Datganiadau i'r Wasg

‘MAKERS OPEN’ CRONFA GELF JERWOOD, 9fed RHIFYN MEWN PARTNERIAETH AG AMGUEDDFA CYMRU

  • Mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, Pitzhanger Manor & Gallery ac Oriel Gelf Efrog
  • Comisiwn sylweddol i bum artist a chrëwr arbennig sydd ar ddechrau eu gyrfa, i arddangos eu gwaith yng Nghymru a Lloegr drwy gydol 2025

Heddiw, mae Jerwood Arts yn cyhoeddi tri phartner newydd i ymestyn cyrhaeddiad eu nawfed rhifyn: Amgueddfa Cymru fel prif bartner, Pitzhanger Manor & Gallery ac Oriel Gelf Efrog.

Bydd pob un o’r partneriaid yn curadu’r gweithiau newydd i gyd-fynd â’u casgliadau a’u cyd-destunau eu hunain er mwyn adlewyrchu gwahanol agweddau ar y broses greu a’i chysyniadau. Mae Amgueddfa Cymru’n gartref i gasgliad eang o weithiau celf, crefft a dylunio sy’n ysbrydoli. Fel amgueddfa genedlaethol, mae’n rhoi llwyfan i arddangos gwaith artistiaid a chrewyr cyfoes. Bydd cael arddangos gwaith yn y gofod hwn yn gyfle llawn bri i’r pum artist a chrëwr gaiff eu dewis. 

Cyn-gartref Syr John Soane yw Pitzhanger Manor & Gallery, ac fel lleoliad sy’n pontio celf, pensaernïaeth a dylunio mae’n cynnig y cyd-destun perffaith i’r gweithiau comisiwn newydd.

Yn Oriel Gelf Efrog, mae’r Ganolfan Gelf Gerameg (CoCA) yn arddangos casgliad helaeth o Gerameg Stiwdio o Brydain, gan gynnwys casgliadau gan WA Ismay, Henry Rothschild ac Anthony Shaw, fydd yn fframio’r gweithiau arloesol a newydd gan y pum enillydd.

Sefydlwyd y wobr yn 2010 ac mae’n gwahodd artistiaid a chrewyr o ystod eang o ddisgyblaethau deunydd a chrefft – gan gynnwys gwydr, tecstilau, cerameg, gofannu arian a mwy – i gyflwyno cynigion uchelgeisiol sy’n arbrofi gyda’u dull gweithio a’u proses ac i wireddu corff newydd o waith.

Hwn yw’r nawfed rhifyn, a’r ail mewn cydweithrediad â’r Gronfa Gelf. Bydd yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn Ionawr 2025, cyn teithio i Pitzhanger Manor & Gallery ym Mehefin 2025, ac Oriel Gelf Efrog yn Hydref 2025.

Bydd y panel dewis, sef curaduron ac artistiaid arbenigol o bob rhan o Brydain, yn cynnwys Dr Helen Walsh, curadur cerameg yn Oriel Gelf Efrog, Angharad Pearce Jones, gof, cerflunydd ac artist gosodwaith sy’n gweithio yng ngorllewin Cymru, Phoebe Collings-James, artist amlddisgyblaethol mewn cerflunio, cerameg, sain a fideo, a Celia Joicey, Cyfarwyddwr Stiwdios Dovecot yng Nghaeredin. Cadeirydd y panel fydd Cyfarwyddwr Jerwood Arts, Lilli Geissendorfer.

Bydd y pum artist a ddewisir yn cael £8,000 i greu comisiynau fydd yn rhoi cipolwg ar beth o’r gwaith newydd mwyaf cyffrous sy’n cael ei gynhyrchu gan artistiaid a gwneuthurwyr yn y DU. Bydd ganddynt wyth mis i ymchwilio a datblygu eu cynigion, a bydd yn gyfle euraid i arbrofi yn ogystal â chreu crefftwaith eithriadol.

Cyhoeddir yr alwad genedlaethol am geisiadau ym mis Hydref 2023 gan Jerwood Arts a bydd yn agored tan fis Rhagfyr 2023. Cyhoeddir enwau’r artistiaid a ddewiswyd ym mis Ebrill 2024. Bwriedir i’r arddangosfeydd agor ar hyd 2025 gan ddechrau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym mis Ionawr y flwyddyn honno.

Yn ddiweddar, gorffennodd yr wythfed rhifyn ei daith genedlaethol yn Oriel Gelf Aberdeen yn yr Alban, gyda gweithiau newydd gan yr artistiaid a ddewiswyd, sef Anna Berry, Cecilia Charlton, Jahday Ford, Vicky Higginson a Francisca Onumah, a Helena Russell – wedi’u dewis o blith dros 500 o geisiadau.

