Datganiadau i'r Wasg
Ymwelydd rhif Pedwar Miliwn yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dyddiad:
2023-04-28Ar ddydd Sadwrn 29 Ebrill, bydd yr Amgueddfa yn dathlu croesawu Diwrnod Ymwelydd Rhif Pedwar Miliwn, a phob ymwelydd yn cael pice bach am ddim wrth brynu diod yn y caffi.
Ers agor ei drysau yn Hydref 2005 mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi bod yn adrodd hanes diwylliant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.
Yn ogystal ag arddangosfa dros-dro ddiddorol ar Gamlas Abertawe, gall ymwelwyr hefyd weld yn yr arddangosfeydd craidd sut mae diwydiant ac arloesi yng Nghymru wedi llywio pobl a chymunedau'r genedl.
O beiriannau a cherbydau hanesyddol a 'phethau mawr' eraill, i ddigwyddiadau llawn hwyl, mae rhywbeth i bawb yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Dywedodd Steph Mastoris - Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau:
"Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wrth galon y gymuned, yma yn Abertawe a'r ardal. Rydyn ni'n ganolfan i grwpiau cymunedol, yn gweithio gyda gwirfoddolwyr gwych, ac yn dîm rhagorol o bobl sy'n croesawu ymwelwyr o bell ac agos.
Mae Diwrnod Ymwelydd Rhif Pedwar Miliwn yn garreg filltir falch i'r Amgueddfa, yn enwedig gan ei bod hi’n dathlu dod i oed yn 18 ar 17 Hydref.
Diolch i'n sefydliadau partner i gyd am eu cefnogaeth barhaus ac i'n hymwelwyr i gyd dros y ddwy flynedd ar bymtheg a hanner ddiwethaf.
Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu'r pedwar miliwn ymwelydd nesaf, wrth i ni barhau i adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru."
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.
Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.
Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
Diwedd