Datganiadau i'r Wasg

Mwy o Amser yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar agor tan 7.30pm bob nos Iau o 20 Gorffennaf tan 7 Medi.

 

Bydd mynediad am ddim i’r amgueddfa yn parhau, a gall ymwelwyr archwilio ein treftadaeth ddiwydiannol a morwrol drwy gymysgedd o dechnoleg newydd ac arddangosiadau traddodiadol. 

 

Mae yna hefyd arddangosfeydd dros-dro i’w mwynhau, gan gynnwys arddangosfa i ddathlu 225 mlynedd ers agor Camlas Abertawe. 

 

Bydd y caffi ar agor tan 6.30pm yn gwerthu prydau ysgafn, a bydd cyfle i ymwelwyr roi cynnig ar brintio traddodiadol â llaw.

 

Mae’r amgueddfa wedi’i lleoli mewn warws rhestredig ar y glannau wedi’i gysylltu ag adeilad newydd, cyfoes o lechi a gwydr. Cewch ddarganfod y drafnidiaeth, y deunyddiau a’r rhwydweithiau a oedd mor bwysig a’r ‘pethau mawr’ a gyfrannodd gymaint at hanes diwydiannol ein cenedl. 

 

Dywedodd Janice Lane, Cyfarwyddwr Profiad Ymwelwyr Amgueddfa Cymru:

 

“Mae’n bleser gallu agor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn hwyr ar rai nosweithiau dros yr haf er mwyn galluogi i bobl fwynhau eu hamgueddfeydd a’u casgliadau cenedlaethol am ddim. Mae amgueddfeydd yn llefydd i gyfarfod a threulio amser gyda ffrindiau a theulu, yn ogystal â bod yn llefydd ar gyfer dysgu a lles. Ein gobaith wrth ymestyn ein horiau agor yw rhoi gwahanol gyfleoedd i bobl ddod ynghyd yn ein hamgueddfeydd i archwilio ac i fwynhau. Galwch heibio ar eich ffordd o’r gwaith, ar ôl bod yn siopa, neu dewch yma gyda’ch ffrindiau fel rhan o noson allan.”

 

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. 

 

Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol. 

 

Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned.

 

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu. 

www.amgueddfa.cymru