Mae’r cyllid gan Jerwood Arts a’r Gronfa Gelf yn cynnwys talu am Reolwr y Project Arddangos, fydd yn gweithio yn Amgueddfa Cymru, i gefnogi’r project a gwireddu’r comisiynau ar gyfer eu harddangos. Bydd recriwtio ar agor yn fuan.

Meddai Lilli Geissendorfer, Cyfarwyddwr Jerwood Arts: “Mae ehangu ein cyrhaeddiad cenedlaethol i gysylltu artistiaid ar ddechrau eu gyrfa o bob rhan o’r DU â chyfleon proffil uchel yn greiddiol i’n gwaith. Mae’n bleser gallu cyhoeddi’r nawfed rhifyn hwn o Makers Open Jerwood gyda chefnogaeth y Gronfa Gelf, gan greu gofod gwerthfawr ar gyfer arbrofi yn y fan lle mae’r celfyddydau cymhwysol a gweledol yn cwrdd, yn rhai o’r amgueddfeydd ac orielau mwyaf cyffrous ledled y DU.” 

Meddai Jenny Waldman, Cyfarwyddwr, y Gronfa Gelf: “Mae Makers Open gan Gronfa Gelf Jerwood yn cynnig cyfle datblygiadol unigryw i artistiaid a churaduron ar ddechrau eu gyrfa i fod yn feiddgar ac arbrofol yn eu gwaith. Rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi gallu cefnogi’r nawfed rhifyn hwn drwy ein rhaglen grantiau Reimagine, fydd yn gweld tri phartner newydd gwych – Amgueddfa Cymru, Pitzhanger Manor & Gallery ac Oriel Gelf Efrog – yn datgloi ffyrdd newydd o ymwneud â’u cynulleidfaoedd a’u casgliadau.”

 

Dywedodd Nia Williams, Cyfarwyddwr Addysg a Rhaglenni Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru: “Mae Amgueddfa Cymru’n falch iawn o gydweithio â Jerwood Arts i ddod â Makers Open Cronfa Gelf Jerwood i Gymru. Fel partner arweiniol, croesawn y cyfle i fod yn gartref i reolwr project arddangos, gan ddatblygu sgiliau a chapasiti y mae mawr eu hangen o fewn y sector. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid ar y wobr bwysig hon i arddangos gwaith newydd gan artistiaid a chrewyr eithriadol ym Mhrydain sydd ar ddechrau eu gyrfa.”

Meddai Clare Gough, Cyfarwyddwr, Pitzhanger Manor & Gallery: “Mae Pitzhanger Manor & Gallery wrth ein bodd o gydweithio â Makers Open Cronfa Gelf Jerwood. Nod Pitzhanger yw ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol ym maes celf, pensaernïaeth, a dylunio. Rydym yn falch iawn o gydweithio ar broject sy’n cefnogi ac yn arddangos gwaith artistiaid a chrewyr newydd yn llwyddiannus ac sy’n ennyn diddordeb cynulleidfaoedd newydd eang ym myd y celfyddydau.”

Dywedodd Beatrice Bertram, Uwch Guradur, Oriel Gelf Efrog: “Rydym wrth ein boddau y bydd Oriel Gelf Efrog, cartref y Ganolfan Gelf Geramig, yn bartner lleoliad ar gyfer Makers Open Cronfa Gelf Jerwood yn 2025. Rydym yn angerddol dros gefnogi artistiaid a chrewyr newydd a thros gyflwyno’u gwaith i gynulleidfaoedd ehangach yn ein rhanbarth.”

Ariennir Makers Open Cronfa Gelf Jerwood gan Jerwood Arts a’r Gronfa Gelf drwy grantiau Reimagine, fe’i cyflwynir gan Jerwood Arts mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru a bydd yn teithio i Oriel Gelf Efrog a Pitzhanger Manor & Gallery, Llundain.

 

DIWEDD

 

Cyswllt cyfryngau:

Susie Gray, The Corner Shop PR, susie@thecornershoppr.com 07834 073795
Gweler lluniau o’r panelwyr yma

Nodiadau

Mae Makers Open Cronfa Gelf Jerwood yn gyfle comisiynu mawr sy’n cefnogi pum artist a chrëwr ar ddechrau eu gyrfa i arbrofi, dysgu a chymryd risgiau gydag wyth mis o gefnogaeth guradurol a chymorth cynhyrchu i greu gwaith newydd ar gyfer arddangosfa deithiol genedlaethol.

Sefydlwyd Makers Open yn 2010 i gydnabod a hyrwyddo arwyddocâd yr arfer a’r broses o greu yn y celfyddydau gweledol cyfoes. Mae’n cefnogi artistiaid a chrewyr eithriadol sy’n gweithio ym Mhrydain i ddatblygu eu syniadau creadigol yn annibynnol, gan eu galluogi i arbrofi, dysgu a mentro gyda chefnogaeth guradurol sylweddol. Dyma’r nawfed rhifyn a’r ail dro inni gydweithio gyda’r Gronfa Gelf mewn partneriaeth newydd gyda Amgueddfa Cymru, fydd yn rhoi cartref i Reolwr Project Arddangos penodedig i gefnogi’r project a gwireddu’r comisiynau ar gyfer eu harddangos. Bydd yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym mis Ionawr 2025, cyn teithio i Pitzhanger Manor & Gallery ym Mehefin 2025, ac Oriel Gelf Efrog ym mis Hydref 2025.

