Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn caffael gwaith gan yr artist Cymreig Ghanaidd Anya Paintsil

Mae Amgueddfa Cymru wedi caffael gwaith gan un o’r artistiaid Cymreig cyfoes mwyaf cyffrous. Mae Blod (2022), gan yr artist Cymreig Ghanaidd Anya Paintsil, yn portreadu Blodeuwedd o’r Mabinogi. Cyflwynwyd y gwaith gan y Gymdeithas Gelf Gyfoes gyda chymorth ychwanegol gan Ymddiriedolaeth Derek Williams. 

Ganed Anya Paintsil yn Wrecsam yn 1993 ac mae nawr yn byw yn Llundain. Mae’n gweithio gyda thecstilau yn bennaf ac mae’r dechneg o fachu rygiau yn ganolog i’w gwaith.

 

Yn ei gwaith diweddaraf, mae Anya wedi ei gosod ei hun ac aelodau o’i theulu yn y chwedlau Cymreig a Ghanaidd a lywiodd ei magwraeth. Mae Blod yn waith pwysig o’r gyfres hon, a ddangoswyd gyntaf yn ei harddangosfa We Are All Made of You yn Oriel Ed Cross, Llundain yn 2022.

 

Bydd ei gwaith yn aml yn archwilio ei hetifeddiaeth Gymreig a Ghanaidd, ynghyd â’r profiad o gael ei magu fel person o liw yng ngogledd Cymru. Mae ei gwaith wedi’i wreiddio yn ei magwraeth, ac mae’n ddwys ac ysgafn, yn ddireidus a gwleidyddol ar yr un pryd. 

 

Yn ogystal â’r Mabinogion, gwelir dylanwad chwedlau Akan a diarhebion Fante Ghana yng ngwaith diweddaraf Anya. Mae’r ffigwr benywaidd yn Blod, gyda’i braich hir fel bwa ac ambell flodyn arni, yn cynrychioli Blodeuwedd – prif gymeriad Math fab Mathonwy, y bedwaredd gainc a’r olaf o’r Mabinogi. Cawsant eu casglu yn y 12fed a’r 13eg ganrif o’r traddodiadau llafar hynafol a oedd yng Nghymru, a’r Mabinogion yw’r straeon rhyddiaith cyntaf ym Mhrydain.

 

Yn Blod, pa un ai hi ei hun ynteu aelod o’i theulu ydyw, mae’r artist yn gosod corff du yn y traddodiad gwerin Cymreig hwn. Mae Anya Paintsil wedi siarad am bwysigrwydd diffinio ei hetifeddiaeth ddiwylliannol ar ei thelerau ei hun, gan osod ei hun a’i theulu – a’r Gymraeg – mewn ffordd sy’n bersonol a gwleidyddol iawn:

 

“Mae hawlio’r Gymraeg yn fy ngwaith yn fodd i mi ddiogelu fy hunaniaeth Gymreig, gan fod cynifer o bobl wedi cwestiynu hynny yn ystod fy mywyd. Yn eu meddyliau nhw, mae Cymreictod yn homogenaidd wyn, ond mewn gwirionedd, mae gan Gymru un o’r cymunedau hynaf o bobl Ddu yn Ewrop.”[1]

 

Gan dynnu ar yr ‘hiraeth’ am le na ellir dychwelyd iddo, mae gwaith diweddar Anya Paintsil yn cael ei ysbrydoli’n rhannol gan ei hymadawiad â Chymru, a hefyd gan farwolaeth ei nain yn ystod pandemig COVID-19 – Mam ei Mam ddysgodd iddi’r dechneg o fachu rygiau, sy’n elfen mor ganolog o’i gwaith.

 

 

Meddai Alice Briggs, Pennaeth Celf, Amgueddfa Cymru, 

 

“Rydyn ni wrth ein bodd o allu caffael un o ddarnau Anya ar gyfer y casgliad. Mae ei gwaith yn dathlu hunaniaeth, diwylliant ac iaith. Mae Blod yn berthnasol iawn i’n casgliad cyfredol, gan fod y gwaith yn cyfeirio at un o ysgrifau sylfaenol diwylliannol Cymru. Ond yn fwy na hyn mae’n dangos bod diwylliant a hanes yn berthnasol i brofiad cenhedlaeth newydd o artistiaid Cymreig cyfoes sy’n rhoi gwedd newydd arnynt.”

 

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei defnyddio. Rydym yn elusen ac yn deulu o saith amgueddfa genedlaethol a chanolfan gasgliadau a’r cyfan wedi’u lleoli ym mhob cwr o’r wlad. Ein nod yw ysbrydoli pawb drwy stori Cymru, yn ein hamgueddfeydd, mewn cymunedau ac yn ddigidol.

Gallwch ymweld â ni yn rhad ac am ddim, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru ac mae croeso i bawb o bob cymuned.

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru: trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno, neu gyfrannu.

www.amgueddfa.cymru 

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

cyfathrebu@amgueddfacymru.ac.uk 

Dilynwch y saith aelod o deulu Amgueddfa Cymru ar Twitter, Instagram a Facebook.

 

 

Nodiadau i Olygyddion:

 

Anya Paintsil 

Blod (2022)

(C) yr artist, trwy  garedigrwydd Ed Cross Fine Art