roedd gwau yn weithgaredd cymdeithasol pwysig, gyda phobl yn cyfarfod yng nghartrefi ei gilydd i siarad, canu ac adrodd straeon wrth iddyn nhw wau.

Bydd yr hen draddodiad yn cael ei adfywio dros y mis nesaf. Beth am gymryd rhan yn un o'r gweithgareddau? Gallwch ymuno yn yr hwyl gyda'r Cart Celf