Jerwood Arts

Jerwood Arts yw’r prif gyllidwr annibynnol sy’n ymroi i gefnogi artistiaid, crewyr, curaduron a chynhyrchwyr ar ddechrau eu gyrfa i ddatblygu a ffynnu ledled gwledydd Prydain. Rydym yn frwd dros gefnogi rhyddid mynegiant artistig a bod mor gynhwysol â phosibl ar draws ein holl waith. Cydweithiwn â sefydliadau ar draws ffurfiau, disgyblaethau a genres celf i greu cyfleon gweddnewidiol a sector mwy cynaliadwy, gan gefnogi gwobrau, cymrodoriaethau, cynlluniau preswyl, projectau, rhaglenni, bwrsarïau a chomisiynau dychmygus. Jerwoodarts.org

Cronfa Gelf

Y Gronfa Gelf yw’r elusen genedlaethol sy’n codi arian ar gyfer celf. Mae’n darparu miliynau o bunnoedd bob blwyddyn i helpu amgueddfeydd i brynu a rhannu gweithiau celf ar draws Prydain, hybu datblygiad proffesiynol eu curaduron, ac ysbrydoli mwy o bobl i ymweld â’u rhaglenni cyhoeddus a’u mwynhau. Mae’r Gronfa Gelf wedi’i hariannu’n annibynnol, gyda chefnogaeth Partneriaid Celf, rhoddwyr, ymddiriedolaethau a sefydliadau a’r 135,000 o aelodau sy’n prynu’r Tocyn Celf Cenedlaethol sy’n caniatáu mynediad am ddim neu am bris is i dros 850 o amgueddfeydd, orielau a lleoedd hanesyddol, mynediad hanner pris i arddangosfeydd mawr, a chylchgrawn Art Quarterly am ddim. Mae’r Gronfa Gelf hefyd yn cefnogi amgueddfeydd drwy ei gwobr flynyddol i Amgueddfa’r Flwyddyn. Enillydd Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2022 yw Amgueddfeydd a Gerddi Horniman.  www.artfund.org.

Pitzhanger Manor & Gallery 

Mae Pitzhanger Manor & Gallery yn Ealing, Gorllewin Llundain, yn adeilad rhestredig Gradd I. Dyma gartref gwledig hanesyddol Syr John Soane, un o benseiri mwyaf rhyfeddol Prydain. Holl amcan Pitzhanger yw hyrwyddo etifeddiaeth Syr John Soane, gan ysbrydoli ymwelwyr gyda gweithiau celf, pensaernïaeth a dylunio, a meithrin creadigrwydd i bawb trwy raglen allgymorth a digwyddiadau helaeth. Mae’r lleoliad yn dathlu athrylith a dylanwad Syr John Soane fel dylunydd drwy arddangos ei bensaernïaeth ochr yn ochr â rhaglen o arddangosfeydd celf gyfoes uchelgeisiol. Ers ailagor yn 2019, yn dilyn project adfer a gefnogwyd gan NLHF ac ACE, mae Pitzhanger wedi cynnal rhaglen arddangos uchelgeisiol gan gynnwys Anish Kapoor, Rana Begum, Julian Opie ac Anthony Caro.

Oriel Gelf Efrog

Mae casgliad Oriel Gelf Efrog yn rhychwantu dros 600 mlynedd, o baneli Eidalaidd o’r 14eg ganrif a champweithiau Iseldiraidd yr 17eg ganrif i waith yr 20fed a’r 21ain ganrif gan LS Lowry, David Hockney, ac artistiaid sy’n dechrau dod i’r amlwg fel Sahara Longe. Drwy’r Ganolfan Gelf Geramig (CoCA) mae’r oriel yn arddangos casgliad helaeth o Gerameg Stiwdio o Brydain, gan gynnwys casgliadau gan WA Ismay, Henry Rothschild, ac Anthony Shaw. Mae gan yr Oriel raglen newidiol fywiog o arddangosfeydd dros dro, gan weithio’n aml gyda phartneriaid ledled Prydain. Yr elusen York Museums Trust sy’n gofalu am yr Oriel a’i chasgliadau. I gael gwybod mwy ewch i www.yorkartgallery.org.uk

Amgueddfa Cymru

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.

Mae Amgueddfa Cymru’n perthyn i bawb ac yma i bawb ei ddefnyddio. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.

Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned.

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.

www.amgueddfa.cymru